BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
News imageCymru'r Byd
News image
News imageLlais Llên
News imageAdolygiadau
News imageLlyfrau newydd
News imageAdnabod awdur
News imageGwerthu'n dda
News imageSôn amdanyntNews imagePwy di pwy?
News image
News imageY Talwrn
News image
News imageNewyddion
News imageChwaraeon
News imageY Tywydd
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeonadolygiadau a straeon
Hen Friwiau
Corwynt bywyd Aleska Jones
  • Adolygiad Carys Mair Davies, Llanbadarn, Aberystwyth o Hen Friwiau gan Dyfed Edwards. Gwasg Carreg Gwalch. £6.50


  • Wedi darllen Hen Friwiau gan Dyfed Edwards byddaf yn gwneud yn siŵr fy mod yn cadw'r berl hon.
    Enynnwyd fy niddordeb yn y llyfr o'r cychwyn cyntaf gan brofi'r rhialtwch, y sbort a'r sbri o gael fy nhaflu i gorwynt bywyd y gohebydd Aleska Jones.

    Clawr y llyfr Caiff y darllenydd ei lusgo i fyd o gyfrinachau a sgandal pan ddaw Aleska ar draws stori am lofruddiaeth merch ifanc chwarter canrif yn ôl - llofruddiaeth sydd heb ei datrys.

    Mae Aleska yn benderfynol o ddod sicrhau cyfiawnder i Glenda Rees; y ferch a gafodd ei thagu a'i gadael yn noeth ar waelod coelcerth.

    Wrth iddi dyrchu i'r stori mae Aleska'n tynnu nyth cacwn yn ei phen trwy agor hen friwiau a thynnu sylw lladdwr cyfrwys sy'n fwy na pharod i ladd eto.

    Caiff Aleska ei bygwth, ei herwgipio ddwywaith a'i herlid o'i chymuned pan ddaw ar draws cyfrinachau tywyll pileri'r gymdeithas.

    Pwy a ddychmygai fod uwch arolygydd, sy'n briod â chanddo blant, wedi'i ddal a'i drowsus o amgylch ei sodlau ar ei liniau efo adeiladwr mewn toiledau maes parcio?

    A phwy a ddychmygai fod cyflogwr a'i frawd wedi beichiogi'u chwaer am hwyl gan adael i eraill wneud yr un peth?
    A beth am y gweinidog? Pwy a ddychmygai ddyn yr Efengyl yn treisio merched?
    Neu beth am wraig tŷ gymeradwy? A fuasai hi'n llofruddio chwaer ei gwr pan ganfu fod y ddau yn cael perthynas rywiol?

    Ond mae gan yr uchelgeisiol eu cyfrinachau yn Hen Friwiau. Diwedda'r stori'n benagored pan fo Aleska Jones yn ffarwelio â'i ffrindiau, ei chartref a'i chariad a throi tuag at strydoedd llwch a phalmentydd aur Llundain i gesio anghofio'r wythnosau diwethaf a gadael i'r creithiau wella.

    Stori antur, sydd ymron yn iasoer yw campwaith Dyfed Edwards.

    Mae i'r llyfr glawr iasol gan roi syniad i'r darllenwyr o'r cynnwys ac yn fy marn i mae'r clawr hwnnw yn ategu at yr elfen o erchylltra sy'n hanfod y llyfr.

    Mae sawl elfen i'r stori gan gynnwys cariad, casineb, goddefgarwch a pherthynas mam a merch.

    Ond y brif thema, fodd bynnag, yw'r newid mewn cymdeithas.

    Fy hoff gymeriad yw'r prif gymeriad, Aleska Jones nad ydym yn cael gwybod popeth amdani ar y cychwyn a hynny'n creu elfen o ddirgelwch ynglŷn â hi. Ond wrth i'r plot ddatblygu, felly ei chymeriad hithau.

    Er yn sylweddoli ei bod yn chwarae â thân wrth ddilyn trywydd stori Glenda Rees mae ei 'styfnigrwydd yn gwrthod gadael iddi gladdu'r stori yr eilwaith a hithau'n dawnsio ar ffin beryglus.

    Ond fy hoff elfen ynddi yw ei bod yn gwrthod cael ei rhwystro gan unrhyw beth nac unrhyw un sy'n sefyll yn ei ffordd.

    Adeiladodd wal amddiffynnol gadarn o'i hamgylch ei hun gan wrthod gadael teimladau yn agos ati.

    Dim ond unwaith neu ddwy y cawn gipolwg arni heb ei mantell amddiffynnol a hynny'n peri iddi fod yn gymeriad angerddol iawn.

    Defnyddir iaith eithaf syml, uniongyrchol, diaddurn a deheuol i ddweud y stori.

    Yn fy marn i mae hon yn nofel addas ar gyfer plant 14 oed a throsodd. Mae ychydig o regfeydd a bratiaith.

    Os oes bai o gwbl, y ffaith iddi ddirwyn i ben yn llawer rhy gyflym yw hwnnw felly gobeithio y bydd dilyniant!

    Efallai y gwel rhai y dechreuad ychydig yn aneglur ond mae'n werth dal ati ac yn fuan iawn fe fyddwch yn ei chael yn amhosib rhoi'r llyfr i lawr!

    Mae gan yr awdur dalent werthfawr, dychymyg hudolus a sbarc yn ei ysgrifennu. Ac o ddarllen llyfr arall o'i eiddo buaswn yn llwyr argymell gwaith Dyfed Edwards - yn enwedig Hen Friwiau

  • Gweler Gwales Cliciwch
  • Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng BBC Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008

    Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi .



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewchi'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy