|  |
 |  |  |  |  | |  | Enwau Adar I adarwyr a chyfieithwyr Adolygiad Gwenllïan J Rowlinson o Rhagor o Enwau Adar gan Dewi E. Lewis. Llyfrau Llafar Gwlad, Rhif 66. Gwasg Carreg Gwalch. Clawr medal - £4.95.
Mae llyfryn bach 79 tudalen Dewi E. Lewis yn cynnwys dwy brif restr, Enwau Adar - Cymraeg/Lladin/Saesneg, ac ail restr, Enwau Adar - Saesneg/Lladin/Cymraeg.
Fel cyfieithydd fy hun, credaf fod nodi'r enw Lladin yn angenrheidiol a phob clod i Dewi Lewis am wneud hyn.
Mae'r llyfryn hwn yn dilyn ei gyfrol gyntaf, Enwau Adar a gyhoeddwyd yn 1994.
I brofi'r llyfr dewisais enw Cymraeg ar aderyn ac wedyn enw Saesneg gan chwilio'r llyfr am yr enwau cyfatebol.
Yn y Gymraeg dewisais aderyn y bwn ac roedd yr enw Saesneg cyfatebol bitter yno.
Yr enghraifft Saesneg a ddefnyddiais oedd bullfinch gan ganfod sawl dewis yn y Gymraeg; Aderyn Pensidan, Chwibanydd, Aderyn y Berllan, Bwlffin (Bangor) Rhawngoch, Twm Cwinc (Morgannwg), Aderyn Rhongoch, Aderyn Rhawngoch, Gwas y Siri, Aderyn Coch, Aderyn Rhown Goch (Llandysul), Coch y Gors (Nantgarw), gydag amrywiadau tafodieithol yn dibynnu ar ba ardal yr ydych yn byw gan ei gwneud hi'n bosib dewis yr enw cywir ar gyfer eich ardal chi.
Fel y dywedir yn y broliant ar glawr cefn y gyfrol: "Ceir yma gasgliad gwerthfawr o enwau sy'n haeddu'i le wrth benelin pob adarwr - y rhai sydd yn cael blas ar fyd natur ac ar enwau."
Mae yna lun trawiadol o las y dorlan ar y clawr blaen a dynnwyd gan y diweddar E Breeze Jones - llun sy'n sicr o dynnu sylw'r darllenydd at y llyfryn hwn. Cynlluniwyd y clawdd yn gelfydd gan Siân Parri.
Gyda'r nifer o lyfrau cyfeirio penodol am adar yn brin iawn croesewir y gyfrol fechan hon a fydd yn sicr yn werthfawr iawn i bob adarwr a chyfieithydd fel ei gilydd.
Edrychwn ymlaen at y gyfrol nesaf gyda rhagor o enwau!Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng BBC Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008
Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur TeifiCysylltiadau Perthnasol Adolygiad arall 
 |
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|  |
|  | |  | |  | |  | |  |  |  | Sôn amdanynt Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
|  |  |
|  | |  |  |  | Gair am air: Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|  |  |
|
|
|