BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
News imageCymru'r Byd
News image
News imageLlais Llên
News imageAdolygiadau
News imageLlyfrau newydd
News imageAdnabod awdur
News imageGwerthu'n dda
News imageSôn amdanyntNews imagePwy di pwy?
News image
News imageY Talwrn
News image
News imageNewyddion
News imageChwaraeon
News imageY Tywydd
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeonadolygiadau a straeon
Sgwad Gwen Lasarus
Gŵyl Bedwen Lyfrau , Caernarfon, 2007
Yn y sgwad:
Swyn Llyr, Mared Williams, Megan Donaldson, Catrin Alaw, Robin Williams, Lisa Erin Owen.

Lost Persons Area
Bwrlwm prysur, llychlyd lliwgar
Llamu i fewn drwy ddrysau disgwylgar
Cyffro cynhyrfus hwylus , hapus
Edrych o fy amgylch yn blentyn bach, barus.

Ffair ffantastig wedi cyrraedd y dref
Y candifflos melys, cymylau y nef
Syllu o fy amgylch, lle yr a'i gyntaf ?
Oedi am eiliad cyn chwerthin yn gras

Lost Person's Area - am syniad twp!

Rolar coaster mawr yn fy arwain i fyny
Gwenu fel giat, wrth i'r reid fawr gyflymu.
Wedi iddo orffen , rhedeg i'r nesaf,
Troi o fy amgylch i alw ar fy ffrindiau
Stopio yn stond. Neb. Be wnâi rŵan? Dagrau yn ffurfio, llosgi fy llygaid
Syllu o fy amgylch, be wnâi rŵan?
Cwffio drwy'r dorf agosaf

Lost Person's Area Am syniad da.
Elen Marged Bradley Roberts


GWYNTOEDD CRYF MIS MEHEFIN
Clawr y llyfr Dydd Mawrth y trydydd o Fehefin oedd hi, o'n i mor gyffrous! Well imi ddweud wrthych chi be oedd yn gynta.

Diwrnod priodas Anti Megi a'i chariad newydd Yncyl Jac. Roedd y ddau wedi bod efo'i gilydd ers rhyw flwyddyn a hanner a dyma Yncyl Jac yn gofyn iddi hi ei briodi o.

Ia bron imi anghofio mae Anti Megi yn 66 ac Yncyl Jac yn 65!

Nath y ddau gyfarfod yng Nghyfarfod Merched y Wawr. Roedd Yncyl Jac yno i siarad gyda'r ledis am sut i wneud tarten afal berffaith neu rhywbeth! A roedd yna ryw conection medde Anti Megi rhwng y ddau ohonyn nhw!

Beth bynnag lle o'n i?

Codais ac mi es i lawr y grisiau lle roedd Anti Megi a mam.

'O be nai?' Roedd Anti Megi yn gwisgo rhyw ffrog wen hen ffasiwn o'r pedwar degau. Gath hi fenthyg hi gan nain.

'Be sy?' gofynnais. 'Be sy? Be sy?'
'Wel, ella ti'm di sylwi, ond ma na storm y tu allan!'

Yn anffodus o'n i dal yn hanner cysgu felly nes i ddim sylwi fod Hyricen Catrina tu allan.

Roedd Anti Megi yn edrych yn stressed iawn a'i sbectol anferthol ô'r wythdegau yn stemio i fyny.

'O be wnai?'
'Peidiwch a phanicio Megan,' meddai mam.'Rown ni ymbarel drosoch chi. Fyddwch chi'n iawn!'
'Iawn? Iawn?! Dwi wedi aros pedwar mis i'r diwrnod yma, a be mai'n neud? Glawio!'

Cymrodd chwarter awr i gael Anti Megi allan o'r tŷ a mewn i'r car. Yn anffodus roedd rhaid imi redeg ar ôl Anti Megi gyda'r ymbarel i bob man. Aeth y seremoni'n grêt! Gyda'r ddau gariad yn edrych ar ei gilydd mewn rhyw ffordd anarferol. Aeth y ddau allan o'r capel i gael tynnu llun.

'Rŵan ta Megan ewch chi i fan'cw a Jac dos di i fanna.'

Roedd y ffotograffydd am dynnu'r llun pan ddaeth gwynt cryf a
Ta ta Anti Megi!
Lisa Erin Owen


Llyfrau - gwefan newydd
Ewchi'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy