 | Sgwad Caryl Lewis Gwyl Bedwen Lyfrau Caernarfon, 2007 Yn y sgwad:
Leah Shakespear Huws, Grug Muse, Megan Owen, Llyr Titus Hughes, Hedydd Dyer, Alaw Gwenlli, Betsan Ceiriog,
DRYCH DŴR
Cwch yn teithio drwy'r dŵr llyfn,
Dyfnderoedd clir yn pylu,
Tonnau rhwystredig yn curo'r cei,
Golchi'r traeth yn lân.
Gwymon yn fud ac ysgafn,
Golau y dyfnderoedd yn arian
Adlewyrchu hanesion fel cerdd torcalonnus.
Ewyn yn beryglus a bregus
A'r llong yn sgleinio yn feirniadol.
Ynys y tylwyth,
Goleuadau cartrefol
Yn gwahodd y nôs,
Ail fyw'r atgofion
Y golau'n goleuo o hyd Barddoniaeth yr Haneswyr.
MYNYDD
Mastiau uchel fel sowldiwrs yn y doc
Tonnau'r ddrycin fel cewri blin
Urddas llongau'r hen gei llechi,
Gwynt yn chwipio'r dymestl - ac
Oerni rhewllyd y dyfroedd dyfn,
Hen borthladd o hen amser gynt
Pell yw sŵn y byd a'i helynt
Gwylan unig ar ei thaith
Min nos a'r môr ar dân
Y gwymon fel rhedyn dan wynt.
CEFFYL
Y llanw'n troi'n gyflym
Ewyn gwyn yn fwng ar bob ton
Gwymon tywyll yn gynffon, Camau'n curo'r cerrig mân, Hwyliau llawn fel clustiau glas,
Gwynt yn gweryru dros y traeth.
Curiad cyson drot, drot, at y lan,
Carlamu tua'r creigiau,
Llyfn a hardd yw llif y môr.
Y MÔR
Hwyliau ar gwch fel pig aderyn
Adenydd y tonnau'n taro'r môr
Plu yn chwythu fel ewyn gwyn
Crafangau'n crafu mewn storm o siarcod
Crawcian y wylan yn canu'n ddi-stop
Y dolffin yn nofio'n gyflym ac yn hedfan tua'r top
Y tonnau'n taro'n swnllyd
Broc môr yn fratiog ar y lan,
Gwylanod yn sgrechian eu iaith bratiog,
A physgod byrlymus yn chwilio am fwyd.
Plentyn bach llawn cyffro
Yn nofio yn y môr heddychlon
Mae sisial yr awel yn canu fel côr,
Yn denu pobol gyda'u iaith unigryw.
TRACTOR
Wrth dorri cwys
'fo'r dractor
Cofiais am sŵn y môr
Y croen gwyrddlas ar rwygo
hen gregin fel injian yn taro.
Gwymon fel ôg yn llusgo
a'i dannedd fel teiars yn brathu'r graig.
Cri'r wylan fel gwich y syspension
Ond eto...
Yn wahanol i'r môr
Mae gers hon di jamio. Llyr Titus Hughes
|  | |  | |  | |  | |  |  |  | Sôn amdanynt Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
|  |  |
|  | |  |  |  | Gair am air: Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|  |  |
|
|