|  |
 |  |  |  |  | |  | Y Maison du Soleil Dirgelwch ar wyliau Adolygiad Gwyn Griffiths o Y Maison du Soleil gan Mared Lewis. Gwasg Gwynedd. £7.95.
MaeY Maison du Soleil yn nofel braf i'w darllen ar wyliau - cyn belled nad ydych ar wyliau gyda chriw o ffrindiau, neu o leiaf ffrindiau nad ydych yn eu hadnabod yn rhy dda.
Yn gyfarwydd Mae Mared Lewis yn amlwg yn gyfarwydd â'r darn o Ffrainc lle gosodir y stori.
Rhywle cyfleus i'r Vendée a rhwng Nantes, hen brifddinas dugiaid Llydaw, a La Rochelle.
Rwy'n gyfarwydd ar ddeule cyntaf ac wedi clywed am La Rochelle gan gyfeillion gyda mwy o bres na mi!
Mae disgrifiadau Mared Lewis o'r ardaloedd yn atyniadol; y wlad, y trefi a'r pentrefi bychain a'u marchnadoedd wythnosol. Awyrgylch sy'n codi hiraeth y dyddiau cymylog a glawog hyn am gynhesrwydd heulog hafau Ffrainc.
Mor bwysig yw sicrhau cefnlen sy'n argyhoeddi i nofel ac y mae Y Maison du Soleil yn gwneud hynny gant y cant.
Ffrindiau coleg Yn y stori mae criw o hen ffrindiau coleg yn mynd am eu gwyliau blynyddol i'r tŷ haf yn Ffrainc - ond y tro hwn nid yw seren y cwmni, Esyllt, y ferch gyfareddol, ddawnus sy'n cadw trefn a threfnu popeth, gyda nhw.
Lladdwyd Esyllt mewn damwain yn y cartref ychydig cyn hynny ond y mae Tim, ei gŵr, yn benderfynol eu bod yn dal at yr arfer - am mai "dyna oedd hi isio".
Cedwir y darllenydd yn y niwl ynglŷn â beth oedd gwir ddymuniad Esyllt a beth yw bwriad Tim. Yn sicr mae aelodau'r grŵp yn anghysurus iawn a'r tyndra'n parhau wedi'r cyrraedd.
Mae'r pythefnos yn yr haul heb Esyllt yn dipyn o gyflafan wrth i briodas Gareth a Non ddatgymalu a phrin y gall amynedd rhyfeddol Cadi gyda phawb - gan gynnwys Ben, ei syrffed o ŵr - gadw'r ddysgl yn wastad.
Llwyddir i gynnal yr awyrgylch o dyndra anghysurus yn ardderchog drwy'r nofel i'r graddau na ellir ei rhoi o'r neilltu.
Gorffennol cymhleth Datgelir gorffennol cymhleth y cymeriadau yn ddeheuig a bron bob un â rhyw lun o berthynas gudd ag Esyllt. Cyfrinachau sy'n llwytho'r tŷ haf â'i phresenoldeb. Ond dinistriol yw'r presenoldeb absennol hwn.
Mae gan Mared Lewis ddawn y nofelydd ditectif i osod ambell awgrym i arwain meddwl y darllenydd hyd lwybr cyfeiliornus cyn dod ag e'n ôl â thro sydyn ysgytwol i'r stori.
Mae'r tro yng nghynffon y stori yn ardderchog.
Cysylltiadau Perthnasol Holi Mared Lewis 
|  | |  | |  | |  | |  |  |  | Sôn amdanynt Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
|  |  |
|  | |  |  |  | Gair am air: Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|  |  |
|
|
|