 | Cynefin Gruff Yng nghynefin cwmniwr difyr Adolygiad Bethan Wyn Jones o Cynefin Gruff gan Gruff Ellis. Gwasg Carreg Gwalch. £6.50
Pleser digamsyniol ydi darllen gwaith Gruff Ellis, Ysbyty Ifan, bob amser, a doedd Cynefin Gruff ddim yn eithriad.
Gŵr ei filltir sgwâr ydi Gruff yn ddigon reit ac yn y gyfrol hudolus hon mae'n ein tywys ar hyd ac ar led ei gynefin, ac mi fedrwn ni glywed ei lais cynnes yn ein harwain ni'n sicr ar hyd llwybrau ei fro.
Dros ffriddoedd a dolydd Mae'n mynd â ni dros ffriddoedd a dolydd, drwy gymoedd a dyffrynnoedd, dros fynydd-dir, heibio i gloddiau a thrwy goedwigoedd gan aros a thalu sylw priodol i'r gwahanol gynefinoedd.
A chynefinoedd ydi'r rhain y mae'n eu hadnabod fel cledr ei law a'i adnabyddiaeth ddofn a'i gariad at ardal a bro yn cael eu trosglwyddo i ninnau.
Cychwyn "ar fore Gŵyl San Steffan a 'mhac ar fy nghefn a brechdan neu ddwy" y mae o, a hynny ym Mlaen Eidda Uchaf gan ddisgrifio'r hyn wêl o ar y ffordd.
Ar ôl cyrraedd mae'n edrych yn ôl dros ysgwydd y blynyddoedd a chofio sut roedd pethau yn yr hen dŷ.
"Roedd yna wastad gig mylltyn (oen gwryw teirblwydd) wedi'i halltu a'i hongian o'r nenfwd fel cig moch i'w ddefnyddio fel bo'r angen."
Sylwa Gruff hefyd ar y gwahanol rywogaethau a bron yn ddieithriad mae ganddo stori ddiddorol i'w hadrodd amdanynt.
Disgrifia fel mae'n ymweld â "gweirgloddiau John Tŷ Ucha yng Nghwm Eidda yn gweld yr amrywiol degeirianau".
Mae'n adrodd ei hanes yn dal brithyll hanner pwys pan oedd yn ei arddegau - "roedd lliwiau a'r ysmotiau coch harddaf arno, a rhyw lesni ynddo hefyd," ac rydan ninnau ar lan yr afon hefo fo yn profi'r wefr o weld y brithyll.
Enwau hyfryd Mae'r disgrifiadau o'r blodau - llafn y bladur, helygen Fair a chwys yr haul yn hyfryd, a'r un mor wych ydi'r drafodaeth am y gwahanol fathau o rug a geir ar y Migneint.
Mae'r un mor gartrefol yn trafod anifeiliaid ac adar a chawn hanes y carlwm "claerwyn ond am flaen ei gynffon" a'r dylluan wen oedd "wedi torri ei hadain rywsut".
Mae'r cyfan mor fyw, mor agos atoch chi ac mewn Cymraeg naturiol, glân heb arlliw o lediaith.
Ychwanegiad penigamp ydi'r lluniau lliw ardderchog o'r planhigion a'r tirwedd gan Derek Hughes, a lluniau adar y diweddar Ted Breeze Jones.
Gloynnod Mae tudalen gyfan o loÿnnod byw ac rydan ni'n gallu gweld yn glir geinder rhywogaethau fel y gwibiwr mawr, iâr fach y ffridd a'r fritheg berlog fach.
Cwbl arbennig hefyd ydi'r dudalen sy'n llawn o luniau lliw o adar ysglyfaethus. Roedd yn hyfryd gweld lluniau'r gwahanol degeirianau ac mae'r llun o "un o weirgloddiau blodeuog Tŷ Ucha Eidda" yn arbennig o wych greda i. Yn sicr mae'n llun sy'n dangos cynefin sy'n brin iawn erbyn heddiw.
Mae'r lluniau o Gwm Eidda, Afon Conwy, Llyn Gamallt a'r Migneint a Llyn Serw o Gerrig Llwynogod yn rhai cwbl ramantus, sy'n gwneud i mi ysu am weld y llefydd yma.
Mae'r enwau sy'n frith drwy'r gyfrol yn gyfareddol - Cefn Dylasau, Dôl Bryniau Defaid, Ceunant Trwyn Swch a'r Gylchedd i enwi dim ond rhai, a'r cyfan wedi'u gwau yn rhan o'r patrwm cyfoethog yn gwbl naturiol a dirodres.
Englynion a phenillion Yn gelfydd gymysg â'r disgrifiadau o gynefin, arferion a rhywogaethau mae englynion a phenillion sy'n ychwanegu at y darlun a grëir ac yn taro deuddeg bob tro.
Mae Gruff yn dychwelyd i Gwm Eidda pan fo'r "gog yn canu uwch fy mhen tua Bwlch Ewigod" ac yn paentio darlun cwbl wahanol i ni o'r un gawn ni ganddo ynghanol y gaeaf.
Mae'n ein tywys yn hudolus unwaith yn rhagor "i chwilio am y Cwm Tu draw i'r cymoedd, Am Gwm Tawelwch"
A rywsut, ar ôl darllen yr hyn sydd gan Gruff i'w ddweud, mi fydd yn rhaid i minnau hefyd gael mynd draw i grwydro'r ucheldir i flasu'r tawelwch yna.
Dim ond un feirniadaeth sydd gen i: mae Cynefin Gruff yn rhy fyr o'r hanner. Tybed pryd y bydd y gyfrol nesa'n ymddangos?
|  | |  | |  | |  | |  |  |  | Sôn amdanynt Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
|  |  |
|  | |  |  |  | Gair am air: Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|  |  |
|
|