BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
News imageCymru'r Byd
News image
News imageLlais Llên
News imageAdolygiadau
News imageLlyfrau newydd
News imageAdnabod awdur
News imageGwerthu'n dda
News imageSôn amdanyntNews imagePwy di pwy?
News image
News imageY Talwrn
News image
News imageNewyddion
News imageChwaraeon
News imageY Tywydd
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeonadolygiadau a straeon
Sulwyn
Sulwyn Thomas yn gosod ei stondin
  • Adolygiad Gwyn Griffiths o Sulwyn gan Sulwyn Thomas. Gwasg Gwynedd. £7.95.



  • Cystel cyfaddef ar y cychwyn; rwy'n eiddigeddus tu hwnt o'r darlledwr Sulwyn Thomas.
    Cafodd glamp o yrfa, yn gwneud yr union waith a ddymunai a heb symud o'i filltir sgwâr - nid yn barhaol o leiaf.

    Mae Sulwyn, rhif 33 yng Nghyfres y Cewri Gwasg Gwynedd yn gyfrol swmpus. Yn gyfrol lawn iawn. Yn anochel felly gan un a redodd yr yrfa newyddiadurol o fyd print y papur nos i deledu - TWW, HTV a'r BBC - i fyd y radio a nôl i deledu wedi hynny.

    Ac yntau'n greadur swil, ansicr, hyd yn oed, yn amau yn y cychwyn a oedd ei "Gymrâg yn ddigon da"!

    Clawr y llyfr Yn ogystal fe'i cawn yn llwyddo i greu amser i weithio'n wirfoddol yn lleol a chenedlaethol - i'r Urdd, sefydlu gwasanaeth Radio - ysbyty - Glangwili, y theatr amatur, y capel, a llwyth o achosion da lleol.
    Heb sôn am briodi a chael dau o blant!

    Mae'r holl egni'n byrlymu oddi ar y tudalennau. Yn wir, egni a brwdfrydedd yw nodwedd arbennig y dyn a'i gyfrol.

    O'r ysgol
    Yn syth o'r ysgol, yn ddeunaw oed, ymunodd â'r South Wales Evening Post, papur nos Abertawe, y papur lle bu Dylan Thomas yn gyw gohebydd, digon di-fflach fel y cyfaddefai y bardd ei hun.

    Roedd Sulwyn gyda'r Post adeg y frwydr i wrthwynebu boddi pentre Llangyndeyrn i ddarparu dŵr i Abertawe. Roedd yno, hefyd, adeg achos Tryweryn Emyr Llywelyn.

    O fewn dwy flynedd cafodd wahoddiad i ymuno â thîm Y Dydd, TWW, gan ddychwelyd yn fuan i Gaerfyrddin yn ymchwilydd yn hel straeon yn y gorllewin ac yn raddol yn cynhyrchu ambell eitem ei hun tra'n cydweithio gyda'r anhygoel Ron Davies, Aberaeron.

    Roedd Ron, fel y gwn o brofiad, yn gampwr o ffotograffydd a dyn camera, a hynny er yn gaeth i'w gadair olwyn. Gallaf yn hawdd gredu'r hyn a ddywed Sulwyn; iddo ddysgu mwy am gyfansoddi ffilm a chyfarwyddo gan Ron na neb arall.

    Dim ond dau
    Cawn stori buddugoliaeth Gwynfor Evans ym 1966 a diddorol darllen mai dau berson yn unig ddwedodd wrtho'n bendant ymlaen llaw y byddai Gwynfor yn ennill - Dyfrig Thomas, Siop y Werin, oedd un, a Clem Thomas, golygydd y Carmarthen Times oedd y llall.

    Roedd Clem wedi hyd yn oed baratoi dwy ddalen flaen ar gyfer y bore wedyn, rhag ofn. O leiaf, yr oedd yn dipyn gwell na'r smonach wnaeth y rhaglen radio Good Morning Wales ohoni fore trannoeth!

    Diddorol iawn yw ei sylwadau am gasineb Llafur tuag at Gwynfor a'r iaith a'i awgrym mai ystryw i niweidio Gwynfor a Phlaid Cymru oedd cynnal achosion Cymdeithas yr Iaith ym Mrawdlys Caerfyrddin.

    Mae hanes Stondin Sulwyn yn darllen fel tonic - a rhaglen felly oedd hi. Ond wyddwn i ddim y bu Sulwyn, pan yn yr ysgol, yn gwerthu menyn a chaws ar stondin mam y Dr Alan Williams, cyn AS Caerfyrddin!

    Cawn y cyfaddefiad fod pobol y BBC eu hunain yn sgrifennu llythyron i mewn i gorddi'r dyfroedd yn nyddiau cynnar Radio Cymru. Bobol annwyl, dylid cael ymchwiliad ar unwaith!

    Cymorth mewn cyfyngder
    Yna daeth eira 1982 a sylweddolodd pobol bod modd defnyddio'r radio fel cyfrwng cyfathrebu mewn cyfyngder ac elwodd Sulwyn, ei Stondin a Radio Cymru'n gyfan o'r cyfyngder hwnnw.

    Yn ogystal a hyn oll cafodd gyfnodau eto ym myd teledu, yn cyflwyno rhaglenni amaethyddol, a rhaglenni eraill, a chyfnod yn bennaeth Abertawe.

    Ond nid cyfrifydd mewn swyddfa mohono; dyn y priffyrdd a'r caeau yw Sulwyn.

    Trueni i oes lawen a heulog y Stondin ddod i ben mewn ffordd mor drwsgl ag a ddisgrifir yma a pheri cryn loes i'r hen was da a ffyddlon.

    Cawn hanes y diflastod hwnnw'n llawn - a phenaethiaid y BBC yng Nghaerdydd dan ei lach.

    Tipyn o gawr
    Wrth feddwl am Sulwyn am y Stondin y byddwn yn meddwl a gwnaeth waith gwiw yn dwyn y genedl at ei gilydd trwy ei thynnu'n benben.

    Mae'r hen Sulwyn yn dipyn o gawr yn ei ffordd ei hun.


    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewchi'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy