BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
News imageCymru'r Byd
News image
News imageLlais Llên
News imageAdolygiadau
News imageLlyfrau newydd
News imageAdnabod awdur
News imageGwerthu'n dda
News imageSôn amdanyntNews imagePwy di pwy?
News image
News imageY Talwrn
News image
News imageNewyddion
News imageChwaraeon
News imageY Tywydd
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeonadolygiadau a straeon
Fi sy' 'ma ...
Myfyrdodau ar gyfer sawl achlysur
  • Adolygiad Gwilym H Jones o Fi sy' 'ma... gan Gareth Maelor. Gwasg y Bwthyn, tt.109, £6.95.



  • Cymar yw'r gyfrol hon i Helo, Pwy sy' 'na? a gyhoeddwyd o'r blaen gan Gareth Maelor.

    Cyflwyna'r llyfr hwnnw o fyfyrdodau a gweddïau ein hofnau a'n pryderon i'n Tad nefol, gan wybod ei fod yn gwrando.

    Yn yr ail gyfrol hon atebir y cwestiwn trwy fyfyrdod a gweddi sy'n cadarnhau fo Duw yn gwrando cri.

    Y mae'r myfyrdodau wedi eu clystyru o dan wahanol benawdau: Clawr y llyfr
  • Duw drwy'r dydd;
  • Duw drwy'r flwyddyn;
  • Gŵyl Calan;
  • Gŵyl y Pasg;
  • Y Pentecost;
  • Diolchgarwch;
  • Gŵyl y Geni;
  • Bedydd;
  • Priodas;
  • Derbyn cyflawn aelodau;
  • Y Cymun.

    Y mae'r defnyddiau yn amrywiol: ceir yma fyfyrdodau, gweddïau, emynau, a myfyrdodau sydd heb fod mewn ffurfiau barddonol, ond sy'n brawf amlwg fod gan yr awdur lygaid a gweledigaeth bardd.

    Preifat neu gyhoeddus
    Fel y dywedir yn y broliant, gellir defnyddio cynnwys y gyfrol ar gyfer pob math o achlysuron defosiynol, yn breifat neu yn gyhoeddus, mewn defosiwn personol neu mewn oedfa.

    Yr oedd Gareth yn wael pan oedd yn paratoi'r gyfrol hon; cael a chael a wnaeth i'w gorffen cyn iddo farw ac y mae cysgod ei waeledd a chryfder ei ffydd i'w gweld ar rai o'r myfyrdodau, yn enwedig ar yr un sy'n sôn am siwrneiau gwahanol rai i ganolfan caplaniaeth yr Ysbyty:

    "Efallai eich bod yno, fel fi, yn ymbaratoi ar gyfer siwrne ysbrydol newydd. Chwi yn unig a ŵyr beth yw diben eich siwrne. Chefais i ddim siwrne wag."

    Ffydd sicr
    Trwy'r myfyrdodau i gyd down yn ymwybodol o ffydd sicr yr awdur yn Nuw; y mae mor sicr fel ei fod yn medru sgwrsio'n gwbl naturiol gyda Duw.

    Fe deimlir trwy'r cyfan fod hynny'n dod mor naturiol iddo fel bod y sgwrs rhyngddo ef a Duw yn gwbl ystwyth a naturiol, a hynny'n rhoi i'r awdur arddull ddi-ffwdan a di-ystrydeb.


  • Llyfrau - gwefan newydd
    Ewchi'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy