BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
News imageCymru'r Byd
News image
News imageLlais Llên
News imageAdolygiadau
News imageLlyfrau newydd
News imageAdnabod awdur
News imageGwerthu'n dda
News imageSôn amdanyntNews imagePwy di pwy?
News image
News imageY Talwrn
News image
News imageNewyddion
News imageChwaraeon
News imageY Tywydd
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeonadolygiadau a straeon
rhyw deid yn dod miwn
Creu darlun gyda cherddi a lluniau
  • Adolygiad John Gruffydd Jones o rhyw deid yn dod miwn gan Aled Rhys Hughes ac Iwan Llwyd. Gomer £19.99 128 tud.



  • Ysgoloriaeth gan yr Academi a nawdd gan Gyngor Llyfrau Cymru wnaeth roi bodolaeth i'r gyfrol arbennig yma - ac mae'n arbennig mewn sawl ystyr.

    Fel un sy'n mwynhau ceisio trin camera a geiriau roedd fy niddordeb ynddi'n ddeublyg - ac mae peth heli'r mor yn rhedeg yn fy ngwaed hefyd.

    Môr a mynydd
    Gan mai gwlad fechan yw Cymru ni fu'r môr a'r mynyddoedd erioed ymhell iawn oddi wrth ei gilydd ac mae galwadau a rhamant y ddeule wedi ysbrydoli beirdd, arlunwyr a chrefftwyr o bob math ar hyd y canrifoedd, heb son am roi bywoliaeth i lawer hefyd.

    Naturiol felly i'r arfordir ddod a bardd a ffotograffydd ynghyd.

    Rydym i gyd yn ymwybodol iawn o effeithiau y cynhesu byd eang sy'n digwydd, ac maent i'w gweld ar dirlun arfordir Cymru mewn sawl man.

    Cymaint felly fel nad oes gobaith adnewyddu na gofalu am ambell lecyn o harddwch arbennig ar draws gwlad. Mae sawl llecyn felly yn y gyfrol yma, a dyna un rheswm da i'w thrysori. Ond mae ynddi lawer mwy na hynny.

    Priodas hapus
    Y briodas hapus rhwng gair a nodyn sy'n gwneud cân dda ac mae yna briodasau hapus iawn rhwng lluniau a geiriau yn y gyfrol hon ac mae'r lleoliadau sy'n cael eu rhestru'n gymen ar y diwedd yn fodd i ni sylweddoli mor eang yw rhychwant ein treftadaeth.

    Tuedd ambell gyfrol am dirwedd gwlad ac ardal yw canolbwyntio ar yr harddwch yn unig heb gofnodi dim o'r traddodiadau na nodi'r elfen o hagrwch chwaith.

    Nid felly yma.
    Mae'r darlun o'r hen long Duke of Lancaster yn rhydu'n araf i'w thranc ar draeth Mostyn yn esiampl o realiti bregus bywyd yr arfordir.

    Adlais o ddirywiad
    Ac mae is-deitl y gerdd Cilgwri (that's Wales over there) sy'n gyfochrog â'r llun ynghyd â'r dyfyniad o Culwch ac Olwen yn adlais o ddirywiad taith yr iaith Gymraeg yn yr ardal yma.

    Dyma gyfuniad a roddodd ias wrth i mi edrych a darllen ac mae'r teitl ei hun yn siwr o fod yn adleisio effeithiau'r mewnlifiad i Gymru.

    Ias o hiraeth
    Fe deimlais ias o hiraeth hefyd wrth droi sawl tudalen ac adnabod ambell le.
    Traeth Abersoch ac Ynys Tudwal yn y cefndir, traeth Morfa Bychan a thraeth Mochras yn Ardudwy.
    Rhain oedd fy nghynefin innau.
    Bellach mae un caban pren ar draeth Abersoch wedi ei werthu am £70,000 a moduron nid pobl sy'n llenwi Morfa Bychan yn ystod sglein yr haf.

    Mae'r tywod sy'n cuddio'r cabanau yn y gaeaf yn dweud cyfrolau, a dyma linell olaf y gerdd gyferbyn:
    a nythod gosod y gog.
    Gair a darlun ar yr un donfedd yn union.

    Ond rhag i mi ymddangos yn blwyfol, rhaid sylweddoli cefndir y ffotograffydd a'i wreiddiau yn y Rhondda. Mae'r darlun gwych ar dudalen 45 o'r galchfaen yn erydu ym Mhenrhyn Gŵyr, ac yna Abercastell gyda Phwllderi'n gefndir, nid yn unig yn dangos dawn greadigol Aled Rhys Hughes ond yn rhoi cip i ni o'i ddoe yntau ac mae ei gariad at y môr yn fwrlwm yn ei erthygl tua diwedd y gyfrol.

    Bron hefyd na allwn arogli'r sglodion yn y darlun o'r siop yn y Borth, Ceredigion.

    Dylanwad morwyr
    Yn ei gyflwyniad i'r gyfrol mae Iwan Llwyd yn sôn am ddylanwad morwyr gyda'u hanesion a'u caneuon yn dod adref a hynny'n cyfoethogi'n hiaith ninnau.

    Nid grym y tonnau'n unig yw grym y môr ac mae'r grym hwnnw'n gallu bod yn llesol a dinistriol.

    Cryfder diamheuol y gyfrol yma yw'r islais sydd tu ôl i'r lluniau a'r cerddi, islais sy'n sicr o wneud i'r darllenydd sylweddoli gwerth ei dreftadaeth a'i ddiwylliant ond hefyd sylweddoli ac ofni cryfder y llanw.

    Pe bai angen isdeitl i'r gyfrol yna fe fyddai'r gair 'Perthyn' yn gweddu i'r dim am fod yma lun a gair sy'n rhan o bawb sy'n teimlo'i wreiddiau'n cydio yn ei gynefin.

    Mae'n albwm o'n llinach diwylliannol i gyd ac mae'r darlun o'r person yn sefyll ar y dibyn ar y dudalen olaf yn llawn ofn o'r dyfodol.
    Dyna rym y llyfr yma.

    Hoelio diddordeb
    Ydi, mae'r clawr yn siŵr o dynnu sylw ond mae'r cynnwys yn hoelio'r diddordeb ac mae'n gyfrol fydd yn agos at fy llaw am amser hir.

    Diolch i Aled a Iwan am y wledd o weld ac o wybod ystyr 'perthyn' ac i Wasg Gomer am gyfrol sy'n wirioneddol gain ymhob ystyr ac sy'n werth mwy o lawer na'i phris.

    Cysylltiadau Perthnasol
  • Adolygiad John Gwilym Jones ar Gwales

  • Llyfrau - gwefan newydd
    Ewchi'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy