BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
News imageCymru'r Byd
News image
News imageLlais Llên
News imageAdolygiadau
News imageLlyfrau newydd
News imageAdnabod awdur
News imageGwerthu'n dda
News imageSôn amdanyntNews imagePwy di pwy?
News image
News imageY Talwrn
News image
News imageNewyddion
News imageChwaraeon
News imageY Tywydd
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeonadolygiadau a straeon
Ffiniau
'Sylweddol' ymhob ystyr
  • Adolygiad Vaughan Hughes o Ffiniau. Myfyrdod Athronyddol ar Lenyddiaeth gan Dewi Z. Phillips. Y Lolfa. £19.95.



  • Pan ofynnwyd imi adolygu'r gyfrol hon protestiais nad oeddwn i'n gymwys i gloriannu gwaith athronydd sy'n awdur cryn 24 o gyfrolau cyhoeddedig, bob un ond tair ohonyn nhw, gyda llaw, yn y Saesneg.

    Mae teitlau rhai o'r cyfrolau'n ddigon i godi ofn ar y mwyafrif ohonom - The Problem of Evil and the Problem of God neu Religion and the Hermeneutis of Contemplation.

    Clawr y llyfr Tystiodd Hywel Teifi Edwards mewn erthygl yn Barn bod Saesneg ysgrifenedig yn dod yn haws na'r Gymraeg i Dewi Z. Phillips.

    Mae'n deyrnged, felly, i Hywel ac i gyfeillion eraill a grybwyllir yn y rhagair am roi sglein ar iaith a mynegiant y gyfrol .

    Mae'r cyfan, bron, yn darllen yn rhwydd a naturiol.

    Ydi, o safbwynt arddull, dealler.
    Nid "rhwydd" ydi'r gair priodol, fodd bynnag, i ddisgrifio astrusi'r syniadau a fynegir yma.
    Ddim ar unrhyw gyfrif.

    Ond mewn maes sy'n ddrwgenwog am orddefnyddio jargon, mae Dewi Z yn wynfydedig ddieuog o hynny.

    Y 'Z' yna
    A chyn mynd dim pellach, rhaid esbonio beth oedd yr ecsotig Z yn ei enw yn ei chynrychioli. Chewch chi mo'r ateb yn y gyfrol hon. Chewch chi mo'r ateb chwaith, gresyn hynny, yn y Cydymaith, sy'n ei anwybyddu.
    Ond ei enw canol oedd Zephaniah.

    Perswadiwyd fi i fynd i'r afael â Ffiniau ar ôl i gomisiynydd adolygiadau'r wefan hon fy sicrhau ei fod o'n gwybod o'r gorau nad oeddwn i'n athronydd.

    Dyna'r union reswm , esboniodd, pam ei fod yn gofyn yn y lle cyntaf i mi adolygu'r gyfrol hon! Onid oeddwn i, holai'n rhethregol, yn ddarllenwr brwd?

    Y cyfan roedd o angen imi ei wneud oedd mynd drwy gyfrol olaf y diweddar Dewi Z. Phillips â chrib mân gan ateb un cwestiwn: a fu myfyrdodau'r athronydd yn gyfrwng i ddwysau ai peidio fy ngwerthfawrogiad o weithiau'r ffigyrau llenyddol dan sylw?

    Dyna'r "cyfan", sylwer!

    Ymhlith yr awduron a drafodir mae T.H Parry-Williams, Kate Roberts, Gwenallt, Waldo, R.S Thomas, Dic Jones a Gerallt Lloyd Owen.

    Y lluniau'
    Afraid dweud bod hon yn gyfrol sylweddol ymhob ystyr i'r gair. O ran trwch, gan gynnwys y mynegai, a 14 tudalen o ffotogrffau, mae hi'n gyfrol o 348 tudalen .

    Ond bylchog ydi'r mynegai.
    Yn eironig, mae'r athronydd J.R Jones o bawb yn absennol o'r mynegai. Och a gwae.

    Yn achos y ffotograffau, symol ydi eu safon nhw. Mae'n od fod gwell graen ar luniau Islwyn,1832-78 ( nid Ffowc Elis) a Tennyson, tasa hi'n dod i hynny, nag sydd ar luniau r Archdderwydd Dic Jones a'r Archesgob Rowan Williams.

    Doedd dim rhaid iddi fod felly.

    Yn y bon, mae'r gyfrol hardd hon yn ail bobiad o ysgrifau a ymddangosodd yn eu ffurf gwreiddiol yn Y Tyst, Y Traethodydd ac Efrydiau Atrhronyddol, rhwng 1972 a 2001.

    Yn ôl yr awdur, ei ysgrif ar Kate Roberts ydi'r unig un a ailgyhoeddir yn ei chrynswth, heb ei diwygio.

    Balch drybeilig
    Bydd rheini ohonom a ddiflaswyd ers oes pys gan feirniadaeth lenyddol Bobi Jones yn falch drybeilig o weld Dewi Z yn mynd ati i herio'r modd mae Calfiniaeth Bobi wedi peri iddo gyfeiliorni - yn ein barn ni - ynglyn â natur a phwrpas llenyddiaeth.

    Fe wn am laweroedd o ysgolheigion, hyd yn oed, sydd wedi rhoi'r gorau i'w ddarllen ers tro byd.

    Ond darllen Bobi Jones a'i ddarllen yn drwyadl wnaeth yr athronydd cyn mynd ati'n bwyllog a rhesymol, heb ymfflamychu na rhethregu, i'w danseilio.

    Yma mae'r ymdriniaeth o waith Beckett yn gyffredinol, ac Wrth Aros Godot yn benodol, yn ardderchog. Ond cyfaddefa'r athronydd pa mor anodd ydi dal pen rheswm efo Calfin.

    Â fflach o hiwmor direidus mae Dewi Z Phillips ar un adeg yn dweud bod dadlau efo Bobi Jones fel dadlau efo'r Ysbryd Glân - yn yr ystyr bod Bobi'n ymarweddu fel llefarydd swyddogol yr Ysbryd Glân.

    T H Parry-Williams
    Ond os ydi credu'n peri anawsterau, dydi anghrediniaeth ddim yn rhwydd chwaith a dyna fan cychwyn ymdriniaeth yr athronydd o gerddi ac ysgrifau T.H Parry-Williams, ffefryn cynifer o ddarllenwyr, minnau yn eu plith.

    Fedra i ddim haeru fod ei ymdriniaeth wedi peri imi edrych o'r newydd ar waith TH ond roedd o'n ddifyr dros ben.

    Ar y cychwyn gosodir y cwestiwn, ai crediniwr neu anghrediniwr oedd y bardd, y llenor a'r ysgolhaig o Ryd-Ddu?
    Ateb yr athronydd ydi nad oedd o'n grediniwr nac anghrediniwr chwaith. Cop out, meddech chi?
    Ddim o gwbl, dadleua Dewi Z gan ein hatgoffa bod TH yn ei ddisgrifio ei hun fel:

    Yr estron brith na all hyd ben ei daith
    Ymhonni'n Bagan nac yn Gristion chwaith.

    Kate Roberts
    Uchafbwynt y gyrfol gyfan i mi, fodd bynnag, ydi'r ymdriniaeth feistrolgar o Traed mewn Cyffion, ac yn sgîl y nofel honno, y modd mae Dewi Z Phillips yn mynd i'r afael â holl ethos a meddylfryd Kate Roberts.

    Cafodd ei ddweud o'r blaen gan feirniaid llenyddol, a'i ddweud hefyd gan yr awdures ei hun, nad pobol grefyddol oedd pobol Rhosgadfan ei phlentyndod er eu bod nhw'n gapelwyr selog.

    Neu yng ngeiriau Dr Kate ei hun:
    "Paganiaid yw'r mwyafrif ohonynt wrth reddf ond eu bod yn mynd i'r capel o ran arfer."

    Gan gydio yn y disgrifiad hwnnw mae Dewi Z Phillips yn mynd ati'n orchestol i drafod caledi bywyd mewn cymdeithas chwarelyddol uniaith Gymraeg yn y blynyddoedd cyn ac yn ystod y Rhyfel Mawr.

    Dengys sut mae tlodi materol yn achosi tlodi ysbrydol a theimladol. Ymdrinir yn ardderchog â'r nofel gyfan gan gymharu'r prif gymeriad , Jane Gruffydd, yn annisgwyl ond nid yn gwbl ffansïol, ag Iago Prytherech, alter ego R S Thomas.

    Y deyrnged bennaf y gallaf ei thalu i'r gyfrol hon ac i goffawdwriaeth Dewi Z Phillips ydi ei fod o wedi f'ysgogi'n syth, ar ôl gorffen yr adolygiad hwn, i fynd ati eto i ddarllen Traed mewn Cyffion.


    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewchi'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy