BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
News imageCymru'r Byd
News image
News imageLlais Llên
News imageAdolygiadau
News imageLlyfrau newydd
News imageAdnabod awdur
News imageGwerthu'n dda
News imageSôn amdanyntNews imagePwy di pwy?
News image
News imageY Talwrn
News image
News imageNewyddion
News imageChwaraeon
News imageY Tywydd
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeonadolygiadau a straeon
llyfr glas eurig
Llyfr gan un sy'n haeddu seremoni
  • Adolygiad Meg Elis o llyfr glas eurig gan Eurig Salisbury. Cyhoeddiadau Barddas. £6.00.


  • Dwi erioed wedi adolygu cerddi morwyn briodas o'r blaen.
    Efallai nad dyna rydw i'n wneud tro hyn, chwaith, yn enwedig o ddarllen y cywydd Gofyn am Gondom (t.50).

    Ond maddeuwch i mi am dosturio dro Eurig, y forwyn (ffigurol felly ) na lwyddodd hyd yma erioed i briodi â'r Corn Gwlad, yr Aberthged na'r Gadair.

    Clawr y llyfr Deirgwaith mor agos ati. Ffin - mae ei awdl yma ac mae'n wefreiddiol - ond roeddet ti yn erbyn Jim Jones, pa obaith, washi?

    Tonnau yn Abertawe? Wel, dwi'n meddwl mai ti ddylai fod wedi ennill, ond 'na fo, dwi ddim yn cynganeddu, ac eto, sŵn dy ffôn di a

    "Pam w tn nfon txt @a innau
    Os nad w tn gweld sniad y tonau?"
    sy'n fy nenu.

    Ac eleni eto, mae myfyrdodau Hilma Lloyd Edwards am y llefydd coll/tiroedd newydd ar hyn o bryd yn fy swyno mwy na'r sgrapiau ges i o awdl Kong.

    Ond dwi'n tanysgrifio i Barddas felly mae'n olreit, ella y gwna'i newid fy meddwl.

    Dros bob man
    Dwi'n mynd dros bob man.
    Ond dyna mae cerddi Eurig Salisbury yn wneud, a bod yn onest.

    Un funud, mae o yn hollol draddodiadol, yn canu englynion a cherddi i ffrindiau a sefydliadau (Pantycelyn, yr is-ganghellor), i groesawu Steddfodau a chyfarch prifeirdd buddugol, i gofnodi digwyddiadau, a dyna chi'n meddwl - a, iawn, dan ni'n gwybod lle i roi hwn.
    Mae o yn y traddodiad caeth, y traddodiad o glodfori a dathlu -

    Yna daw Tonnau (ei gampwaith hyd yma, yn fy marn ddi-gynganeddol ...) a Tryfan a Beirdd v Rapwyr, a dyma rywun yn gorfod meddwl eto, be gebyst mae'r cynganeddwyr newydd yma'n wneud?

    Dafydd ab Edmwnd y troi yn ei fedd?
    John Morris -Jones yn gwaredu at y geiriau anfarddonol?
    Be ddigwyddodd i'r pedwar mesur ar hugain?

    Ond dyna yw geiriau heddiw.
    Gwn, mi wn i fod gennym resiaid o feirdd ifainc sydd yn ymhyfrydu yn y gynghanedd (ac mi enwais un llynedd, os na fydd hwnnw mewn cadair cyn pen deng mlynedd, mi wna'i fwyta fy mhenwisg dderwyddol. A gwynt teg ar ôl y bali niwsans peth...).

    Ar y blaen
    Ond wedi darllen a chlywed cymaint o waith y rhai newydd, ac wedi cael amser i fyfyrio ac ailddarllen (ac ailddarllen yn uchel - trïwch hynny) peth o waith Eurig Salisbury, dwi'n rhyw led feddwl mai fo sydd ar y blaen.

    Mae'r gerdd Wel? wedi fy argyhoeddi, os gwnaeth unrhyw un. Hollol reolaidd, ond tanseiliol ac arswydol.

    " Cysidro cau is-adran
    Cyngor am agor rhain mân.
    Cymeradwyo popeth.
    Cymeradwyo pob peth.
    Cwrs unig. Rhesi anwel,
    Career set. Ond WHO CARES?"

    Mae "Writing and Performinga Cywydd for Dummies yn sobreiddiol, ac yn ddifrifol.

    Ac mae'r hogyn yn medru canu yn hollol reolaidd a (wel, sort of) confensiynol i'w ffrindiau Hywel a Catrin ac eraill a mae o yn y traddodiad.

    Ac eto dio ddim.

    Fe ddywedodd fod yn rhaid iddo gael stori i fedru creu awdl yn iawn.

    A'n helpo i, gobeithio y bydd Testunau'r Bala yn cyffroi'r awen unigryw yma unwaith eto.
    Mae'r hogyn yn haeddu seremoni.


    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewchi'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy