 | Cyfansoddiadau a Beirniadaethau 2008 Yr ifanc yn amharod i gystadlu Adolygiad Kate Crockett o Cyfansoddiadau a Beirniadaethau: Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd a'r Cylch 2008 . Golygydd: John Elwyn Hughes. Llys yr Eisteddfod Genedlaethol. £7.
Mae'n annheg efallai ar rai sy'n mentro ar gystadlaethau'r Eisteddfod Genedlaethol, yn unswydd er mwyn cael beirniadaeth yn achos ambell un, mai'r beirniadaethau mwyaf difyr yn y gyfrol Cyfansoddiadau a Beirniadaethau: Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd a'r Cylch 2008 yw'r rhai lleiaf adeiladol.
Dyma'r cyfan oedd gan Hywel Gwynfryn i'w ddweud am ymgais Merch Lleiniog ar gystadleuaeth Dyddiadur Dynes Ddŵad:
"Nid dyddiadur a ysgrifennodd y cystadleuydd yma, chwaith, ond stori fer, am ferch ifanc yn cyfarfod dyn yn Oxfam sy'n mwynhau gwisgo dillad merched. Mae'n bur debyg y byddwn innau'n cael mwy o bleser o wneud hynny hefyd yn hytrach na darllen cyfraniad Merch Lleiniog i'r gystadleuaeth."
Bywyd eisteddfodol Brigyn ar gêm ym maes llenyddiaeth Gymraeg, mae'n werth galw heibio'r maes carafannau:
"Gêm yn adlen y garafán gyda photel o Medoc ar ôl darllen y Cyfansoddiadau a Beirniadaethau efallai."
Wn i ddim a oedd y Prifardd wedi cael cip ar gynnwys y gyfrol eleni cyn iddo estyn am y botel win ond yn sicr gallwn gredu fod yna dipyn o feirniaid ac aelodau o'r Pwyllgor Llên fymryn yn siomedig wrth grwydro'r maes yng Nghaerdydd eleni.
Ni fu cystadlu ar dair cystadleuaeth lenyddol, ac mae'n drawiadol mai cystadlaethau â naws gyfoes oedd y tair ohonyn nhw: y Rap, y Blog, a'r E-bost at rywun yn y gwaith ac ymateb (yng nghategori'r dysgwyr).
Yn ôl tystiolaeth y Cyfansoddiadau, mae Cymry heddiw yn ei chael hi'n haws cyfansoddi englyn (47 ar y testun Sain Ffagan a 30 o englynion digrif) na llunio dyddiadur ar y we neu anfon neges at gydweithwyr.
Atal gwobrau
Cafodd y wobr ei hatal mewn sawl categori hefyd - a rhaid canmol y beirniaid hynny am geisio amddiffyn y safon.
Ond unwaith eto, mae yna naws gyfoes i nifer o'r cystadlaethau siomedig hyn - cerdd ar y testun Senedd; casgliad o lên micro; gohebiaeth rhwng dau berson o ddwy genhedlaeth wahanol mewn amrywiaeth o gyfryngau e.e. llythyr, e-bost, neges destun; creu rhaglen 5-10 munud o hyd ar unrhyw fformat - er enghraifft ar ffôn symudol neu dvd.
Byddai rhywun wedi disgwyl y byddai testunau o'r fath yn apelio at bobl iau yn arbennig - a gwyddom o ddigwyddiadau fel Ymryson y Beirdd a'r Slam bod digonedd o bobl ifanc talentog yn llenydda yn Gymraeg.
Tybed felly pam nad oes mynd ar y cystadlaethau hyn?
Efallai nad yw gwobr o ychydig gannoedd o bunnau a chyhoeddi'ch enw yn y Cyfansoddiadau yn ddigon o abwyd. A hwyrach bod John Meurig Edwards a oedd yn fuddugol ar gyfansoddi wyth o dribannau Morgannwg (ymysg cystadlaethau eraill) wedi'i gweld hi:
I ddarpar lenor
Paid bradu'th ddawn lenyddol
Ar gylchgrawn neu ar gyfrol,
Cans mwy o gyfoeth gei o hyd
O goffre'r byd cyfryngol.
Yn siomedig
Ychydig yn siomedig yr oeddwn innau hefyd o ddarllen y gwaith buddugol mewn dau gategori - y gerdd ddychan a'r erthygl grafog.
Ychydig yn brin ar y dychan a dim digon crafog oedd y naill enillydd a'r llall at fy nant i, ond nid oedd mynd mawr ar y cystadlaethau hyn yn ôl tystiolaeth y beirniaid.
Does bosib nad ydyn ni Gymry'r unfed ganrif ar hugain mor gysurus ein byd ein bod yn ei chael hi'n anodd tynnu blewyn o drwyn y sefydliad?
Blwyddyn y bobl ifanc a'r menywod oedd hi yn y prif gystadlaethau llenyddol eleni, wrth gwrs, gyda Hywel Griffiths (25 oed) yn cipio'r Goron, Ifan Morgan Jones (24 oed) yn mynd â Gwobr Goffa Daniel Owen, y Gadair i Hilma Ll Edwards, a Mererid Hopwood yn codi ar ei thraed yn y Pafiliwn am y trydydd tro, y tro hwn wrth gipio'r Fedal Ryddiaith.
Erbyn cyhoeddi'r Cyfansoddiadau, bydd enwau'r cystadleuwyr hyn yn gyfarwydd i'r Eisteddfodwyr a bydd rhai eisoes wedi cael cyfle i bori yn y cyfansoddiadau rhyddiaith buddugol.
Cyfrolau eraill Cyfansoddiadau felly'n gyfle i gael clywed am y cyfrolau eraill a ddaeth yn agos at y brig, a rhagflas efallai o ambell gyfrol a ddaw i'r golwg yn ystod y flwyddyn neu ddwy i ddod.
Mae hefyd yn gyfle i glywed am unrhyw anghytundeb ymhlith y beirniaid. Eleni cytunwyd mai Ifan Morgan Jones oedd yn teilyngu Gwobr Goffa Daniel Owen, ond er gwaethaf camp Mererid Hopwood gyda'i nofel O Ran, roedd un o feirniaid Y Fedal Ryddiaith, Aled Islwyn, am weld cyfrol Tan y Bwlch yn fuddugol.
Nofel am Afghanistan oedd y gyfrol hon, sydd yn ôl y beirniad hwn wedi cyflawni rhywbeth unigryw drwy gyfansoddi nofel Gymraeg heb unrhyw gyswllt Cymreig iddi.
Rydw i'n mawr obeithio y daw'r nofel hon i'r golwg cyn bo hir, yn ogystal â dewis Emyr Lewis ar gyfer cystadleuaeth y Gadair, sef cyfres Kong o gerddi am Efrog Newydd.
Y ganmoliaeth uchaf Cyfansoddiadau eleni ar gyfer y gwaith a gipiodd Dlws y Cerddor i Eilir Owen Griffiths, gwaith sy'n "fywiog, lliwgar, byrlymus a chwareus" gan "gyfansoddwr sy'n meddu ar weledigaeth bendant, techneg gadarn, a phersonoliaeth gyfansoddi gwbl ddireidus."
Dyna ddisgrifiad i dynnu dŵr i'r dannedd ac un a wnaeth i mi ddymuno cael fersiwn o'r Cyfansoddiadau a Beirniadaethau ar CD.
Pe bai mwy'n rhoi cynnig ar rai o'r cystadlaethau cyfoes eu naws a nodir uchod, hwyrach y byddai modd cynnwys y deunydd i gyd ar CD Rom neu dvd yn y dyfodol - fyddai hynny tybed yn annog cystadlu?
Y rhai anffodus Ond awn yn ôl cyn cloi at y cystadleuwyr anffodus hynny sydd wedi troi at y gyfrol hon, dim ond i weld lladd ar eu gwaith am restr hir o feiau: barddoniaeth ryddieithol, nofelau gwallus eu hiaith, a'r lliaws sy'n cystadlu bob blwyddyn heb gadw at reolau'r gystadleuaeth.
Mae'r geiriau olaf unwaith eto yn perthyn i'r Tribanwr buddugol, John Meurig Edwards:
I un uchelgeisiol
Cyn cerdded rhaid yw cropian,
Rhaid gwneud y pethe bychan;
Oni fu Ioan, hogyn twt,
Yn grwt i Reg a Megan?
Cysylltiadau Perthnasol Eisteddfod 2008 
|  | |  | |  | |  | |  |  |  | Sôn amdanynt Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
|  |  |
|  | |  |  |  | Gair am air: Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|  |  |
|
|