BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
News imageCymru'r Byd
News image
News imageLlais Llên
News imageAdolygiadau
News imageLlyfrau newydd
News imageAdnabod awdur
News imageGwerthu'n dda
News imageSôn amdanyntNews imagePwy di pwy?
News image
News imageY Talwrn
News image
News imageNewyddion
News imageChwaraeon
News imageY Tywydd
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeonadolygiadau a straeon
Nawr
Cyfrol o waelodion a dyfnderoedd
  • Adolygiad Meg Elis o Nawr gan T. James Jones. Cyhoeddiadau Barddas. £6.00.



  • "Diwaelod yw dy deulu" meddai Myrddin ap Dafydd wrth gyfarch un ohonyn nhw - Tudur Dylan, dwi'n meddwl ond fe allasai fod ei dad neu un o'i ddau ewythr, a dwi'n siŵr fod yna genhedlaeth nesa, felly watsiwch eich hun 'mhen rhyw ugain mlynedd. . .

    Clawr y llyfr Achos gorfoledd yw'r olyniaeth hon, gyda llaw, nid achos cecru am fod tad yn dilyn mab a llawer o'r un teulu yn dilyn yr un proffesiwn.

    Mae'n beth cyffredin, a dweud y gwir, yn y cyfryngau, meddygaeth, y weinidogaeth - pob galwedigaeth a dweud y gwir - o ie, ac ym mhroffesiwn 'sanctaidd' y glowyr hefyd, nes i rai coliers benderfynu eu bod am wneud rhywbeth call, ac addysgu eu meibion fel na fydden nhw'n gorfod mynd i waith brwnt, peryglus y pwll...

    Ond dwi'n pregethu.
    Peth nad yw Jim Jones yn ei wneud yn y gyfrol hon.

    Teuluoedd
    Dwi'n crybwyll teuluoedd - ac yn sicr, mae'n gwneud hynny hefyd, yn gyfoethog orawenus yn y gyfrol hon - a pham lai?
    Mae'n rhan o'r job.

    Dyna mae bardd i fod i'w wneud - a phob clod i'r beirdd a wnaeth hynny yn gymdeithasol ac yn ddidramgwydd dros y degawdau, hyd yn oed os oeddan nhw hytrach yn ddiawen yn gwneud hynny.

    Ond gyda'r teulu diwaelod hwn, gallwch ddisgwyl mwy - a dyna a gewch.
    Mae'r cerddi dathlu i briodasau yn hwyliog, yn ffraeth, yn grefftus ac yn orfoledd - felly hefyd y cerddi i groesawu'r genhedlaeth nesaf.

    Wrth gwrs ei fod o'n croesawu ei wyrion, ac yn dwli arnynt - on'd ydi pawb?

    Ond dyma fardd sy'n gallu cysylltu dyfodiad y genhedlaeth nesaf â'r cenedlaethau a fu - ac yn gwneud hynny'n loyw.
    Mae'n croesawu Mathew Macsen - ac yn gweld ei olyniaeth.

    Mae'n cyfarch Gruffydd ab Owain ac yn crybwyll Traeth Lafan a'r tywysogion fu yno cyn bod y bychan.

    Mae yma fwy na chanu cymdeithasol, er nad yw'r cerddi fyth yn colli eu hagosatrwydd teuluol.

    Canu cymdeithasol, ie, ond i gymdeithas a thylwyth ehangach.

    Marwnadu
    Ac yn anorfod, rhan arall o "ystâd bardd" oedd marwnadu a does dim disgwyl i fardd awdl ysgytwol Y Ffin anwybyddu'r ochr honno o'i swyddogaeth, chwaith.

    Mae'r awdl fuddugol yma, wrth gwrs, a hynny'n ddigon o gyfiawnhad i'r gyfrol ar ei phen ei hun - ond mae'r cerddi byrion hefyd yn taro i'r byw.

    Myfyrdod yw'r Ffin gan rywun sy'n ddigon dewr i wynebu henaint ac sy'n anffasiynol ymwybodol fod marwolaeth yn rhwym o ddigwydd ac nad oes na thechnoleg nac ideoleg all ei ddileu.

    Mae'r un ymwybyddiaeth yn sail i gerddi byrion megis y delyneg Harmoni ac, wrth drafod math gwahanol o angau, yn Colli Tafodiaith, sy'n gwneud i'r darllenydd sylweddoli nad anwyliaid o gig a gwaed yn unig sydd yn diflannu "i'r dwnshwn du".

    Cyfieithu Dylan
    Diwaelod yw dawn y bardd arbennig hwn, hefyd - hyd yn oed mewn cyfieithiadau, a hynny o waith y bardd mwyaf anghyfieithiadwy hwnnw, Dylan Thomas.
    Ond mae T. James Jones yn llwyddo yma eto - ac yn llwyddo i ychwanegu at y cyfoeth.

    Does ond rhaid edrych ar ddiwedd ei gyfieithiad o Fern Hill, a gweld "in the mercy of his means" yn troi'n "yn nhrugaredd ei drugareddau" i ddeall hynny.

    Mae'n gallu raligampio gyda'r goreuon - ac yn dwysfyfyrio hefyd fel yn "Wrth bwy y llefaraf?" - un o'r cerddi twyllodrus syml y talai i bob darllenydd oedi gyda hi.

    Oes, mae yma waelodion - a dyfnderoedd.



    cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewchi'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy