BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
News imageCymru'r Byd
News image
News imageLlais Llên
News imageAdolygiadau
News imageLlyfrau newydd
News imageAdnabod awdur
News imageGwerthu'n dda
News imageSôn amdanyntNews imagePwy di pwy?
News image
News imageY Talwrn
News image
News imageNewyddion
News imageChwaraeon
News imageY Tywydd
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeonadolygiadau a straeon
Hiwmor Llafar Gwlad
Mwynhad mawr o grwyn banana geiriol


  • Adolygiad Glyn Evans o Hiwmor Llafar Gwlad. Golygydd, Myrddin ap Dafydd. Carreg Gwalch. £8.50.


  • Rhoddwyd cryn sylw yn ystod gwanwyn 2008 i'r ffaith fod cylchgrawn Llafar Gwlad wedi cyrraedd ei ganfed rhifyn.

    Fel rhan o'r dathliadau hynny y cyhoeddwyd y llyfr hwn - sef casgliad o straeon digri a throeon trwstan geiriol ymhlith plant ac oedolion.

    Mae'r rhai hynny ohonom sy'n cofio Trysorfa'r Plant yn cyrraedd aelwydydd Presbyteraidd y wlad yn cofio hefyd ddalen gefn y cylchgrawn hwnnw o 'Ddiddanion' - tusw o straeon digri - jôcs.

    Clawr y llyfr A go brin ei bod yn gyfrinach mai' dyma'r unig ddalen yn yr holl gylchgrawn y byddai nifer sylweddol o blant yn ei darllen.

    Bu gan Lafar Gwlad ei 'ddiddanion' hefyd dan deitlau fel Geirio'n Gam, O Enau Plant Bychain ac yn y blaen.

    Ac er na fyddwn yn awgrymu am eiliad mai dyma'r unig bethau y byddai darllenwyr yn eu darllen yn y cylchgrawn yr oedden nhw'n siŵr o fod y pethau cyntaf i sawl un eu darllen.

    Gan wneud nodyn meddyliol ar ôl darllen, Fod yn rhaid imi gofio honna i'w hailadrodd wrth gyfeillion.

    Agor ei geg
    Bu Geirio'n Gam yn ffefryn arbennig ac fel y dywedir uwchben y detholiad yn y llyfr hwn mae'n berffaith wir:
    "Bob tro mae rhywun yn agor ei geg, mae o mewn peryg o roi ei droed ynddi . . ."

    I'r gynulleidfa Gymraeg mae llawer o'r cameirio yn deillio o drosi idiomau'r Gymraeg i'r Saesneg a hynny'n digwydd mewn cymdeithas lle'r oedd y Gymraeg ar ei chryfaf.

    Mae sawl enghraifft hefyd o gamddeall neu gamglywed geiriau Saesneg yn null Ifans y Tryc.

    Ffermwr, er enghraifft, yn dweud ar ôl i injian ei dractor gael ei thrwsio: "Its noise is all right now."

    Ac un arall, wrth feddwl am ehediad y frân; "As the fly crows."

    Pethau o'r fath yn rhai a ddigwyddai am mai yn y Gymraeg yr oedd pobl yn meddwl wrth roi eu cegau mewn gêr ond er mawr ofid, y gwrthwyneb sy'n digwydd amlaf heddiw ac idiom sawl un yn un Saesneg er bod y geiriau'n Gymraeg.

    Cymdeithas Gymraeg
    Go brin y byddai neb heddiw yn ateb o gael cwestiwn sut dywydd fydd hi:
    "Fat fog on the mountais".

    A phan ofynnwyd i rywun a oedd perthynas a fu'n sâl yn dal yn y gwely; "Yes - but standing on her sitting down" yn drosiad hwylus o "godi ar ei eistedd".

    Ambell dro byddai rhoi ynganiad Saesneg i air Cymraeg yn gymorth hawdd ei gael mewn cyfyngder ieithyddol - fel ag yn achos y dyn a ofynnodd:
    "Pass me the tymffyt please." A rhywun arall a'i fryd ar ddefnyddio clwt llawr yn holi; "Do you have a clyt?"

    Un arall, wedi i'w ddillad losgi o fod yn rhy agos i'r tân yn eirio yn cwyno, "Mai clôdds daifd in ffrynt of ddy ffaiar"!

    Gall pethau fynd yn wirioneddol flêr pan fo rhywun yn baglu dros ddwy iaith fel yr aelod o Heddlu'r Gogledd a ddyfynnir yn rhoi tystiolaeth mewn llys:
    "A dyma fo'n dod a thaflu bricsen drwy ffenest y car nes ei malu hi'n symbarins!"

    A dim ond rhywun a gafael ar ddwy iaith allai syrthio i'r fagl o ddweud; "heddlu yn ymladd gyda phlismyn"!

    Adlewyrchiad o gymdeithas a'r Gymraeg yn naturiol ac yn flaenaf yw amryw, ond nid pob un o'r straeon hyn.

    Hen gneuen
    Wrth gwrs, mae ambell i hen gneuen yma fel sôn am saith yn cael eu "dirywio" gan lys. Y rhyfeddod yw fod hwn yn llithriad sy'n dal i ddigwydd yn y byd go iawn!

    Mae'r llyfr hwn o 235 dalen wedi ei rannu yn saith adran i gyd;
  • Straeon a dywediadau doniol gan blant;
  • Cyfieithiadau a chyfarwyddiadau blêr;
  • Ffraethineb a rhesymeg Gwyddelig;
  • Ystyron anfwriadol geirio'n gam; Straeon gwir;
  • Dawn dweud ac ateb parod ac yn olaf;
  • Adran Diawl y Wasg - hen, hen, gyfaill i rai ohonom.

    Weithiau mae'r deunydd yn gorgyffwrdd gyda'r hawl gan ambell i stori i fyw dan fwy nag un pennawd.

    Un peth sy'n sicr, mae hwn yn llyfr erchwyn gwely a fydd yn rhoi oriau lawer o bleser.



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewchi'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy