|  |
 |  |  |  |  | |  | Cerddi'n Cerdded Cerddi difyr mewn diwyg lliwgar
Adolygiad Caron Wyn Edwards o Cerddi'n Cerdded gan gwyneth Glyn. Gomer. £4.99.
Mae 'na rhywbeth cynhenid ynom ni fel pobl sy'n hoff o labeli - o roi eraill mewn blychau bach twt - yn enwedig yn y cyfryngau; 'actor' neu 'gantores', 'nofelydd' neu 'ddramodydd'.
Mae 'na rai pobl fodd bynnag, waeth befo pa mor galed yr ymgeisiwch, sy'n gwrthod yn deg â ffitio i mewn i un twll colomen penodol ac ar dop y rhestr honno y canfyddwn ni Gwyneth Glyn.
Yn gantores, awdures, sgriptwraig, cyflwynwraig ac, wrth gwrs, yn Fardd Plant Cymru 2006, mae'r ferch ifanc yma o Eifionydd yn gallu troi ei llaw at ymron unrhyw beth fe ymddengys.
Cerddi'n Cerdded yw'r gyfrol ddiweddaraf ganddi; casgliad o gerddi i blant mewn cyfrol ddeniadol llawn lliw - diolch i luniau bendigedig Mary Klivert - rhai ohonyn nhw o bosib wedi eu cyfansoddi mewn dosbarth efo plant a rhai ohonyn nhw'n sicr o fod yn ganadwy.
Yn sicr, ni fyddwn yn synnu o'u clywed ar restr testunau Eisteddfodau'r Urdd y dyfodol.
Fel yr wyf eisoes wedi crybwyll, mae ansawdd a chyflwyniad y llyfr yn ddigon o ryfeddod gyda thudalennau lliwgar a'u lluniau deniadol ddylai ddenu sylw darllenwyr ifanc o'r dechrau'n deg.
Mae llawer o'r testunau'n rhai modern - fel y gerdd agoriadol Y Gerdd Werddsy'n canu clodydd ailgylchu:
Sgen ti botel? Sgen ti bapur? Sgen ti ganiau? Sgen ti dun? Sgen ti amser i ail-feddwl Cyn eu taflu nhw i'r bin?
...Bwyda di y blwch ail-gylchu, Llanwa di y grochan hud. Gwylia hen bapurau echdoe Yn troi'n gylchgrawn newydd, drud.
Eraill a wnaeth argraff arbennig arnaf oedd Hunaniaeth:
Does gen i'r un ddafad, does gen i'r un ddraig, a welis i 'rioed het fawr ddu ar hen wraig...
am yr hyn sy'n ein gwneud ni'n Gymry; Nodyn Bodyn am ryfeddodau tecstio a Teulu.
Eraill sy'n taro nodyn cyfoes - ac yn awgrymu iddynt gael eu cyfansoddi mewn dosbarth yw Monstar i Mi a Pam Ma Mam yn Mad am Sgidiau? sy'n defnyddio ieithwedd lafar, fwy tafodieithol fodern.
Mae hon yn gyfrol hawdd iawn i'w hargymell - a hynny i blant o bob oed.
Mae'r cerddi'n addas ar gyfer cael eu darllen gan blant ar eu pennau eu hunain, ar y cyd mewn dosbarth neu i rieni eu darllen nhw i blantos 'fengach - a buaswn yn ei hargymell fel anrheg gwerth chweil i unrhyw un.
Cysylltiadau Perthnasol Gwefr mewn dosbarth 
 |
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|  |
|  | |  | |  | |  | |  |  |  | Sôn amdanynt Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
|  |  |
|  | |  |  |  | Gair am air: Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|  |  |
|
|
|