BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
News imageCymru'r Byd
News image
News imageLlais Llên
News imageAdolygiadau
News imageLlyfrau newydd
News imageAdnabod awdur
News imageGwerthu'n dda
News imageSôn amdanyntNews imagePwy di pwy?
News image
News imageY Talwrn
News image
News imageNewyddion
News imageChwaraeon
News imageY Tywydd
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeonadolygiadau a straeon
Angel Pen Ffordd
Troi Madam Wen yn sioe gerdd
  • Adolygiad Linda Edwards o Angel Pen Ffordd gan Sonia Edwards. Cyfres Whap. Gwasg Gomer. £4.99


  • Mae Sonia Edwards yn Brif Lenor yr Eisteddfod Genedlaethol - wedi cipio Medal Ryddiaith1999 yn Llanbedrgoch, Ynys Môn, ac wedi ysgrifennu nifer o nofelau, ynghyd a chyfrannu at y gyfrol liwgar o farddoniaeth i blant Byd Llawn Hud a enillodd wobr Tir Na n-Og.

    Clawr y llyfr Nofel ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau yw ei nofel ddiweddaraf ac mae'r clawr deniadol gyda phedair o ddisgyblion Ysgol Gyfun Dyffryn Teifi yn serennu arno yn tystio i hyn.

    Ysgol berfformio
    Hanes Ysgol Berfformio Newydd yn cael ei sefydlu ar Ynys Môn sydd yma; yn 'Gwynfa', hen gartref actores enwog o'r ardal, Sephora Wyn, sydd newydd farw.

    A helyntion pedair ffrind, Meleri, Anwen, Linda Jen, ac Arwyn wrth iddyn nhwt fynychu'r clyweliadau yn gyntaf ac yna'r ymarferion ar gyfer llwyfannu sioe gerdd yn seiliedig ar Madam Wen, lleidr pen ffordd enwog ar Ynys Môn yn nofel W D Owen, Madam Wen.

    Meleri sy'n dweud yr hanes a hi yw prif gymeriad nofel Sonia Edwards.
    Mae ei rhieni newydd wahanu a hithau yn treulio'r wythnos gyda'i mam a'r penwythnosau gyda'i thad.

    Mae ei mam erbyn hyn â chariad newydd ac yn disgwyl babi, ac mae hyn yn cael ei drin yn hollol realistig yn y nofel.

    Prynu ci
    A'i thad yn penderfynu prynu ci iddi mae hanes trip i Fae Colwyn i'r lloches i ddewis ci yn ddoniol iawn a chwerddais lawer wrth ddarllen am helyntion Wilff, y bullmastiff a ddewiswyd ganddynt.

    Fel mae'r stori'n datblygu, mae'n ymddangos fod mwy nag ymarferion yn mynd ymlaen yn 'Gwynfa'. Mae tân yn cael ei gynnau'n fwriadol a daw yn amlwg fod rhywun am ddistrywio'r cyfan ac yn benderfynol na fydd y Sioe Gerdd.
    Ond pwy???

    Ac wrth fynychu'r ymarferion mae Meleri hithau yn syrthio mewn cariad am y tro cyntaf . . .

    Sensitif a doniol
    Mae Sonia Edwards yn deall iaith a byd pobl ifanc i'r dim ac mae cynhwysion wnaiff apelio at bob carfan o bobl ifanc yn y llyfr yma: hiwmor, rhamant, antur, yn ogystal a sefyllfa mae llawer yn cael eu hunan ynddi,tor priodas - y cyfan yn cael ei drin yn sensitif, realistig a chyda doniolwch ar brydiau.

    Y cyfan mewn iaith mae pobl ifanc yn ei deall a'i harfer.

    Rhof 10 allan o 10 i'r nofel hon gan ei chymell yn gryf iawn i bobl ifainc yn eu harddegau .

    Ac mae'n rhaid imi gyfaddef i mi minnau yn fy chwedegau, ei mwynhau'n fawr iawn hefyd!



    cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewchi'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy