BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
News imageCymru'r Byd
News image
News imageLlais Llên
News imageAdolygiadau
News imageLlyfrau newydd
News imageAdnabod awdur
News imageGwerthu'n dda
News imageSôn amdanyntNews imagePwy di pwy?
News image
News imageY Talwrn
News image
News imageNewyddion
News imageChwaraeon
News imageY Tywydd
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeonadolygiadau a straeon
Hanes y Ddrama Gymraeg ym Môn
Seigiau blasus mewn cowdel clytiog
  • Adolygiad Gwilym Owen o Hanes y Ddrama Gymraeg ym Môn 1930 - 1975 gan O Arthur Williams. Cyhoeddwyd gan yr awdur. £15.


  • Taswn i'n chwilio am air i ddisgrifio cyfrol O Arthur Williams ar hanes y ddrama Gymraeg ym Môn rhwng 1930 a 1975 mae'n debyg mai'r gair 'cowlad' fyddai'r un cyntaf i ddod i'r meddwl.

    Bron i 350 o dudalennau sydd yn ffrwyth blynyddoedd o ymchwil trylwyr i faes toreithiog thespianaeth Mam Cymru.

    Clawr y llyfr Mae'n rhaid derbyn mai traethawd ymchwil ar gyfer gradd Doethuriaeth ym Mhrifysgol Bangor ydi'r cyhoeddiad hwn ac o anghenraid felly mae'r arddull braidd yn ffeithiol sychlyd a hynny, weithiau, yn gwneud y darllen ychydig yn anniddorol.

    Nid awgrym yw hynny fod y defnydd heb ei apêl. Yn wir, y gwrthwyneb sy'n wir gan fod yma doreth o ffeithiau newydd am y cyfnod o bum mlynedd a deugain a drafodir gan yr awdur.

    Cymaint o ffeithiau a dweud y gwir nes mai prin gorgyffwrdd â rhai ohonynt a wneir; ac mae hynny'n drueni.

    Seigiau blasus
    Ond wedi dweud hynny y mae yma hefyd ddigonedd o seigiau blasus yn enwedig i rywun fel fi a anwyd ac a fagwyd ym mhentref Llannerchymedd.

    Does dim dadl mai 'Athen Môn' oedd un o'r canolfannau pwysicaf yn hanes datblygiad y ddrama yn Sir Fôn yn ystod y cyfnod ac mae'r awdur wedi rhoi sylw manwl i'r cyfraniad hwnnw gyda chymorth manylion cwbl newydd am y gwyrthiau a wnaed gan John Huws - John Stamp - a'i gwmni; yn lleol ac yn genedlaethol.

    Mewn manylder
    George FisherAc mae O Arthur Williams yn dilyn hynt a helynt Y Theatr fach yn Llangefni mewn manylder mawr a chwbl ryfeddol yw'r wybodaeth sydd ganddo am gyfraniad George Fisher i sefydlu a datblygu'r ganolfan theatrig arbennig yma.

    Mae'r gyfrol hon yn sicrhau fod y gŵr a ddaeth o gymoedd y de a gosod ei wreiddiau yn Llangefni yn cael y clod dyladwy am y tro cyntaf erioed.

    Mae gan gynifer ohonom ddyled fawr i George am roi inni ein cyfle cyntaf dan ei arweiniad disgybledig yn Ysgol Ramadeg Llangefni.

    Ac nid at ei ddawn fel athro mathemateg yr ydw i'n cyfeirio nawr!

    Nid hap a damwain
    Ac mae'r gyfrol yn gwneud mwy na hynny. Mae'n profi nad trwy hap a damwain y datblygodd y ddrama Gymraeg ar yr ynys.

    Bu'r sir yn ffodus o gael criw o bobl gyda gweledigaeth wrth y llyw. E Morgan Humphreys yn Gyfarwyddwr Addysg hirben ac fe benodwyd gŵr arbennig iawn yn J O Jones yn Ysgrifennydd Cyngor Gwlad yr ynys.

    Dyna yn sicr berson a roddodd ei stamp bersonol ar bopeth yr oedd yn ymhél ag o ac ef yn anad neb, fel mae'r gyfrol hon yn profi, a sicrhaodd fod y theatr amatur yn cael pob chwarae teg a chwmnïau yn codi fel madarch ar hyd a lled yr ynys.

    Ennill Tlws y ddraig yng Ngwyl Ddrama Mon 1944 - un o'r nifer fawr o luniau yn y llyfr. Ac mae pawb o'm cenhedlaeth i - hynny ohonom sydd ar ôl - yn cofio'r gwyliau drama blynyddol y byddai cymaint o edrych ymlaen atynt.

    Mae'r gyfrol yn cyfeirio at ambell i ddirgelwch hefyd a hynod o ddiddorol i mi oedd dilyn hanes penodiad a diflaniad y diweddar Dewi Llwyd Jones yn drefnydd drama'r sir.

    Mae O Arthur Williams, chware teg iddo, yn codi cwr y llen ar y cyfnod diddorol pan yw hi'n ymddangos fod cerddoriaeth a drama wedi dod wyneb yn wyneb â'i gilydd yng nghoridorau grym y Cyngor Sir!

    Beth bynnag yw'r gwirionedd mae'n anodd dychmygu'r un math o drafodaeth ymhlith y cynghorwyr presennol!

    Gwaith caled
    Ac mi allwn i fynd ymlaen ac ymlaen i drafod y pigion blasus sydd yn y gyfrol nodedig hon ac sy'n dystiolaeth i gymaint o waith caled gan yr awdur.

    Ond diawcs mi fyddai'r darllen wedi bod yn felysach petai'r golygu a'r cyflwyno wedi bod yn fwy apelgar a threfnus. Ac mae hynny'n anffodus.

    Wedi mynd ati i gribinio a chwilio a chwalu gyda'r fath frwdfrydedd.
    Wedi canfod cymaint o ffeithiau newydd a diddorol.
    Wedi casglu cynifer o luniau o'r safon uchaf, mae'r cyfan yn colli dipyn o'i sglein oherwydd un diffyg bach - disgyblaeth olygyddol.

    A dweud y gwir bu bron i'r gyfrol droi'n 'gowdel clytiog' yn hytrach na'r 'cowlad cyfoethog' y gallai fod gydag ychydig mwy o olygu.

    Mae'r llyfr ar gael yn:
  • Cwpwrdd Cornel, Llangefni
  • Awen Menai, Porthaethwy
  • Siop Pendref, Bangor
  • Gwasg y Bwthyn, Caernarfon
  • a 12 Lôn-y-wylan, Llanfairpwll, Ynys Môn

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • George Fisher

  • Theatr Fach Llangefni


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewchi'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy