|  |
 |  |  |  |  | |  | Bwystfilod Rheibus Casgliad o anectodau difyr Adolygiad Glyn Evans o Bwystfilod Rheibus. Hunangofiant Robyn Léwis. Gwasg y Bwthyn. £9.95.
Robyn Léwis yn sgwrsio am ei hunangofiant gyda Dei Tomos ar BBC Radio Cymru.
Tri pheth i'w cofio pan yn sôn am Robyn Léwis.
Mai 'y' sydd yn Robyn, bod yna linell fach uwchben yr 'e' yn Lewis ac mai yn nhref - nid pentref - Nefyn mae'n byw.
Gallai anghofio un o'r pethau hyn arwain at epistol sydyn oddi wrth un o ddynion mwyaf aml-lythyrog Cymru!
Byddai casgliad ohonyn nhw at bapurau yn amrywio o Lanw Llŷn i 'r Telegraph yn llenwi eithaf cyfrol - a dyma fi'n dechrau gwneud gwaith comisiynydd Gwasg y bwthyn!
Caiff y tri pheth - a'r duedd i lythyru - sylw yn y llyfr hwn.
Tri pheth arall am Robyn Léwis; mae'n siarad yn blaen, dydi o ddim ofn sathru cyrn neb ac mae wrth ei fodd cael ei enw yn y papur - neu felly yr ymddengys.
A dyma'r hunangofiant. Digon diniwed Does dim amheuaeth na fydd y cyfuniad o'r enw Robin Lewis - jyst jocian! - a'r teitl Bwystfilod Rheibus yn symud sawl copi oddi ar y silffoedd gyda'r disgwyl yn eiddgar i weld pwy yw'r bwystfilod a gaiff eu pigo'n ysgafn gan ei binsel finiog.
Ond bydded rhybudd - dyfais werthu ydi'r teitl ac mae'r eglurhad y tu ôl iddo yn ddigon diniwed, os difyr, ond mae rhywun yn meddwl tybed na fyddai "Hurtrwydd Ysbrydoledig" wedi bod gystal pennawd i gofiant y gŵr lliwgar hwn.
Dyna ei gyfieithiad ef ei hun o ddyfyniad allan o adolygiad pryfoclyd gan Hywel Teifi Edwards o'i lyfr pryfoclyd A Oes Heddwch.
Wrth adolygu cyfeiria Hywel Teifi at "flashes of inspired daftness tymor Robyn Léwis yn Archdderwydd ac rydw i'n rhyw amau fod y cyn Archdderwydd wedi cymryd at y disgrifiad goleuedig yna ac mae'r fflachiadau hynny yn bywiogi ac yn goleuo'r gyfrol hon drwyddi draw - fel ag y bu iddyn nhw fywiogi bywyd yr hunangofiwr ei hun!
Mwy na daftness!
Ond nid 'daftness' fu popeth wrth gwrs gan eich bod yn sôn hefyd am ddyn a balodd yn hir ac yn ddwfn yn helaethu'r defnydd o'r Gymraeg yn llysoedd Cymru er enghraifft.
Yn wir, byddai ei eiriadur termau cyfreithiol wedi bod ynddo'i hun yn gyfraniad oes a roddai bob hawl i'r awdur orffwys ar ei rwyfau wedyn.
Bu'n llenydda hefyd gan ennill y Fedal Ryddiaith; bu'n gwleidydda ac ni all neb wadu mai ef â dorrodd fwlch yn y mur a alluogodd Dafydd Wigley i gamu drwyddo i gynrychioli Arfon yn y Senedd yn Llundain..
Ac nid y lleiaf o rinweddau rhestr ar flaen y gyfrol hon o ugain o lyfrau a gyhoeddwyd ganddo yw eu hamrywiaeth.
A chan fod naws hunangofiannol i rai ohonynt dim rhyfedd i'r awdur betruso pan y'i gwahoddwyd gan Wasg y Bwthyn i lunio y cofiant diweddaraf hwn gan yr ofnai nad oedd rhagor i'w ddweud.
"Yr oeddwn o'r farn fy mod i wedi gwasgu cymaint o sudd o'r ffrwyth fel nad oedd dim a fyddai at ddant neb ar ôl," meddai cyn mynd ar arch y wasg i gribino'i gof am ragor o atgofion.
Ac yr oedd hi yn amlwg yn delyn o gribin a ddefnyddiwyd ganddo gan iddi dynnu dros 200 o ddalennau i'r rhenciau!
Rhannu'r blynyddoedd Mae'n rhannu ei fywyd yn gowleidiau hwylus o flynyddoedd gan gychwyn yn 1929 a gorffen yn y blynyddoedd wedi 2000. Yn y canol mae tocyn o luniau yn darlunio'r blynyddoedd hynny.
Ond ar wahân i'r penodau cyntaf dydi'r gyfrol ddim yn hunangofiant yng ngwir ystyr y gair ond yn gasgliad difyr ac amrywiol o straeon ac anectodau.
A chan ei fod yn ymwybodol mai pechod mwyaf yr hunangofiannydd yn aml iawn yw brolio ei hun mae wedi sicrhau ddogn o straeon 'yn ei erbyn ei hun' ac sy'n feirniadol ohono.
Mae'n cyfaddef, er enghraifft, mai mater o gywilydd mawr iddo oedd ymaelodi â'r lluoedd arfog a gwisgo "lifrai Siôr VI, Brenin Lloegr".
Cythraul mewn croen Do, "fe wneuthum bethau na ddylwn fod wedi'u gwneud. Megis bod yn gythraul bach mewn croen," meddai - a hynny'n ein hatgoffa o gofiant ei olynydd, Selwyn Iolen, a fu hefyd yn 'hogyn drwg' heb ei ail pan yn fachgen.
Beth ydio gyda hogiau drwg eu bod nhw'n gwneud cystal archdderwyddon? Efallai y dylem gael cystadleuaeth - pwy yw'r archdderwydd mwyaf drygionus!
Cynnwys y gyfrol hon gymaint o straeon bach da mae'n anodd gwybod lle i ddechrau dyfynnu a da o beth mai digon i adolygydd yw annog pawb i ddarllen cyfrol hawdd iawn ymgolli ynddi - a dychwelyd ati ar ôl ei rhoi i lawr.
Ac fe gewch hefyd y gwir am hanes yr helynt dwyn bws chwedlonol hwnnw yn Aberystwyth.
Nid pob lleidr bws ddaeth yn archdderwydd - heb sôn am ei ddyrchafu'n Ddirprwy Farnwr hefyd!
 |
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|  |
|  | |  | |  | |  | |  |  |  | Sôn amdanynt Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
|  |  |
|  | |  |  |  | Gair am air: Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|  |  |
|
|
|