BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
News imageCymru'r Byd
News image
News imageLlais Llên
News imageAdolygiadau
News imageLlyfrau newydd
News imageAdnabod awdur
News imageGwerthu'n dda
News imageSôn amdanyntNews imagePwy di pwy?
News image
News imageY Talwrn
News image
News imageNewyddion
News imageChwaraeon
News imageY Tywydd
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeonadolygiadau a straeon
Cofio Grav
Teyrngedau i arwr o Gymro
  • Adolygiad Wyn Gruffydd o Cofio Grav. Golygydd, Keith Davies. Lolfa. £5.

  • Cyfrol deyrnged i Ray Gravell yn cynnwys ysgrifau, teyrngedau ar y we a cherddi gan Tudur Dylan, Gwyn Thomas, Dylan Iorwerth, Bethan Gwanas ac eraill. Rhagair gan Hywel Teifi Edwards.

    Clawr y llyfr "Wyn bach, shwd wyt ti?"
    Gyda'r pwyslais arferol ar yr "wyt", dyna gyfarchiad olaf Ray i fi y tro diwetha' i ni gwrdd rhyw bythefnos cyn ei farw.

    A chyn imi gael cyfle i ddychwelyd y cyfarchiad, fe ddaeth yna reffyn o ymholiadau consyrnol ynghylch fy nheulu agosa' cyn i finne gael gair i mewn ac i ofyn - "Ond shwd wyt ti ?"

    Un fel 'na oedd Ray.
    Rhywun oedd yn wirioneddol gonsyrnol am bawb, ond fe'i hunan.

    Gwyddai pawb am galon "fawr" Ray o'r Mynydd - fe'i hagorodd hi i gynifer o bobl o bob haen o gymdeithas ac o bob cwr o'r byd yn ystod ei fywyd, ar ac oddi ar y cae chwarae, yn y byd darlledu ac yn ei fywyd cyhoeddus.

    Do - "digwyddodd, darfu, megis seren wib" yng ngeiriau R.Williams Parry, neu "woosh" fel y bydde Ray ei hun yn ei ddweud.

    Ond nid cyfrol i ruthro trwyddi yw Cofio Grav - wedi ei golygu yn synhwyrus iawn gan Keith Davies, cynhyrchydd ei raglen foreol ar Radio Cymru.
    'Keith Bach' i'w gydnabod agosa' ond 'Keith bach, bach, bach' i Ray o barch i'r berthynas arbennig, arbennig, oedd rhyngddyn' nhw!

    Yn y gyfrol, ac fel mae'r broliant ar glawr y gyfrol yn dweud - er bod hi'n anodd meddwl am "froliant" yng nghyd-destun Ray, am nad oedd nag ymffrost na malais yn agos at y dyn:

    " ....fe gofnodir y golled a unodd y genedl, a'r atgofion cynnes a gofnodwyd am y cawr o Fynydd y Garreg. Yn brifeirdd a gwrandawyr ei raglen radio, yn wleidyddion a chwaraewyr rygbi, dyma deyrngedau ac atgofion i'w trysori."

    Y galaru a unodd genedl roes fod i'r gyfrol gyda'r elw yn mynd i Gronfa Goffa Ray Gravell. Roedd yna swildod, a balchder oedd, a deigryn hefyd yn ei lygaid pan gefais i fy arwain mâs i'r pasej ym Mrynhyfryd er mwyn i mi gael darllen y ddau englyn a luniwyd ac a gyflwynwyd gan y ddau brifardd Mererid Hopwood a Tudur Dylan i Ray pan oedd e yn Ysbyty Glangwili, ac y mae rheiny nawr ar gof a chadw o fewn cloriau'r gyfrol.

    Tyrd a'th gân draw i'n canol ni eilwaith,
    Rho'r alaw i'th bobol.
    Ar un waith tyrd Ray yn ôl,
    Brysia wella yn hollol.
    Tudur Dylan

    Llenwaf fy mhedair llinell â geiriau
    O gariad, i'th gymell.
    A mwy, Grav, rhof lond stafell
    I'th gael 'nôl yn hollol well.
    Mererid Hopwood

    Does na ddim yn newydd yn y syniad o ganu clodydd i un o'n glewia'. Mae hynny yn ein traddodiad marwnadu ni fel cenedl.

    Lledwyd y newyddion am golli gwroniaid ac am orchestion ar faes y gad fel rhan o'r traddodiad llafar drwy'r Canol Oesoedd.

    Mae'r syniad, fodd bynnag, yn newyddbeth mewn oes sy'n byw i'r funud ac yn taflu popeth o'r neilltu, ac nid pobl amlwg yn unig sy'n cael dweud eu dweud o fewn cloriau'r gyfrol.

    Mae dweud Kev Bach, sy'n gefnogwr brwd i Glwb Rygbi Cwmllynfell yn crynhoi teimladau miloedd yn y diwrnodau wedi diwrnod ei farw:

    "Graf nath i fi sylweddoli bod dim rhaid i'n Gymrag i fod yn Gymrag posh. Sdim dowt amdani - odd, odd e'n fachan sbeshal iawn. "

    A cheir sôn gan Lyn Ebenezer am golofn Peter Jackson yn y Daily Mail lle mae'n dweud;
    "Roedd curo Lloeger i Graf fel mynd ati, mewn rhyw ffordd fach, i wneud iawn am ganrifoedd o anghyfiawnder."

    Dylai ei golofn gael ei fframio a'i gosod ar wal pob cartref yng Nghymru medde Lyn.

    Mewn hanner canrif a mwy pwy a ŵyr, falle y daw disgybl ysgol ar draws y gyfrol hon ar gwricwlwm addysg uwchradd a gorfod gofyn i'w hen dadcu, pwy oedd Ray Gravell.

    A hwnnw'n egluro gyda balchder fel y byddai yn cofio i Grav forio canu caneuon gwladgarol cyn mynd mâs i drechu'r Saeson bron ar ei ben ei hun ac fel y gallai gario Cleddyf Mawr y Steddfod ag un llaw, ac....
    "... but gramps, who was Daffyd Iwan?"
    Prynwch y gyfrol felly!

  • Mae Wyn Gruffydd yn sylwebydd rygbi ar S4C ac yn sgrifennu am rygbi yn Y Cymro.


  • Llyfrau - gwefan newydd
    Ewchi'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy