BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
News imageCymru'r Byd
News image
News imageLlais Llên
News imageAdolygiadau
News imageLlyfrau newydd
News imageAdnabod awdur
News imageGwerthu'n dda
News imageSôn amdanyntNews imagePwy di pwy?
News image
News imageY Talwrn
News image
News imageNewyddion
News imageChwaraeon
News imageY Tywydd
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeonadolygiadau a straeon
Byd Aneurin
Byd diflanedig mewn paent a lliw
  • Adolygiad Lois Eckley o Byd Aneurin - Hunangofiant mewn llun a gair gan Aneurin Jones. Y Lolfa. £29.95 (clawr caled), £19.95 (clawr meddal).


  • Mae rhywbeth hynod o swynol am lyfr newydd yr arlunydd Aneurin Jones, Byd Aneurin.

    Unwaith yr agorwch y clawr cewch eich tywys i fywyd yn y wlad fel ag yr oedd pethau ac, o bosib, fel maen nhw'n dal i fod mewn rhai corneli.

    Mae darluniau lliw a sgetsus yn eich cwrdd o bob cyfeiriad.

    Byd Martha, Jac a Sianco!
    Mae'r cyfan yn plethu'n hynod o gartrefol â hanes byd sy'n prysur ddiflannu. Adleisiau o fyd nofel Caryl Lewis, Martha Jac a Sianco, sydd yma a'r llyfr yn wrogaeth i harddwch gwlad ai phobol ond ar yr un pryd dangosir nad yw popeth yn berffaith o hyfryd yma o hyd.

    Mae yna bethau ych a fi yn digwydd hefyd a marwolaeth a gwaed yn brofiadau dyddiol ar fferm ac mewn cymdeithas amaethyddol.

    Dynion cryfion Cwrt y Cadno Gall testun gwaith Aneurin Jones ymddangos yn anniddorol i rai pobl ifainc heddiw - criw o hen ddynion mewn mart, astudiaeth o geffylau gwyllt a gwedd - ond mae ei ymroddiad i'r hyn sydd o'i amgylch ac i'w hanes ei hun yn rhodd i ni y darllenwr yn y llyfr hwn a'r geiriau sydd ganddo ar bob tudalen yn ychwanegu gymaint mwy at y gwerthfawrogiad o'r lluniau.

    Ei blentyndod
    Cawn glywed am ei blentyndod yn Nghwm Wysg a chyda'i eiriau a'i ddelweddau daw'r cyfan yn fyw.

    Mae'n sôn am ei gariad at ei gi, Larc, oedd wrth ei fodd yn mynd ar y beic gydag e a sut yr achubodd ei fywyd un tro.

    Y cyfan yn dod ag ystyr ddyfnach i gyfres o luniau o ffermwyr a'u cŵn defaid yn Gwanwyn a Partneriaid.

    Dod a'r cyfan yn fyw
    Credaf fod gwaith Aneurin Jones yn gyfarwydd i lawer erbyn hyn a hithau'n arddull hawdd i'w hadnabod.

    Ond o fod yn gyfarwydd efallai bod perygl colli, neu gymryd yn ganiataol, gryfder yr arlunydd hwn sydd a'i gyfraniad gymaint i gelf yng Nghymru heb sôn am yr hyn y mae'n ei gynnig yn fyd- eang.

    Efallai, nad oes modd ar yr olwg gyntaf weld y rhesymeg, yr emosiwn a'r ystyr, yn y sefyllian yng ngoleuni glasoer ei luniau ond fe ddaw ei eiriau hunangofiannol a'r cyfan yn fyw ac rwy'n gobeithio y daw a chynulleidfa newydd i'w waith fydd yn gweld crefft mewn hen ddwylo.

    Parchu crefft
    Dywed fod ei deulu yn parchu pobol â chrefft o rhyw fath a'i fod ef o'r farn fod celf yn grefft sydd hefyd yn haeddu parch.

    Rhan o lun Llyn y Fan Yr hyn y dylem ei barchu yn fwy na dim yw yr hanes sydd yma rhwng y tudalennau, meistrolaeth ei arlunwaith a'i gariad at ei destun.

    Mae'n gofnod cyflawn a gwerthfawr o fywyd diflanedig mewn darluniau sy'n dweud stori cefn gwlad mewn lliw.

    Weithiau mae'n rhaid colli rhywbeth i sylweddoli ei werth a gwerthfawrogi yr hyn sydd. A dyna'r teimlad o edrych ar y lluniau hyn - a'r ffaith fod angen atgoffa rhywun o'r cyfan sydd gan cefn gwlad i'w gynnig.

    Does dim amheuaeth gen i fod Aneurin yn grefftwr gwerth chweil sy'n haeddu parch.

    Cyfaill yn golygu
    Mae'r llyfr yn cynnwys dros 200 o luniau i gyd a chyfaill i'r arlunyudd ers blynyddoedd, Emyr Llewelyn, olygodd y gyfrol.

    "Mae ei hanesion e'n ddarllenadwy iawn, byd y ceffylau, y cŵn a'r dynion cryf," meddai amdano. "Mae e'n arlunydd y Gymru Gymraeg mewn ffordd, yn cofnodi ein hanes ni.

    "Mae 'na lawer o luniau o bobl yn cymdeithasu a'i gilydd, wyneb yn wyneb. Mae hynny'n bwysig iawn iddo. Mae'r pethau yma wedi darfod mewn nifer o ardaloedd erbyn hyn, dyw pobl ddim yn cymdeithasu yn yr un ffordd nac mor agos i fyd natur. Felly dwi'n meddwl ei fod o'n arlunydd â neges gyfoes am bwysigrwydd byd natur a phwysigrwydd bod yn agos at ein gilydd," meddai.


    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewchi'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy