Adolygiad Lynda Ganatsiou o Maestro - Cofiant Noel Davies gan Eric Jones. Gwasg Gomer. £7.99.
Go brin bod angen dweud fod Pontarddulais yn lle sy'n enwog nid yn unig am ei gerddorion ond hefyd am ei gantorion.
Bu corau yn rhan anhepgor o fywyd diwylliannol y pentref a'r ardal ers dechrau'r ugeinfed ganrif.
Ar ddechrau'r Chwedegau fodd bynnag daeth rhyw ddau ddwsin o wŷr at ei gilydd i ffurfio côr meibion gyda Noel Davies wrth y llyw yn arweinydd.
O dan ei arweinyddiaeth garismatig tyfodd y côr i fod yn uned lwyddiannus ym myd cerddoriaeth ledled Cymru ac yn adnabyddus hyd yn oed dramor.
Ffynnodd y côr ar y brwdfrydedd a'r cysegriad a rhoddodd y dyn yma i gyrraedd ei nod i ffurfio un o gorau meibion gorau'r byd.
Yr oedd Noel yn un a fyddai'n anelu at berffeithrwydd ym mhob perfformiad heb fod yn fodlon derbyn dim byd llai na'r gorau.
Dilynodd Noel ei swydd yn gyfarwyddwr cerddoriaeth am ddeugain mlynedd gyfan.
Gŵr adnabyddus arall yn y Bont ydy Eric Jones. Ag yntau'n gyn gyfeilydd y côr, yn gerddor ac yn gyfansoddwr ei hun, pwy'n well nag ef i dalu teyrnged i'r gallu clodwiw yma a gwnaeth hynny cofiant gyda'r teitl addas iawn, Maestro.
Caiff ei lansio ym mhresenoldeb y côr yng nghlwb rygbi Pontarddulais ddydd Mercher 14 Tachwedd 2007.
Cyfrol ddwyieithog yw hi gyda'r Saesneg a'r Gymraeg yn wynebu ei gilydd a chynhwysir nifer o luniau, yn rhai lliw a du a gwyn.
Nid llyfr yn disgrifio hanes Côr Meibion Pontarddulais mo hwn ond un sy'n cynnig diolch a mynegi gwerthfawrogiad y gymuned gyfan i ddyn a roddodd gymaint iddi.
Dyma ffordd Eric Jones o roi rhywbeth yn ôl ar ran pobl Pontarddulais. Rhywbeth a fydd yn cadw ei enw yn fyw am amser maith i ddod; teyrnged weddus iawn.
Mae Lynda Ganatsiou - Jones gynt - yn byw yng Ngwlad Groeg ond yn dod o Bontarddulais.