BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
News imageCymru'r Byd
News image
News imageLlais Llên
News imageAdolygiadau
News imageLlyfrau newydd
News imageAdnabod awdur
News imageGwerthu'n dda
News imageSôn amdanyntNews imagePwy di pwy?
News image
News imageY Talwrn
News image
News imageNewyddion
News imageChwaraeon
News imageY Tywydd
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeonadolygiadau a straeon
Prif Weinidog Answyddogol Cymru
Awdur yn sôn am ei lyfr am Huw T Edwards
Mae'r gyfrol Prif Weinidog Answyddogol Cymru yn dilyn hanes un o gymeriadau mwyaf lliwgar a dylanwadol pump a chwe degau y ganrif ddiwethaf - yr undebwr llafur, Huw T Edwards.

Y bywgraffiad hwn gan Gwyn Jenkins - golygydd Llyfr y Ganrif - yw'r cyntaf i fynd i'r afael â'r cymeriad diddorol hwn a ddisgrifiwyd fel "Cymro mwyaf cyffrous ei ddydd" a fu'n pendilio rhwng dwy blaid wleidyddol yn gadael y Blaid Lafur i ymuno â Phlaid Cymru - dim ond i ddychwelyd eto i gorlan Llafur.


gwrandoGwyn Jenkins yn sgwrsio gyda Nia Roberts ar BBC Radio Cymru, fore Iau, Gorffennaf 12, 2007.


Bu Gwyn Jenkins, sy'n Gyfarwyddwr Gwasanaethau Casgliadau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn siarad am y cofiant gyda Nia Roberts ar Raglen Hywel a Nia fore Iau, Gorffennaf 12, 2007 lle disgrifiodd Huw T Edwards fel "sosialydd cenedlaetholgar", gŵr direidus ac yn berson "cynnes a hael iawn, iawn"..

"Ac roedd pobl yn hoff iawn, iawn, ohono fe ac ychydig iawn o feirniadu oedd arno," meddai.

Pryfocio
"Ac roedd e'n hoffi dweud pethau [oedd yn] pryfocio ac hyd yn oed wedyn roedd pobl yn derbyn mai Huw T oedd Huw T," ychwanegodd.

Ond ychwanegodd mai "dyn o ddylanwad ond heb rym" oedd o.

Un o Ddyffryn Conwy oedd Huw T Edwards. Ychydig o addysg a gafodd a thra'n gweithio ym mhyllau glo y de yr ymunodd â'r Blaid Lafur a dechrau ymwneud ag undebau llafur gan ddringo maes o law yn gadeirydd cyntaf Cyngor Cymru ac ennill iddo'i hun yr enw o fod yn "Brif Weinidog Answyddogol Cymru" pan oedd ar anterth ei yrfa.

Ymlyniad
"Roedd ei ymlyniad at iaith a diwylliant ei genedl yn ddi-ball ac er yn sosialydd o argyhoeddiad ac yn genedlgarwr pybyr, roedd yn ddigon eangfrydig i fanteisio ar bob cyfle i gydweithio'n adeiladol ar ran y genedl," meddai Gwyn Jenkins noson cyhoeddi'r llyfr yn y Llyfrgell genedlaethol, Gorffennaf 13, 2007.

"Roedd ei gyfraniad i ddatblygiad Cymru fel cenedl yn yr ugeinfed ganrif yn eithriadol o bwysig a thra gwahanol fyddai'r broses o ddatganoli oni bai am ei gyfraniad ef," meddai.



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewchi'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy