BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
News imageCymru'r Byd
News image
News imageLlais Llên
News imageAdolygiadau
News imageLlyfrau newydd
News imageAdnabod awdur
News imageGwerthu'n dda
News imageSôn amdanyntNews imagePwy di pwy?
News image
News imageY Talwrn
News image
News imageNewyddion
News imageChwaraeon
News imageY Tywydd
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeonadolygiadau a straeon
Valentine - adolygiad
Gweinidog aeth i ryfel
  • Adolygiad John Stevenson o Valentine: Cofiant i Lewis Valentine gan Arwel Vittle . Y Lolfa: £14.95.


  • Fel un a fagwyd yn y traddodiad Bedyddiedig mewn Capel Bedyddwyr ar Ynys Môn yn y Chwedegau, rhaid imi gydnabod mai digon cymysg oedd yr adwaith yno tuag at y Parchedig Lewis Valentine.

    Y gwir yw fod cryn dipyn o fytholeg ac o gamsyniadau ynglŷn a gwrthrych cofiant Arwel Vittle.

    Clawr y llyfr Y cwestiwn felly ydi; i ba raddau y llwydda'r gyfrol i ddryllio'r camsyniadau hynny?

    Do, cafodd y gŵr a fu'n Weinidog y Tabernacl, Llandudno a Phenuel, Rhosllannerchrugog, ei ddyrchafu a'i gydnabod fel un o bregethwyr Undeb y Bedyddwyr i'r graddau y byddai cael Lewis Valentine yn gennad mewn Cymanfa Bregethu yn dipyn o sgŵp.

    Ond ar y llaw arall yr oedd gwleidyddiaeth Lewis Valentine yn wrthun i lawer o ffyddloniaid Anghudffurfiaeth Cymru.

    "Pobol Cledwyn", er enghraifft, oedd y mwyafrif helaeth o aelodau capel Jeriwsalem, fy mam eglwys yn Llangoed ar Ynys Môn.

    Ac iddyn nhw, roedd Lewis Valentine yn ffigwr rhy amlwg o fewn y "Blaid Bach" i fod yn gwbl dderbyniol a chymeradwy.

    Teg nodi wrth gwrs fod gan ei aelodau yn y Tabernacl, Llandudno, safbwynt cwbwl wahanol.

    Yno cafodd gefnogaeth ei aelodau pan y'i carcharwyd yn Wormwodd Scrubs yn dilynl tân Penyberth yn 1936 - a'i groesawu'n ôl wedi ei ryddhau.

    Ond mae'n amlwg o ddarllen pennod Arwel Vittle am gyfnod Lewis Valentine yn weinidog yn ardal Lafurol y Rhos, ger Wrecsam, nad pobol fy mam eglwys i oedd yr unig rai i'w weld "yn ormod o Welsh Nash".

    Dyna brofiad Lewis Valentine ei hun, er ei gyfeillgarwch bersonol gydag amryw o Lafurwyr blaenllaw ei gyfnod.

    'Yn gonshi'
    Roedd Valentine yn cael ei weld "yn gonshi" hefyd - gŵr, meddir, a wrthododd chwarae ei ran yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a gŵr oedd yn dal i arddel syniadau heddychiaeth oedd yn cael eu cyfri'n hynod beryglus yn nyddiau'r Rhyfel Oer.

    Ond trosedd bennaf Lewis Valentine i'r gynulleidfa ddosbarth gweithiol oedd yn aelodau yn fy nghapel gartref oedd ei fod o, yn eu barn hwy, wedi gwrthwynebu dod a gwaith i Ben Llŷn a hynny mewn cyfnod wedi'r Dirwasgiad pan oedd gwaith mor brin.

    Nid fod Lewis Valentine ei hun, wrth gwrs, yn gweld y weithred o gynnau tân ar safle milwrol Penyberth yn y 30au cweit yn y ffordd yna.

    Ond, yn sicr, i nifer fawr o Gymry, y weithred honno yn 1936 oedd y pechod mawr.

    Ond yn waeth na llosgi'r safle; i'r bobol dwi'n sôn amdanyn nhw roedd y ffaith fod Saunders Lewis, DJ Williams a Lewis Valentine wedi llosgi celfi y gweithwyr a gyflogwyd i weithio ar y safle.

    Mewn oes lle'r oedd yn rhaid i weithwyr ar safleoedd adeiladu dalu'n ddrud am eu celfi yr oedd gweithred fel un Penyberth yn gam anfaddeuol yn llygaid rhywun o gefndir dosbarth gweithiol.

    Ochr arall y geiniog
    Mae'n bosibl dadlau mai Lewis Valentine oedd ochor arall ceiniog wleidyddol safbwynt rhai fel John Williams Brynsiencyn.

    "Er ei holl ddiffygion," meddai Gweinidog Princess Road, Lerpwl, wrth recriwtio ar gyfer Byddin Lloyd George, "Prydain yw'r lanaf, anrhydeddusaf, y mae haul Duw yn tywynnu arni."

    "Er ei holl ddiffygion," awgryma Gweinidog Capel y Tabernacl yn 1936 "Cymru yw'r lanaf a'r anrhydeddusaf y mae haul Duw yn tywynnu arni."

    Lewis yn gonshi?
    Annheg iawn dwi'n credu - ac fel mae Arwel Vittle yn dangos drwy dynnu sylw'r darllenydd at gyfrol Valentine ei hun - yw awgrymu fod Lewis Valentine yn llwfrgi.

    Mae Dyddiadur Milwr - ei gronicl o'i brofiadau yn Ffrainc yn ystod y Rhyfel Mawr - yn gwrthbrofi hynny.

    Yn 23 oed - fel mae Vittle yn disgrifio mewn pennod hynod ddirdynnol - gwasanaethodd Lewis Valentine yn Ffrainc gyda'r Corfflu Meddygol lle gwelodd erchyllterau na ellid byth eu anghofio.

    Cefais innau wefr na allaf i ei anghofio o ddarllen yn y Chwedegau ysgrifau gan Lewis Valentine am y cyfnod hwnnw yn hen gylchgrawn Seren Gomer - chwaer gylchgrawn i wythnosolyn y Bedyddwyr Cymraeg, Seren Cymru.

    A dyna pryd y dechreuais i sylweddoli nad un math o beth ydi dewrder a bod yna'r fath beth a dewrder argyhoeddiad - a ydych yn cytuno â'r argyhoeddiad neu beidio.

    Yn ddiddorol, mae safbwynt rhai fel Lewis Valentine tuag at heddychiaeth a phynciau milwrol yn dal i greu problemau i'r Blaid Cymru fodern.

    Cafodd Dafydd Iwan, Llywydd presennol Plaid Cymru, ei hun mewn twll gwleidyddol rai wythnosau'n ôl oherwydd sylwadau a wnaeth o mewn cyfweliad gyda BBC Radio Wales am safleoedd milwrol yng Nghymru.

    Doeth a chadarn
    Mae gennyf le cynnes iawn yn fy nghalon tuag at y Tabernacl Llandudno, y capel llu bu Lewis Valentine yn weinidog am ragor nag ugain mlynedd.

    Yno, yn ddiweddarach, y bu un o'm harwyr mawr yn gweinidogaethu hefyd.

    Bu'r diweddar Eirwyn Morgan yn weinidog ymroddedig yno cyn mynd yn Athro yng ngholeg ei enwad ym Mangor. Ys dywedai'r Groegwr slawer dydd, hwn oedd "y gorau y doethaf a'r mwyaf cadarn o ddynion".

    Yn ôl ei edmygwyr, ac mae Arwel Vittle yn amlwg yn un ohonynt, mae'n ddisgrifiad yr un mor briodol o Lewis Valentine.

    Yn ysgolhaig
    A diddorol iawn yw darllen fod Lewis Valentine, yn y Pedwardegau, wedi cynnig am swydd Athro Lleynyddiaeth Feiblaidd yng Ngholeg y Bedyddwyr ym Mangor, sef Y Coleg Gwyn.

    Wyddwn i ddim cynt bod asgwrn ysgolhaig yn perthyn iddo! Gwir fod ganddo MA - ond onid oedd unrhyw un yn cael hwnnw erstalwm?

    Chafodd Lewis Valentine ddim mo'r swydd a chred Arwel Vittle mai'r ffaith iddo fod yn genedlaetholwr amlwg ac hefyd oherwydd ei fod yn gyfeillgar â Jac Daniel (y dyn nid y wisgi!) oedd yr eglurhad am hynny.

    Ond gor symleiddio pethau braidd yw dweud hynny gredwn i!

    Y syndod yw iddo gael ei ystyried am y swydd o gwbl gan mai arferiad y Bedyddywr ym Mangor oedd i penodi rhai a fu'n astudio yng Ngoleg Regent's Park, Coleg y Bedyddwyr ym Mhrifysgol Rhydychen.

    Yn wir, dyna'r arferiad o hyd.

    Ond bu'n werth darllen y gyfrol pe tai ond i ddysgu fod gan Lewis Valentine gyraeddiadau ysgolheigaidd nas gwireddwyd.

    Codi cwestiwn
    Ond mae un peth yn fy mhoeni am y cofiant gan godi pob math o gwestiynau gwleidyddol, ideolegol a diwinyddol pell gyrhaeddol.

    Ar dudalen 310 mae Arwel Vittle yn dyfynnu rhan o araith Lewis Valentine pan yn Llywydd Undeb Bedyddwyr Cymru yn 1962:

    "Cyfrifoldeb a osodwyd arnom gan Dduw ydyw gwlad Cymru. Cyfrifioldeb a osodwyd arnom gan Dduw ydyw cenedl Cymru," meddai.

    Gwnaeth Lewis Valentine ei sylw fel arweinydd enwadol nid fel arweinydd gwleidyddol.

    Ond cred rhai fod hawlio bod cenedlgarwch yn deillio o ddwyfol ordinhad yn gam a allai'n harwain i gors ddiwinyddol a gwleidyddol hynod o beryglus.

    Pwysigrwydd gwrthrychedd
    Mae'r Cymry darllengar yn ffodus o'r adfywiad cyfoes mewn cyhoeddi cofiannau a hunangofiannau Cymraeg.

    Ond wedi dweud hynny, gofal piau hi gyda mentrau o'r fath.

    Bu cyfnod ym myd cyhoeddi Saesneg pan fu'n arferiad gan wleidyddion digon di sôn amdanynt yn San Steffan gyhoeddi cofiant am eu cyfnod yn is ysgrifennydd seneddol mewn adran cwbwl, gwbwl, ddibwys yn nheyrnas Margaret Thatcher.

    Yng Nghymru'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn yr un modd, bu gweinidogion anghydffurfiol yn cyhoeddi cyfrolau sych a swmpus yn cofnodi gyrfaoedd pregethwrol anghofiedig.

    Mae cyfrol gymeradwy Arwel Vittle yn darlunio un pwynt yr ydw i am i wneud am y maes hwn:

    Y dyletswydd syml hwnnw o ymdrechu tuag at wrthrychedd.

    O gofio bod cymaint o arian cyhoeddus yn cael ei dywallt i goffrau'r gweisg Cymreig o ffynonellau cyhoeddus dylai fod yn ddyletswydd ar gyhoeddwyr i sicrhau nad ydyn nhw ond yn apelio at un garfan wleidyddol o'r Gymru Gymraeg ddarllengar.

    Mae cryn wahaniaeth rhwng broliant a chofiant.

    Wrth gwrs, mae hunangofiant yn beth arall tra gwanhaol.

    Ond mae cofiant sy'n syrthio'n brin o wrthrychedd mewn gwir berygl o fod yn unllygeidiog.

  • Gweler Gwales Cliciwch

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Holi Arwel Vittle


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewchi'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy