BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
News imageCymru'r Byd
News image
News imageLlais Llên
News imageAdolygiadau
News imageLlyfrau newydd
News imageAdnabod awdur
News imageGwerthu'n dda
News imageSôn amdanyntNews imagePwy di pwy?
News image
News imageY Talwrn
News image
News imageNewyddion
News imageChwaraeon
News imageY Tywydd
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeonadolygiadau a straeon
Taliesin - gwobr i dair o Fôn
Cysylltiad meddygol rhyfeddol
Tair merch sy'n hanu o Fôn sydd wedi cipio'r prif wobrau yng Nghystadleuaeth Stori Fer y cylchgrawn llenyddol Taliesin.

Nid yn unig y mae eu gwreiddiau ar yr Ynys ond mae dwy ohonynt yn hanu o'r un pentref ac mae cysylltiad diddorol arall rhyngddynt hefyd.

Rhannu'r wobr
Roedd y gystadleuaeth hon yn cynnig gwobr sylweddol o £1,000, diolch i nawdd cwmni teledu Boomerang o Gaerdydd a bu 30 yn ymgiprys amdani.

Fe'i rhannwyd rhwng Annes Glynn (llun uchod), Prif Lenor Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd 2004, gipiodd y wobr gyntaf, gyda'r ail wobr yn mynd i Brif Lenor 1999, Sonia Edwards, a dyfarnwyd y drydedd wobr i Mary Annes Payne a ddaeth yn agos at ennill y Fedal Ryddiaith yn 2002 gyda'i nofel Hogyn Syrcas.

Meddyg
Mae Annes a Mary yn hanu o bentref Brynsiencyn a'r hyn sy'n eu cysylltu yw mai tad Annes Glynn, y diweddar Dr John Glyn Jones, oedd yn gofalu am fam Mary yn ystod ei genedigaeth, a hynny ar ddiwrnod pen-blwydd ei wraig!

Rhwng popeth, y cam naturiol wedyn oedd rhoi'r enw Annes yn enw canol ar y babi newydd, ar ôl merch y meddyg!

Ymgartrefodd Annes ym mhentref Rhiwlas ger Bangor ers rhai blynyddoedd lle mae bellach yn gyfieithydd ar ei liwt ei hun.

Treuliodd Mary gyfnodau yn dysgu yn Yr Alban a Sir Drefaldwyn cyn dychwelyd i Fôn ac ymroi i ysgrifennu'n amser llawn.

Llawn awgrymusedd
Meddai'r beirniad y Dr John Rowlands am y stori fuddugol 'Dewis, dewis...' a anfonwyd i mewn dan y ffugenw 'Dalí':
'Mae rhywbeth addas iawn yn y ffugenw. A dyna sy'n taro rhywun am y stori hon - mae'i harddull drwodd a thro yn llawn awgrymusedd soffistigedig, yn byrlymu o ddeallusrwydd, ac eto byth yn taflu llwch i lygad neb, ond yn ymdrin yn gyrhaeddgar â phwnc a allai'n hawdd fynd yn afreolus.'

Yn ystod y chwe blynedd diwethaf cyhoeddodd Annes Glynn ddwy nofel, Dilyn Sgwarnog a Chwarae Mig yn ogystal â'r gyfrol o lên meicro, Symudliw a enillodd iddi'r Fedal Ryddiaith yng Nghasnewydd.

Salwch meddwl
Am ei stori fer fuddugol dywedodd:
"Mae'r stori wedi cael ei hysgrifennu o safbwynt dyn sy'n dioddef o salwch meddwl. Er ei bod yn thema ddwys ar yr olwg gyntaf mae 'na ddigon o hiwmor tywyll ynddi ac mi wnes i fwynhau ei hysgrifennu yn arw.

"Yn eironig ddigon, ers i mi ennill y Fedal Ryddiaith, ysgrifennu barddoniaeth sydd wedi mynd â'm bryd a hynny'n bennaf oherwydd imi ymuno â dosbarth cynganeddu lleol."

Lansiwyd y rhifyn diweddaraf o'r cylchgrawn yn Oriel Bangor ac mae copïau ar gael o'r siopau yn awr neu drwy gysylltu â'r Academi ar 02920 472266.



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewchi'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy