 | Hoff Gerddi Digri Cymru Wyneb gwerth mil o bunnau yn chwerthin ar y clawr Ni feddyliodd Mary Jones o'r Felinfach erioed y byddai sgets a wnaed ohoni mewn Noson Lawen fyth yn gweld golau dydd.
Ond y Nadolig hwn mae Mary i'w gweld yn gwenu arnom oddi ar clawr blodeugerdd o farddoniaeth Gymraeg.
Bethan Mair yn trafod y gyfrol efo Hywel a Nia sydd hefyd yn holi Mary Jones - wyneb rhadlon y clawr (Rhagfyr 13, 2006).
Mae'r llun a baentiwyd gan Meirion Jones yn dangos Mary a fu'n gogyddes yn Ysgol Gynradd Trefilan, Talsarn, yn chwerthin o waelod bol ar glawr Hoff Gerddi Digri Cymru a gyhoeddir gan Wasg Gomer.
"Mewn Noson Lawen ar yr hewl o Dalsarn i Langeitho oeddwn i, ond ma' hynny'n bownd o fod rhyw chwe blynedd yn ôl nawr," meddai Mary.
"Wyddwn i ddim am y peth tan i'm brawd yng nghyfraith fynd â fi i weld y llun yn siop Rhiannon un diwrnod.
"Fues i'n siarad da Meirion wedyn, a dyma fe'n egluro pam y tynnodd e'r llun. 'Weles i chi'n chwerthin,' medde fe, 'a fedrwn i ddim peidio tynnu'ch llun!'"
Serch hynny, ni wyddai Mary ddim oll am fodolaeth llun Meirion - sy'n fab i'r arlunydd o Aberteifi, Aneurin Jones - ar glawr y llyfr tan yn ddiweddar iawn.
Profiad od "Ffoniodd Goronwy [Jones, Perchennog Siop y Smotyn Du yn Llambed] a gofyn i fi fynd fyny i'r lansiad. A fe wedodd e ei fod wedi gweld y llun ohona i. Yn lle, holes inne. Ar glawr llyfyr medde fe!"
Dywedodd fod y profiad yn un od i ddechrau.
"Ond wy'n dechre cyfarwyddo â'r peth nawr a phan welodd e'r clawr, wedodd fy mab wrtho i, 'Wel mam fach, y'ch chi yn y limelight nawr!'"
Ond rhaid i'r rheswm pam yr oedd yn chwerthin mor harti aros yn ddirgelwch yn anffodus.
"Peidiwch â gofyn wrtho i, wy'm yn cofio! Wy'n hopeless am gofio jôcs, wy'n ofnadwy, sai'n cofio dim un ohonyn nhw!" meddai.
Ond mae'n werth gwybod fod y darlun gwreiddiol bellach wedi ei brisio'n £1,300 ond go brin y bydd Mary yn ei brynu'n anrheg Nadolig iddi hi ei hun.
"Mowredd, alla i byth â'i ffordo fe!" chwarddodd. "Ges i'r llun mawr o'r clawr a ddefnyddiwyd yn y lawns pwy nosweth - fe fframia i hwnnw!"
Pob math o gerddi Golygydd y gyfrol, Bethan Mair, sy'n gyfrifol am y clawr a daeth hi o hyd i'r llun ar wefan yr arlunydd pan yn chwilio am ddelwedd addas ar gyfer y llyfr.
Mae'r gyfrol yn cynnwys pob math o gerddi doniol gan gynnwys rhai am gymeriadau fel Matilda, cerddi chwarae ar eiriau ac odli slic a hen ffefrynnau gan feirdd yn amrywio o Dafydd ap Gwilym i Geraint Lovgreen, W. R. Evans a Dewi Pws.
Hoff Gerddi Digri Cymru. Golygydd, Bethan Mair. Gwasg Gomer, £5.99 Cysylltiadau Perthnasol Gwefan Meirion Jones  Adolygiad o'r llyfr 
 |
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|  |
|  | |  | |  | |  | |  |  |  | Sôn amdanynt Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
|  |  |
|  | |  |  |  | Gair am air: Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|  |  |
|
|