BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
News imageCymru'r Byd
News image
News imageLlais Llên
News imageAdolygiadau
News imageLlyfrau newydd
News imageAdnabod awdur
News imageGwerthu'n dda
News imageSôn amdanyntNews imagePwy di pwy?
News image
News imageY Talwrn
News image
News imageNewyddion
News imageChwaraeon
News imageY Tywydd
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeonadolygiadau a straeon
Crap ar farddoni
Diota, cwrso merched a chariad at iaith
  • Adolygiad Lowri Roberts o Crap ar Farddoni gan Catrin Dafydd, Eurig Salisbury, Aneirin Karadog, Iwan Rhys, Hywel Griffiths. Gwasg Carreg Gwalch. £5.


  • Fyth ers imi glywed am y gyfrol hon yn y wasg rwyf wedi bod yn awchu i'w byseddu a'i darllen fy hun.
    Pam?

    Yn bennaf, am ei bod yn swnio'n ddifyr ac am imi golli'r daith oedd yn mynd law yn llaw â'i lansio.

    O ystyried fod pob un o'r pump o feirdd yn enillwyr rhai o brif wobrau'r Urdd yn eu tro, diau ei bod yn gyfrol safonol hefyd!

    Teg dweud felly bod gen i ddisgwyliadau mawr wrth fentro'i darllen.

    Clawr y llyfr Cyfrol yw hi gan griw o feirdd ifanc a ddaeth at ei gilydd yn y coleg yn Aberystwyth ac fel y mae'r teitl bachog yn ei awgrymu mae'n gyfrol ffraeth a digri sy'n llawn hiwmor ac eironi.

    Prawf pellach o hyn yw 'sylwadau' rhai o fawrion y genedl am y cerddi:

    "Mae'r gerdd yn amddifad o deimlad ac ni chefais ynddi unrhyw wefr," meddai Gerallt Lloyd Owen.

    "Peidiwch â phrynu'r gyfrol hon," meddai Myrddin ap Dafydd!

    Rhaid pwysleisio, fodd bynnag, nad cyfrol tafod yn y boch mo hon... yn llwyr.

    Lle amlwg i Aber
    Er gwaetha'r honiadau mai "cymysgedd digyfeiriad o stranciadau am gariad, iaith, gwleidyddiaeth, beirdd, tafarndai, traethau a diodydd" a geir yma, mae themâu cyson yn dod i'r amlwg.

    Yn naturiol ddigon mae yma le amlwg i dref Aberystwyth a bywyd cymdeithasol ei myfyrwyr.

    Yn hynny o beth, mae'r 'Llew Du' a 'Phantycelyn' yn cael sylw penodol.

    Ceir yma hefyd hanesion digri am ddiota a chwrso merched. Mae'r troeon trwstan a gyfyd yn Cywydd y Cwiff a Kebaber yn atgoffa dyn o'r trybestod a'r trybini a ddaeth i ran Dafydd ap Gwilym yn ei gywyddau yntau.

    Cariad a serch
    Ond ymhleth yn y cerddi digri, pigog, mae yma hefyd ganu synhwyrus a theimladwy gyda chariad a serch yn cael lle amlwg.

    Hiraethu am gariad coll wna bardd Yn y Pridd tra bo Coelcerth wedi ei seilio ar benderfyniad ingol gwraig i losgi llythyrau ei gŵr fu farw drigain mlynedd yn gynharach yn yr Ail Ryfel Byd.

    Mae cariad at iaith - a'r Gymraeg yn benodol - yn cael sylw dyledus hefyd. Cerddi o obaith yw'r rhain yn y bôn gyda Storm, Darluniau a Cân y Gymraeg yng Ngwent yn arwydd o hyder y to ifanc am well yfory.

    Os oes angen prawf ar ein plant a'n pobl ifainc fod barddoniaeth yn hip a chyfoes dyma'r gyfrol i'w darbwyllo o hynny.

    Wedi'r cyfan, fel yr awgryma Eurig yn Beirdd v Rapwyr, onid parhad o'n traddodiad barddol yw'r arfer o rapio heddiw?

    Er mawr ryddhad ni chefais fy siomi wrth ddarllen y gyfrol.

    Braf yw gweld criw o bobl ifainc yn torri cwys eu hunain ac yn gwthio'r ffiniau.

    O fewn ei chloriau mae yma gerddi fyddai'n gydnaws i'w clywed ar lwyfan eisteddfodol, yn y dafarn neu ar beiriant MP3.

    Er y tynnu coes a'r ffraethineb nid crap o gyfrol mo hon.

  • Gweler Gwales Cliciwch



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewchi'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy