BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
News imageCymru'r Byd
News image
News imageLlais Llên
News imageAdolygiadau
News imageLlyfrau newydd
News imageAdnabod awdur
News imageGwerthu'n dda
News imageSôn amdanyntNews imagePwy di pwy?
News image
News imageY Talwrn
News image
News imageNewyddion
News imageChwaraeon
News imageY Tywydd
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeonadolygiadau a straeon
Y Derwyddon: Dirgelwch yr Ogam
Comic clawr caled i oedolion
  • Adolygiad Anna-Marie Robinson o Y Derwyddon: Dirgelwch yr Ogam, addasiad Cymraeg gan Alun Ceri Jones. Cyhoeddwyr: Dalen. 48 tudalen clawr caled. £9.99. 15+oed.


  • Clawr y llyfr Efallai nad ydw i wedi bod yn chwilio yn ddigon trylwyr - neu heb fod yn chwilio o gwbl - ond dyma'r comic clawr caled cyntaf i oedolion yn y Gymraeg i mi ei weld.

    Mwy na chomic
    Ond mae'n fwy na chomic - mae'n llyfr hanes, sydd wedi ei anelu at ddarllenwyr o 15 oed ymlaen, gan gynnwys oedolion.

    Cyfieithiad yw o'r cyntaf o gyfres iasoer Y Derwyddon a gyhoeddwyd yn 2005 gan Soleil Celtic, on o brif gyhoeddwyr straeon stribed Ffrainc.

    Mae naws dywyll a bygythiol i'r llyfr, sy'n bortread o'r byd Celtaidd ar ddiwedd y cyfnod Rhufeinig ond mae o hefyd yn uniongyrchol berthnasol i hanes a diwylliant Cymru, gyda'r testun Cymraeg wedi ei lunio ar gyfer darllenwyr lled ddeallusol.

    Yn y bumed ganrif
    Mae cyfres Y Derwyddon wedi ei gosod yn y bumed ganrif pan oedd y Brythoniaid yn sefydlu gwladfa newydd yn Llydaw a'r seintiau yn croesi'r moroedd i Brydain a thu hwnt er mwyn lledaenu ffydd yr Eglwys Geltaidd.

    Rhoddodd nifer o'r seintiau hyn eu henwau i sawl llan yng Nghymru ac mae'r gyfrol gyntaf hon, Dirgelwch yr Ogam, yn frith o'r enwau hyn.

    Wrth baratoi'r testun Cymraeg fe ymgynghorwyd ag arbenigwyr mewn Gaeleg, Llydaweg a Chymraeg Cynnar er mwyn sicrhau cywirdeb enwau priod pobol a llefydd sydd hwyrach heddiw yn fwy cyfarwydd mewn Llydaweg, Ffrangeg neu Saesneg.

    Yr Hen ffydd
    Edrycha'r gyfres ar y cyfnod sy'n cael ei alw'n Oesoedd Tywyll - cyfnod pan oedd ein cyndeidiau y Brythoniaid yn teyrnasu dros Ynys Prydain, a'r Saeson yn dechrau taflu eu pwysau o gwmpas ym mharthau dwyreiniol yr Ynys.

    Yr adeg hon, mae'r Eglwys Geltaidd yn gryf trwy diroedd y Brython, ond mae'r Hen Ffydd - oedd yn gweld nerth bywyd yn y coed ac mewn natur - yn cael ei harddel o hyd gan rai o'r Celtiaid.

    Eu harweinwyr ysbrydol oedd y Derwyddon ac un o dderwyddon olaf Llydaw, Gwynlan, yw canolbwynt y gyfres hon.

    Gwrthdaro
    Stori dditectif yw yn y pendraw - rhyw fath o "whodunnit" wedi ei osod yn nwfn yng ngwreiddiau hanes a'r stori'n troi o gwmpas y gwrthdaro rhwng yr hen ffydd a'r newydd pan gaiff nifer o fynachlod eu llofruddio'n fileinig.

    A dydy'r darluniau ddim yn dal yn ôl rhag portreadu pa mor fileinig oedd y cyfnod.

    Y Derwyddon sy'n cael y bai am gyflawni'r erchyllterau, ond mae un abad yn amau'r cyhuddiadau ac yn gwahodd Gwynlan a'i brentis, Taran, i geisio dod o hyd i'r gwirionedd.

    Wrth i'r stori ddatblygu mae na wirioneddau sy'n siglo seiliau'r ffydd yn cael eu datgelu ac yn amlygu'r holltau diwinyddol rhwng Rhufain a'r Eglwys Geltaidd.

    Eithaf trwm
    Testun difrifol, felly, a phwnc eithaf trwm er gwaetha'r genre a hynny'n rheswm arall - yn ogystal â'r darluniau graffig (er bod nifer o bobl ifanc yn gweld gwaeth cyn cyrraedd eu harddegau m'wn) - dros awgrymu mai i ddarllenwyr dros 15 oed mae'r llyfr yn addas.

    Gwyddwn fod y math yma o lyfr stribed yn boblogaidd iawn mewn rhannau o Ewrop - ond anodd dweud a fydd y traddodiad yn cydio yma yng Nghymru.

  • Gweler Gwales Cliciwch

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Llywelyn Fychan - Ysgol yr Ynfydion

  • Y Triawd Amser a Môr Ladron y Caribî


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewchi'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy