 | Llyfrau Plant Nain wahanol, cerddi cyntaf a jôcs! Adolygiadau llyfrau plant gan Anna-Marie Robinson Ble mae e, Jac? gan Rob Lewis Cerddi Cyntaf gan Myrddin ap Dafydd Jocs Gwirion Gwyn a Dai - gan Gwyn Morgan a Dai Owen
Ble mae e, Jac? gan Rob Lewis (addasiad Elin Meek) Gwasg Gomer. £4.99. Er bod y stori hon yn defnyddio hen gynhwysion - nain a'r blaidd - mae'n eu cymysgu yn risêt wreiddiol sy'n haeddu bod yn brif gwrs unrhyw sesiwn stori cyn gwely gyda'r plantos.
Nain ydy'r prif gymeriad ac er ei bod ar yr olwg gyntaf yn gymeriad ystrydebol sy'n gwau - yn gwau cymaint nes ei bod angen peiriant gwau - mae'n ddynes ddewr, sydd ddim ofn mynd ar gefn ei beic i ddilyn blaidd sydd wedi dwyn ei pheiriant!
Mae'n dal y blaidd - a'i ganfod yn byw ar ei ben ei hun ar ben mynydd yng nghanol Cymru - ef yw'r Blaidd Olaf yng Nghymru.
Benthyg y peiriant oedd y blaidd ar gyfer gwau siwmper iddo'i hun - mae am feistroli'r grefft ar ôl dysgu nifer o sgiliau eraill fel darllen a ieithoedd.
Mae'n ddiflas am ei fod yn byw ar ben ei hun ond mae nain yn tosturio drosto a'i ddarbwyllo fod ganddo yrfa fel cyflwynydd teledu gan fod bleiddiaid mor brin erbyn hyn!
A phan fo'r blaidd wedi gwneud ei arian, mae'n prynu'r tŷ drws nesa i nain yn Abergwaun - ac mae hithau yn gwau siwmper iddo!
Stori fach wreiddiol, annwyl, eithaf hawdd i'w deall ac ar ffurf penillion sy'n odli - er nad wy'n siŵr sut y cafodd y blaidd ei raglen deledu ei hun! - ac mae yma luniau penigamp i gydfynd a'r penillion.
Cerddi Cyntaf gan Myrddin ap Dafydd. Gwasg Carreg Gwalch. £6.95.
Ar yr olwg gyntaf, mae hwn hefyd yn debyg i'r llyfrau traddodiadol fu o gwmpas ers rhai blynyddoedd; ond porwch ynddo - does dim rhaid mynd yn bell - ac mae yna drysorau newydd i'w darganfod.
Roeddem wrth ein boddau gyda'r llyfr yma, ac yn wahanol iawn i'r llyfr Jôcs, isod, bu'n rhaid i mam a dad ei ddarllen i gyd yr un noson, gymaint oedd y mwynhad.
Cerddi syml, cerddi digri, cerddi byrion a rhai hir - i gyd yn wreiddiol ac yn hawdd iawn i'w darllen a'u llefaru.
Yn addas i blant o tua thair oed i fyny.
Mae na hiwmor arbennig yn perthyn i nifer ohonyn nhw sydd yn trosglwyddo yn arbennig o dda i blant ac yr oedd ein dau ni, sy'n bedair a chwech oed, yn ysu clywed mwy - ond roedd hi wedi hen basio amser gwely erbyn hynny.
Un o'r ffefrynnau oedd Hwiangerddi newydd - sydd yn ail bobiad o ddau hen bennill:
Gee Ceffyl Bach yn cario'r Jac Do,
A ddaeth i lawr o ben y to,
Aeth Gee Ceffyl Bach dros y gamfa wen: Syrthiodd Jac Do a thorri'i goes bren.
Mae'n llyfr gwerth ei brynu hefyd am y lluniau arbennig sydd ar bob tudalen. Safonol iawn. Braf ei weld.
Jocs Gwirion Gwyn a Dai - gan Gwyn Morgan a Dai Owen. Lluniau gan Dai Owen. Gwasg Carreg Gwalch. £4.95.
Hwn ydy'r llyfr Jôcs cyntaf inni ei gael fel teulu a doedd dim byd yn plesio'n well na gweld y tudalennau cyntaf yn llawn o jôcs Cnoc Cnoc gan ein bod wedi hen flino ar y ddwy roedden ni yn eu cofio - Dr a Gwdi - a dydy Dr Pwy a Gwdi Pwy ddim cweit yn gweithio yn y Gymraeg beth bynnag!
Cychwyn da ond er bod yna ragor o Gnoc Cnocs yn y llyfr fe gollo ni ddiddordeb ar ôl ychydig o dudalennau.
Dyna'r peth gyda llyfr fel yma - dydi o ddim yn un i dreulio gyda'r nos ynddo.
Ar ben hynny, mae nifer o'r jôcs yn fersiynau Cymreig ar hen, hen, jôcs eraill 'da ni wedi'u hen anghofio unwaith inni fynd dros y 10 oed.
Wedi dweud hynny, roeddem yn hoffi hon: Be ydy enw'r lleidr sydd yn dwyn sbeisus? Twm Sion Balti!
Llyfr iawn i droi ato o dro i dro a cheisio cofio'r jôc ar gyfer yr ysgol y diwrnod wedyn.
Yn addas fuaswn i'n dweud i blant dros chwech oed.
Cysylltiadau Perthnasol Llyfrau Nadoligaidd i blant
 |
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|  |
|  | |  | |  | |  | |  |  |  | Sôn amdanynt Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
|  |  |
|  | |  |  |  | Gair am air: Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|  |  |
|
|