BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
News imageCymru'r Byd
News image
News imageLlais Llên
News imageAdolygiadau
News imageLlyfrau newydd
News imageAdnabod awdur
News imageGwerthu'n dda
News imageSôn amdanyntNews imagePwy di pwy?
News image
News imageY Talwrn
News image
News imageNewyddion
News imageChwaraeon
News imageY Tywydd
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeonadolygiadau a straeon
Rhywun yn Rhywle
Cyffro a ffantasi cerddi plant
  • Adolygiad Lowri Rees o Rhywun yn Rhywle gan Tudur Dylan Jones. Gwasg Gomer. £4.99.


  • "Sgwennwch am y pethau rydych yn gyfarwydd â nhw. Sgwennwch am y pethau rydych chi'n eu gweld bob dydd ac am eich profiadau chi. Rhowch eich calon yn y gwaith."

    Dyma gyngor awdur y gyfrol o gerddi. Rhywun yn Rhywle, y Prifardd Tudur Dylan Jones, wrth iddo geisio annog blant i greu cerddi.

    Dywed cyn Fardd Plant Cymru ac enillydd Cadir yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith iddo ef gael ei syniadau i ysgrifennu cerddi i blant o fywyd pob dydd:

    Clawr y llyfr "Mae rhai pethau mae pobol yn ei ddweud yn aml yn taro ar syniad yn fy mhen. Weithiau bydda i'n clywed dim ond gair ac mae hynny'n gwneud i'r meddwl ddechrau troi."

    Gwefr a mwynhad
    Mae'n cydnabod iddo gael gwefr a mwynhad yn ysgrifennu'r gyfrol Rhywun yn Rhywle ac yn y rhagair mae'n annog darllenwyr i fod yn greadigol gan eu gwahodd i dynnu lluniau neu ymuno ym myd hwyliog y cerddi.

    Yn bendant mae'n gasgliad gwych a fydd yn sbardun i blant i chwarae â geiriau ac arbrofi â barddoni.

    Ar dudalen pump mae pennill sy'n caniatáu i blant ddyfalu a llenwi'r bylchau adawyd gan yr awdur a hynny'n sicr yn fodd i roi hyder iddynt.

    Gan nad yw Tudur Dylan, yn ôl ei gyfaddefiad ei hun, yn arbenigwr ar wneud lluniau cafwyd yr arlunwraig Hannah Matthews i greu lluniau atyniadol ar gyfer pob dalen.

    "Dydw i ddim yn gallu tynnu lluniau, ond dwi'n lwcus fod arlunydd wedi mynd ati i wneud cerddi yma'n hardd i'r llygad," meddai Tudur Dulan.

    "Gallwch chi fynd at i dynnu lluniau eich hunain i fynd efo'ch cerddi chi."

    Hawdd cofio
    Mae'r cerddi yn fyr, yn fachog ac yn rhai hawdd i'w cofio.

    Mae elfen gref o ffantasi yn perthyn i lawer o'r cerddi gan eu gwneud yn gyffrous ac yn apelgar i blant.

    Gall plant, hefyd, uniaethu gyda'r hiwmor syml mewn cerddi fel Tan Gwyllt.

    Dwi'n teimlo i Tudur Dylan gael hwyl hefyd ar y gerdd Jac y Do lle mae'n rhoi tro newydd i hen hwiangerdd.

    Mae'r gyfrol yn gyfle hefyd i oedolyn ddianc unwaith eto i fyd plentyn.

    Casgliad cyffrous, felly, o gerddi sydd yn llawn direidi a chyffro, sydd a'u rhythmau a'u hodlau'n tasgu oddi ar y tudalennau gan greu byd arbennig y dychymyg sydd yn llawn direidi a chyffro.
  • Gweler Gwales Cliciwch



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewchi'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy