BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
News imageCymru'r Byd
News image
News imageLlais Llên
News imageAdolygiadau
News imageLlyfrau newydd
News imageAdnabod awdur
News imageGwerthu'n dda
News imageSôn amdanyntNews imagePwy di pwy?
News image
News imageY Talwrn
News image
News imageNewyddion
News imageChwaraeon
News imageY Tywydd
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeonadolygiadau a straeon
Hi Oedd Fy Ffrind - lawnsio
Ffrindiau coleg yn ymuno i lawnsio nofel
Ers i'r nofel Hi yw fy Ffrind gyrraedd rhestr Llyfr y Flwyddyn 2005 bu disgwyl eiddgar am y dilyniant a addawodd yr awdur iddi.

Nos Iau, Medi 28, lawnsiwyd y dilyniant hwnnw yng nghwmni'r awdur, Bethan Gwanas, yn Y Sosban yn Nolgellau.

Yn un hwyr o ran natur ac wedi camddarllen y gwahoddiad, roeddwn chwarter awr yn hwyr yn cyrraedd.

Dathlu'r cyhoeddi Ond diolch byth roedd hi mor brysur yno na sylwodd neb gyda Wedi 7 yn ffilmio a gohebwyr ar draws ei gilydd yn holi ac yn manteisio ar eu cyfle i gael llyfr wedi ei lofnodi gan un o'n hawduron mwyaf poblogaidd.

Croesawyd pawb i'r digwyddiad gan Alun Jones, golygydd y Lolfa a'r gŵr fu'n llywio'r llyfr drwy'r wasg.

Canmolodd ef fenter Bethan yn llunio dilyniant o gofio nad ydynt bob amser gystal â'r llyfr cyntaf.

Y gwrthwyneb, meddai, oedd yn wir y tro hwn!

'Nofel sy'n gafael'
"Yn Hi yw fy Ffrind roedd y darllenwyr yn gweld popeth drwy lygaid Non, y ferch hyfryd oedd yn addoli ei ffrind, ond y tro yma mae'r darllenwyr yn gweld popeth drwy lygaid Nia, merch sydd ychydig yn wahanol," meddai Alun Jones.

"Mae hi'n nofel sydd yn gafael, nofel sydd â themâu cyfoes a nofel sydd yn anodd iawn gollwng gafael arni. Allwch chi ddim rhoi gwell teyrnged na hynny," ychwanegodd.

Dywedodd Bethan Gwanas ei bod yn ffodus iddi gadw dyddiadur yn y coleg ac iddi gyfeirio yn ôl ato yn aml wrth ysgrifennu'r nofel.

Bywyd coleg dwy ffrind yw canolbwynt y nofel newydd, gyda'r rhan fwyaf o'r digwyddiadau yn Aberystwyth a Neuadd Pantycelyn.

Cyfaddefodd Bethan yn y lansiad i lawer o'r deunydd yn y nofel gael ei seilio ar ei phrofiadau hi a'i ffrindiau yno yng nghanol yr Wythdegau:
Arwyddo copiau "Cefais lot o help gan fy ffrindiau ac o fy nyddiaduron coleg ar gyfer y nofel ac mae llawer o'r digwyddiadau wedi eu seilio ar ddigwyddiadau go iawn; ond dwi heb seilio Nia - y prif gymeriad - ar unrhyw berson yn benodol," meddai.

'Nid fi fy hun'
"Dwi ddim yn sgwennu amdanaf fy hun gan mai fy mwriad yw ysgrifennu hunangofiant yn y dyfodol ond dwi wedi defnyddio fy nyddiaduron er mwyn gwybodaeth; fel pa grwpiau yr oeddem yn eu dilyn, pa gylchgronau oedd yn cael eu darllen a phethau tebyg. Keep a diary and one day it will keep you," meddai gan chwerthin.

Yn y lawnsiad ym mwyty'r Sosban yn Nolgellau yr oedd criw o ffrindiau coleg Bethan yn mwynhau'r gwin, y gwmnïaeth a'r darlleniadau, ac un o'r ffrindiau hynny a astudiodd yn Aberystwyth fu'n darllen pytiau o'r nofel ar y noson, yr actores Rhian Cadwaladr.

Cyhoeddir Hi Oedd Fy Ffrind gan Y Lolfa, pris £7.95.

Cysylltiadau Perthnasol
  • Adolygiad o'r nofel


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewchi'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy