BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
News imageCymru'r Byd
News image
News imageLlais Llên
News imageAdolygiadau
News imageLlyfrau newydd
News imageAdnabod awdur
News imageGwerthu'n dda
News imageSôn amdanyntNews imagePwy di pwy?
News image
News imageY Talwrn
News image
News imageNewyddion
News imageChwaraeon
News imageY Tywydd
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeonadolygiadau a straeon
Ffordd y Pererinion
'Celfyddyd nad yw'n dyddio . . .'
  • Adolygiad Cyril Jones o Ffordd y Pererinion gan James Nicholas. Gwasg Gomer. £8.50.


  • Y gyfrol Olwynion oedd fy nghyflwyniad cyntaf i waith y bardd o Dyddewi.
    Ond y gerdd a'i gwnaeth yn enwog fel bardd cynganeddol oedd ei awdl Yr Alwad a enillodd y gadair iddo yn Eisteddfod Genedlaethol y Fflint yn 1969.

    Clawr y llyfrGan nad yw James Nicholas wedi cyhoeddi cyfrol o gerddi ers ennill y gadair honno, roedd darllen yr awdl ar ôl cynifer o flynyddoedd yn y gyfrol hon yn brofiad a oedd yn ddiddorol ar sawl cyfrif, ac yn tanlinellu rhai pwyntiau sy'n ei nodweddu fel bardd.

    Heb ddyddio
    Pe baech chi'n darllen y rhan fwyaf o awdlau'r Eisteddfod Genedlaethol a ysgrifennwyd dros chwarter canrif yn ôl, fe fyddai yn eich taro ar unwaith eu bod wedi dyddio.

    Mae'r Alwad yn eithriad ac mae nifer o resymau am hyn fel y ceisiaf nodi wrth drafod ei waith.

    Fel celfyddyd y cerflunydd Henry Moore, sy'n sail iddi, mae hi'n awdl hynod ddarllenadwy a'r modd y mae'r bardd wedi cyfuno geiriau elfennol a dealladwy mewn cynghanedd sy'n ymddangosiadol syml sy'n dal i roi'r un pleser i'r darllenydd heddiw wrth ei hailddarllen.

    A 'dyw darllen gwaith J.N ddim yn ddigon, yn anad yr un bardd arall mae'n rhaid ei adrodd yn uchel.

    Llinellau gwfreiddiol - ond syml - fel 'y mae yno fel mynydd'/'Mae anadl yn y meini'/'Cerfio llun crefu llonydd -y wraig hon,
    A'i hymylon fel brig y moelydd.'

    'Dyw gwir gelfyddyd, pa gyfrwng bynnag a ddefnyddir, boed hwnnw'n air neu garreg, ddim yn dyddio.

    Y gerdd a rydd deitl i'r gyfrol yw'r englynion agoriadol gwych Ffordd y Pererinion a ysgrifennwyd yn 2002 - ac maen nhw'n profi nad yw'r bardd wedi colli'i ddawn fel un o'n tri neu bedwar bardd cynganeddol gorau a feddwn yng Nghymru.

    Mae gofynion caeth y gynghanedd yn tueddu i ladd y 'llais' a ddylai nodweddu pob bardd gwerth ei halen.

    Dim ond y goreuon a lwyddodd i fynegi'r 'llais' hwn fel ei bod yn bosib i ni eu hadnabod yn syth ar ôl cychwyn darllen eu gwaith.

    Daw beirdd fel Dic Jones a Twm Morys i'r cof ar unwaith yn y cyswllt hwn ac mae Jâms Nicholas yn perthyn i'r un cwmni dethol yn fy marn i.

    Mae'r englynion hyn yn enghraifft o 'lais' y bardd hwn ar ei orau.

    Yr unoliaeth o safbwynt themâu i ddechrau. Pa fardd cyfoes arall a allai arddangos yr un adnabyddiaeth drylwyr o hen lwybr y pererinion yn Sir Benfro a'r llefydd sydd ar hyd-ddo?

    'Haulfan yw llawer cilfach -yn agor
    Rhwng Niwgwl a Solfach;
    Y glannau heb eu glanach,
    Bröydd byw aberoedd bach.'

    A pha fardd cyfoes arall a allai ganu mor ddidwyll am arwyddocâd Cristnogol y llwybr hwn? Wele englyn arall o'r gyfres i brofi hynny:

    'Mae rhyw gryndod yn codi - o'r galon
    Awr gweled Tyddewi;
    A rhoddaf air o weddi
    Nawr i Dduw o'i chyrraedd hi.'

    Cynildeb Waldoaidd
    Mae rhyw ddidwylledd a chynildeb Waldoaidd yn perthyn i'w waith ac oherwydd hynny mae'n argyhoeddi bob tro. Efallai mai dyma fantais bardd nad yw'n ysgrifennu a chyhoeddi gormod.

    Mae 'na bethau ychwanegol yn cyfrannu at 'lais' bardd wrth gwrs.

    Cyfeiriais at symlder ei linellau eisoes. Ond ceir elfen arall a berthyn i'r symlder hwn; ni chollodd ei gynildeb clasurol. Mae'r gerdd benrydd gynganeddol isod y arddangos hyn hefyd. Ac mae'n ddigon byr i'w chynnwys i gyd:

    Y GAIR A'R GERDD
    Y gair y gerdd
    Anadl y gair hoedl y gerdd
    Had y gair bywyd y gerdd
    Gwraidd y gair a greodd y gerdd
    Gwraidd y gair yw'r gerdd i gyd.
    O safbwynt ei chynildeb mae'r gerdd hon fel englyn penrhydd. Ac yn tanlinellu hefyd un o'r themâu eraill sy'n llinyn yn ei waith - sef y weithred o greu.

    Cristnogol
    Ceir llawer o gywyddau ac englynion i bobl ynddi, ac mae'r rhan fwyaf ohonynt yn gysylltiedig â chrefydd mewn rhyw fodd neu'i gilydd.

    Gresyn na ddatblygodd Jâms Nicholas y themâu cynnar y cyfeiriwyd atynt yn fwy trwyadl. Dyna'i gryfder fel bardd a dydw i ddim yn teimlo bod yr holl gerddi teyrnged a geir yn y gyfrol, er eu bod yn ddidwyll iawn, wedi ymestyn a dyfnhau'i weledigaeth fel bardd cynganeddol, Cristnogol.

    Gwyddom, wrth gwrs, am ei ymroddiad ymarferol mewn sawl cyfeiriad eisteddfodol a chrefyddol arall yn ystod ei fywyd.

    Gwahanol i'r lleill
    Un gerdd deyrnged sy'n wahanol i'r gweddill yw'r gerdd i'r cymeriad lliwgar arall hwnnw o Sir Benfro, T. E Nicholas.

    Ysgrifennwyd hon ar ffurf penillion odledig digynghanedd ac mae'n fwy Gwenalltaidd ei naws. Dyma'r pennill agoriadol:

    'Aderyn dieithr a fuost ti yng Nghymru'r ugeinfed ganrif,
    Canrif cenedlaetholdeb ein cenhedlaeth ni:
    Sosialydd, Comiwnydd, gwerinwr o Gymro, Cristion,
    Anodd rhoi un label arnat ti.'

    Ni chyfeiriais at y cyfieithiadau na'r emynau, yr englynion unigol gwych na'r cerddi mwy gweddigar eu byrdwn, ond profiad gwirioneddol bleserus oedd dychwelyd at waith J.N yn y gyfrol hon y mae delweddau hyfryd ei chlawr o waith Sarah Young yn gweddu i'r dim i'r gyfrol a'i chynnwys.
  • Gweler Gwales Cliciwch


  • Llyfrau - gwefan newydd
    Ewchi'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy