 | Siwrne Lawn Cerddi mab y crydd - ac atgofion ffraeth a difyr Adolygiad o Siwrne Lawn - Straeon a Cherddi Gwilym Herber. Golygydd: Euros Jones Evans. Carreg Gwalch. £6.95.
Go brin y byddai dau Brifardd Eisteddfod 2006 yn gwarafun i rywun ddweud mai prif fardd Prifwyl 2006 oedd Gwilym Herber Williams o Graig-cefn-parc.
Yn sicr, ef oedd gwir fardd lleol y Eisteddfod hon yn byw o fewn tafliad carreg i'r maes yn Felindre ac yn 87 oed yn cyhoeddi ei lyfr cyntaf - casgliad o gerddi ac atgofion - i gyd-fynd ag ymweliad y Brifwyl a'i fro.
Yn gyn löwr a adawodd yr ysgol yn 14 oed meistrolodd Gwilym Herber y gynghanedd gan ddod yn englynwr y mae cryn barch iddo.
"Wrth ddarllen ei gerddi fe welwch mai englynwr penigamp yw Gwilym, ond mae yr un mor gartrefol wrth greu ar fesurau caeth eraill megis y cywydd a'r hir-a-thoddaid," meddai Euros Jones Evans wrth gyflwyno'r gyfrol.
Nodwedd bwysig arall yw ei fod, oherwydd ei fagwraeth, yn fardd sydd "yn pontio'r byd amaethyddol a'r byd diwydiannol".
"Fe ddyrchafodd wŷr a gwragedd ei ardal; rhoes fri ar eu llwyddiannau. Yr wyf yn sicr y bydd teuluoedd y rhain yn gwerthfawrogi yr hyn a wnaeth ar gynghanedd ac mewn penillion rhydd," meddai Euros Jones Evans.
Bydd ei enw yn gyfarwydd eisoes i'r rhai hynny sy'n dilyn y Talwrn yn aelod o dîm Morgannwg.
Teulu darllengar Fel y dengys ei dusw o atgofion mewn rhyddiaith ar gychwyn y gyfrol ni ddylai neb synnu i'r crwt a adawodd ysgol yn 14 oed ragori mewn barddoniaeth. Roedd ei fagwraeth, os rhywbeth, yn mynnu hynny.
"Yr wyf yn ffodus fy mod wedi perthyn i deulu darllengar erioed oherwydd ar yr aelwyd gartref yr oedd digonedd o lyfrau gwybodaeth, nofelau a llyfrau barddoniaeth.
"Dysgais delynegion ac englynion yn ifanc a thrwy hynny treiddiodd y diddordeb mewn barddoni i'r gwaed. Bu'r Beibl Mawr, sef Beibl Peter Williams, yn ddylanwad mawr arnaf," meddai.
Un o'i ewyrthod oedd Crwys - prifardd, archdderwydd ac awdur telynegion adnabyddus fel Melin Trefin, Dysgub y Dail a'r Border Bach - a'r border hwnnw, gyda llaw, ger yr union dŷ lle magwyd Gwilym Herber.
Ond doedd hyd yn oed Crwys ddim yn adnabyddus i bawb fel y dengys hanesyn yn y llyfr:
"Ceir stori amdano wedyn wedi'i daro'n wael. Cludwyd ef i ward yn Ysbyty Mount Pleasant, Abertawe. Dyma un o'r cleifion yn ei adnabod. Troes hwnnw at glaf arall a dweud:
'Ti'n nabod hwnna?'
'Nagw.'
'Crwys yw hwnna. Ma fe wedi ennill y National dair gwaith.'
'Beth oedd enw'i geffyl e' te?'"
Mab y crydd Mab i dyddynwr a chrydd yw Gwilym Herber ac yn cofio'r "siop waith" oedd yn un â'r tŷ fel canolfan pentref Craig-cefn-parc.
"Crydd oedd fy nhad, Noah, a chrydd oedd ei dad yntau, John Crydd neu John Bore Fory fel y'i gelwid . . .am nad oedd yr esgidiau y byddai trigolion y dod i'w nôl bron byth yn barod. Ei ymateb serchus yn ddieithriad fyddai, 'Byddan nhw'n barod bore fory'."
Fel Crwys ei hun, bu Gwilym Herber, yntau, yn brentis crydd ond mae'n cyfaddef nad etifeddodd ddoniau ei gyndadau yn y cyfeiriad hwnnw ac wedi dim ond blwyddyn yr oedd wedi cefnu ar grydda ac yn brentis peiriannydd yng ngwaith glo yr Hendy, yn ennill 17s6c yr wythnos.
"Rhoddwn y cyfan i'm mam a byddai hithau wedyn yn rhoi hanner coron yn ôl i mi," meddai.
Cymdeithas ddiwylliedig Dro ar ôl tro yn y gyfrol mae rhywun yn cael ei atgoffa o'r gymdeithas ddiwylliedig Gymraeg - "Cymdeithas uniaith Gymraeg ydoedd y gymdeithas hon hyd at y chwedegau. Ychydig iawn o Saesneg oedd gan fy rhieni a'u cenhedlaeth" - ac elwodd Gwilym Herber yn fawr o gymysgu a gwerinwyr a phregethwyr llengar.
". . . pan alwai'r gweinidog neu ŵr llengar ar dro [heibio siop y crydd], cawn aros yno a gwrando arnynt yn ymddiddan. Gallaf erbyn hyn gofio llawer o straeon a dywediadau gwych a gafodd eu hargraffu'n ddwfn ar fy meddwl. Diau iddynt yn y pen draw blannu'r awydd ynof i ysgrifennu," meddai.
I'r cwrcyn Mae'n cofio Alfa Richards awdur yr emyn Rwy'n canu fel cana'r aderyn - ac awdur hefyd englyn coffa i gwrcyn gŵr o'r enw John y Telynor:
Wyla gwlad uwch niwl y glyn - ac wyla
Calon crwth a thelyn;
Mae colofn falch o galch gwyn
Yn carco bedd y cwrcyn.
Pytiau o atgofion a straeon difyr fel hyn yw rhan gyntaf y gyfrol gyda'r ail ran wedi ei neilltuo ar gyfer detholiad o dros gant a chwarter o gerddi yn delynegion, cywyddau englynion ac yn y blaen gan gynnwys yr englyn Y Cam Nesaf a enillodd iddo wobr yn Eisteddfod y Glowyr.
"Bu fy ngwraig annwyl, Lenna, yn dioddef o salwch am flynyddoedd ac fe'i galwyd i'w hir gartref flwyddyn yn ôl. Eto, er ei dioddefaint yr oedd y cwlwm cariad yn parhau trwy'r cyfan ac yn rhoi nerth i fynd ymlaen," eglura: Y mae'n nosi a'r cam nesaf - yw troi At yr un a garaf;
Er yn welw'r anwylaf
Haedda'r hawl pa ffordd yr af.
Hon meddai, ydoedd y wobr a roddodd iddo'r wefr fwyaf.
Cyfrol sy'n gymysgedd ddifyr o'r hiraethus, y dwys, y ffraeth a'r doniol ac yn cynnwys nifer o luniau o'r bardd a'r ardal yn y canol. Ac, wrth gwrs, mae yna eglurhad o'r teitl, Siwene Lawn - nid y bydd ei angen ar y rhai hynny sy'n sy'n gyfarwydd a'r meysydd glo. Glyn Evans Gweler Gwales CliciwchCysylltiadau Perthnasol Eisteddfod Abertawe 2006  Abertawe - Lleol i Mi 
 |
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|  |
|  | |  | |  | |  | |  |  |  | Sôn amdanynt Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
|  |  |
|  | |  |  |  | Gair am air: Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|  |  |
|
|