|  |
 |  |  |  |  | |  | Ble Wyt Ti Rhwng? Sbarduno atgofion ond anodd ei ddarllen Adolygiad Angharad Dubheasa o Ble Wyt Ti Rhwng? gan Hefin Wyn.
Refferendwm 1979 a sefydlu S4C yw man cychwyn y gyfrol yma gan Hefin Wyn sy'n croniclo hanes canu poblogaidd Cymraeg, ac sy'n ddilyniant i'w gyfrol ar hanes y 60au a'r 70au, Be Bop a Lula'r Delyn Aur.
Fel newyddiadurwr sydd yn ymddiddori'n y sîn roc a phop yng Nghymru, mae Hefin Wyn yn un delfrydol i fynd i'r afael â'r pwnc ac, yn wir, yn ystod cyfnod ei gyfrol gyntaf, sef y Chwedegau a'r Saithdegau, roedd yn ohebydd adloniant gyda phapur newydd Y Cymro.
Cymeriadau lliwgar Mae stori canu poblogaidd Cymraeg o 1980 i 2000 yn cael ei dweud drwy gyfres o erthyglau, cyfweliadau ac adolygiadau o wahanol ffynonellau - o Golwg i Sgrech, yn ogystal â rhai Saesneg fel yr NME a Mojo.
Daw rhai o gymeriadau mwyaf lliwgar y cyfnod yn fyw drwy eu geiriau ei hunain mewn dyfyniadau rhwng geiriau Hefin.
Daw naws yr Wythdegau o obaith a mentro i'r amlwg drwy rai o fandiau mwyaf arloesol y cyfnod, fel Yr Anrhefn, Datblygu a Llwybyr Llaethog drwodd i 'Cŵl Cymru' y Nawdegau a rhai o fandiau mwyaf poblogaidd heddiw.
Sawl cwestiwn Mae yna gefndir gwleidyddol i'r llyfr a cheir digon o sôn am y frwydr dragwyddol rhwng y Saesneg a'r Gymraeg.
Serch hynny, roedd gen i sawl cwestiwn yn dal heb eu hateb wedi cyrraedd y dudalen olaf, gan nad oedd barn yr awdur yn rhy glir.
Ddim yn hawdd Yn glamp o lyfr dydi hwn ddim yn un hawdd i'w ddarllen a buaswn yn argymell y rhai hynny sy'n mynd i'r afael â'r dasg i feddu ar ddiddordeb, gwybodaeth a dileit yn y cyfrwng yn barod.
Gall y llyfr ddarllen fwy fel traethawd ar adegau gan ei wneud yn un anodd i'w ddilyn ac yn anos i gynnal diddordeb.
Mae'r amrywiaeth o ffynonellau i'w chymeradwyo ond ar brydiau mae'n tueddu iddo fod yn llyfr 'swnllyd' iawn gyda'r holl leisiau gwahanol.
Serch hynny, mae'n llyfr pwysig o ran adrodd hanes y sîn Gymraeg cyn i bethau fynd yn angof.
Sbarduno atgofion Er bod yna ambell i gamgymeriad ffeithiol, credaf, o ystyried y doreth o wybodaeth a gyflwynir, y gellir maddau hynny i'r awdur.
Mae ceisio rhoi ugain mlynedd o hanes mewn un llyfr yn her fawr ac er na chredaf fod y gyfrol hon mor llwyddiannus yn ei bwriad ag oedd Be Bop a Lula'r Delyn Aur mae'r awdur yn deffro llawer o atgofion melys am ddigwyddiadau'r byd cerddorol yn ystod y cyfnod pwysig hwn yn hanes roc a phop Cymru.
Gweler Gwales Cliciwch
|  | |  | |  | |  | |  |  |  | Sôn amdanynt Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
|  |  |
|  | |  |  |  | Gair am air: Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|  |  |
|
|
|