BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
News imageCymru'r Byd
News image
News imageLlais Llên
News imageAdolygiadau
News imageLlyfrau newydd
News imageAdnabod awdur
News imageGwerthu'n dda
News imageSôn amdanyntNews imagePwy di pwy?
News image
News imageY Talwrn
News image
News imageNewyddion
News imageChwaraeon
News imageY Tywydd
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeonadolygiadau a straeon
Y Trwbadŵr Dennis O'Neill
Hanes cerddor gan gyfaill
  • Gwybodaeth am Y Trwbadŵr Dennis O'Neill gan Frank Lincoln. Gomer. £8.99.


  • Heb fod nepell o faes yr Eisteddfod Genedlaethol eleni mae pentref Pontarddulais sy'n enwog am ei ddoniau cerddorol.

    Clawr y llyfr Yn gartref i gorau meibion a merched, côr cymysg a seindorf mae'r Bont hefyd yn gartref i'r tenor Dennis O'Neill, sy'n cael ei bortreadu mewn cyfrol newydd gan gyfaill da iddo, y darlledwr a'r actor Frank Lincoln.

    Yn Y Trwbadŵr Dennis O'Neill, a gyhoeddir gan Wasg Gomer cyflwynir portread personol o ffrind sydd hefyd yn un o gantorion gorau'r byd.

    Bydd y llyfr yn cael ei lansio ym mhabell Cyngor Llyfrau Cymru ar faes yr Eisteddfod ddydd Mercher, Awst 9 am 2.30.

    meddyg o Iwerddon
    Mae'r gyfrol yn frith o straeon difyr a ffraeth am Dennis a'i deulu fel y stori ryfeddol sut y bu i deulu'r O'Neills ymsefydlu ym Mhontarddulais o gwb - stori sy'n pwysleisio, yn ôl Frank, pa mor bwysig fu Ffawd yn hanes Dennis.

    O Iwerddon yr hanai William - neu 'Doc' - O'Neill, tad Dennis, ond roedd brawd iddo wedi dod yn athro yn ardal Llanelli ac wedi darbwyllo'i frawd bod honno'n ardal ddelfrydol i fyw ynddi - cymaint felly nes i'r meddyg o Corc benderfynu dod ar hap i chwilio am ei frawd.

    Ond yn wir pan gyrhaeddodd Doc yr ysgol lle gweithiai ei frawd, doedd dim croeso iddo, a'i frawd wedi ymadael am Lundain heb adael cyfeiriad.

    Ffawd a'i harweiniodd i Bontarddulais a chafodd groeso yno yng Nghlwb y Gweithwyr a darganfod, yn ffodus, bod angen meddyg ar y pentre!

    O fewn dim roedd wedi cael gwraig o blith merched y Bont, ac fe aeth Eva ac yntau i gael llond tŷ o blant, a cherddoriaeth yn amlwg yn eu gwaed.

    Tynnwr coes
    Erbyn hyn, wrth gwrs, mae llais tenor Dennis O'Neill yn adnabyddus ledled y byd ac wedi perfformio mewn operâu ar lwyfannau enwog fel La Scala a'r Met yn Efrog Newydd.

    Ond yn ôl y cyhoeddwyr, yr hyn sy'n pefrio drwy'r gyfrol hon yw cymeriad penderfynol, hynod o alluog sydd hefyd yn dynnwr coes heb ei ail.

    "Un sy'n meddu ar synnwyr digrifwch penigamp ond un sy'n hollol broffesiynol yn ei ddewis faes," meddir.

    "Er cyrraedd yr uchelfannau mae'r bachgen o Bontarddulais yn dal yn driw i'w wreiddiau ac er ei fod yn gyfaill i sêr canu'r byd - fel y tystia rhai o luniau'r gyfrol - y mae'n dal wrth ei fodd yng nghwmni ei Fodryb Marion annwyl, sy'n dal i fyw ar y Fforest, ger Pontarddulais," ychwanegir.

    Academi llais
    Bellach mae pennod newydd yn agor ym mywyd Dennis O'Neill, wrth iddo ddechrau ar waith newydd yn gyfarwyddwr Academi Ryngwladol y Llais yng Nghaerdydd - cynllun ar y cyd â Phrifysgol Caerdydd gyda'r nod o roi hyfforddiant dwys i gantorion o bob rhan o'r byd sydd eisoes wedi dangos addewid mawr.

    Bu Dennis O'Neill yn ymddiddori yng ngyrfaoedd cantorion ifanc o Gymru ers tro, a dyma oedd gan un o'r sêr sy'n codi, Leah-Marian Jones, i ddweud amdano:

    "Mae'n beth mawr i mi gael canu gyda Dennis O'Neill, achos mae e'n enwog dros y byd i gyd, a dwi ddim yn meddwl ein bod ni fel cenedl yn deall pa mor enwog yw e mewn gwirionedd."

    A chan mai Il Travatore (Y Trwbadŵr) gan Verdi yw un o hoff operâu Dennis fu hi ddim yn anodd meddwl am deitl i'r gyfrol hon amdano ac yntau ei hun yn 'drwbadŵr' cyfoes yn canu a difyrru cynulleidfaoedd ledled y byd!



    cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewchi'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy