BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
News imageCymru'r Byd
News image
News imageLlais Llên
News imageAdolygiadau
News imageLlyfrau newydd
News imageAdnabod awdur
News imageGwerthu'n dda
News imageSôn amdanyntNews imagePwy di pwy?
News image
News imageY Talwrn
News image
News imageNewyddion
News imageChwaraeon
News imageY Tywydd
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeonadolygiadau a straeon
A Fu Heddwch?
Robyn Léwis ar gefn ei geffyl - ond sut geffyl?
  • Adolygiad Gwilym Owen o A Fu Heddwch? gan Robyn Léwis. Y Lolfa. £9.95.


  • I mi, mae'r Dr Robyn Léwis ar ei orau pan yw ar gefn ei geffyl ac yn deud ei ddeud heb flewyn ar ei dafod - brifed a frifo.

    Clawr y llyfr A phan glywais ei fod yn y broses o ysgrifennu hanes Gorsedd Beirdd Ynys Prydain - ac o gofio am rai penodau yn hanes yr awdur a'r corff hwnnw - roeddwn i'n edrych ymlaen at gyfrol yn llawn tân a brwmstan.

    Ond mae'n amlwg, wedi darllen ei gynnyrch, fy mod wedi disgwyl gormod - ac efallai mai arnaf i mae'r bai fy mod i'n teimlo braidd yn siomedig.

    Nid dweud fod hon yn gyfrol wael a diwerth yr ydw i - dim o gwbl.

    Fel y buasech chi'n disgwyl mae ynddi swmp o wybodaeth am y cyfnod y bu'r Orsedd yn paredio yn eu cobannau ar feysydd a rhwng meini o Fôn i Fynwy.

    Ond y drwg ydi nad oes yna fawr o ddim newydd yn cael ei ddweud.

    Mae hi'n eithaf amlwg fod gan Robyn Léwis ei ffefrynnau ymhlith y Gorseddogion a fu ac y mae'r rheini yn cael mwy o sylw na'r lleill ganddo - ac mae ganddo bob hawl i wneud hynny wrth gwrs.

    Cig blasus
    Mae hynny o gig blasus sydd yn y cyhoeddiad i'w ganfod pan fo'r awdur yn trafod y cyfnod pan ddaeth o'i hun yn aelod o'r Orsedd - ac mae'n ddiddorol mai cael ei dderbyn er anrhydedd a wnaeth o yn y lle cyntaf ac nid fel enillydd un o brif wobrau'r Eisteddfod.

    Dim ond wedi iddo ennill medal y Prif Lenor y cafodd yr hawl i gael ei ystyried yn Archdderwydd ac er bod llawer ohonom yn gwybod ei fod a'i lygaid ar y brif swydd ers rhai blynyddoedd cyn cael ei ddewis nid yw'n sôn fawr ddim o gwbl am y cyfnod hwnnw pan gafodd ei wrthod gan y criw bychan oedd yn dewis Archdderwydd yr adeg honno.

    Pleidlais i bawb
    Nid yw'n sôn ychwaith am y ddadl i roi'r hawl i holl aelodau'r Orsedd ddewis bos y sioe a sut y bu iddo ef fynd ati i drechu dau o'i wrthwynebwyr yn yr etholiad cyntaf.

    Does dim sôn ychwaith am safiad y cyn Gofiadur Jâms Niclas a drodd y fantol ar fater pleidlais i bawb mewn cyfarfod cyffredinol o Orsedd y Beirdd.
    Safiad gorseddol hanesyddol yn fy marn i.

    Yn llawdrwm
    Ond rhag imi roi'r syniad nad oes dim o'r Robyn Llŷn go iawn yn y gyfrol newydd mae'n deg nodi ei fod o'n llawdrwm iawn ar yr Orsedd am beidio â chynnig anrhydedd erioed i'r Dr John Gwilym Jones.

    Ac, wrth gwrs, mae'n werth tynnu sylw at y fath sarhad ar un o'n llenorion disgleiriaf.

    Cwbl siabi
    Mae'r llyfr hefyd yn rhoi sylw i'r driniaeth gwbl siabi a gafodd Harri Gwynn nid yn unig gan yr Orsedd ond hefyd gan yr Eisteddfod ei hun - ac mae'n dda o beth ei fod wedi pigo cydwybod y Sefydliad Sanhedrinol.

    Y Frenhines ar y clwt?
    Ond mae yna ddirgelion ynglŷn â'r gyfrol hefyd.
    Y mae'r cyn Archdderwydd sydd hefyd yn swyddog cyfreithiol Bwrdd yr Orsedd yn cyhoeddi nad yw y Frenhines a'i gwr bellach yn aelodau o'r cylch cyfrin.

    O dan y cyfansoddiad newydd ni all neb nad yw'n siarad Cymraeg fod yn aelodau meddai - felly mae yr hen Elizabeth o Windsor a Phylip Meirionnydd allan ar y clwt.

    Ond, medda fo wedyn; nid oes sicrwydd a yw rhywun wedi rhoi gwybod iddyn nhw am y sefyllfa.
    Diddorol ynte?

    Llythyrau ffug
    Dirgelwch dyfnach i mi ydi'r ffaith i'r awdur benderfynu cyhoeddi tudalennau o lythyrau ato sydd yn amlwg yn llythyrau ffug oddi wrth rywrai oedd yn honni eu bod nhw yn ddarpar dderwyddon rhyngwladol.

    Llwyddodd y llythyrwr neu lythyrwyr hyn i oglais yr Archdderwydd. Efallai'n wir ei fod o'n credu fod y rhain yn llythyrau gan bobl ddilys. Yn wir, cyflwynodd un ohonynt i Fwrdd yr Orsedd - ond efallai nad oedd yr aelodau mor barod i gael eu perswadio.

    Bid a bo hynny - fel darllenydd mae'n rhaid i mi gyfaddef imi gael yr holl gybolfa yn gwbl ddibwrpas ac rwy'n synnu hefyd mai dyma'r rhan o'r llyfr a ddefnyddiwyd i heipio'r cyhoeddiad.
    Trueni am hynny.

    Pethau eraill
    Ond beth arall sydd yma?
    Wel, fe gewch chi hanes Cynan a'r cylchgrawn Lol; clywed sut y bu i'r Archdderwydd roi chwip din i Ann Clwyd - nid yn llythrennol cofiwch - a sut y cafodd yntau chwip din gan y Sanhedrin am gyfeirio at foch a gwinllan ym Mhrifwyl Casnewydd.

    Fe ddowch i ddeall hefyd fod Archdderwydd yn cadeirio a choroni prifeirdd ond yr hyn a ddigwydd i'r prif lenorion yw cael eu medalu - sy'n swnio braidd yn boenus i mi.

    Diddorol sylwi hefyd i'r awdur fodloni ar un llun yn unig o amryw o gyn archdderwyddon ond rywsut wedi canfod lle i gryn wyth o luniau ohono ei hun yn ei lifrai gorseddol gan gynnwys un dramatig iawn ohono yn canu gweddi'r orsedd. Llun y mae o'n cyfaddef a ddisgrifiwyd gan rywun fel, "Diawledig".

    A dyna ni.
    Bron i ddau gant o dudalennau.
    Yr arddull a phopeth ynglŷn â'r sgwennu o'r safon uchaf bosibl.

    Mae Gwasg y Lolfa yn ôl ei harfer wedi cyflwyno'r cyfan yn raenus a chaboledig ond er hyn i gyd fe ddewisodd yr awdur farchogaeth hen geffyl swrth a braidd yn ddifywyd.

    Ac mae hynny'n drueni.
    Dwi'n siŵr fod gan Robyn Llŷn well stori i'w dweud petai wedi dewis gwneud hynny.

    Tybed a yw yntau fel yr Archdderwydd gorau a gafwyd erioed yn teimlo'n "hen a pharchus"?

  • Gweler Gwales Cliciwch



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewchi'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy