BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
News imageCymru'r Byd
News image
News imageLlais Llên
News imageAdolygiadau
News imageLlyfrau newydd
News imageAdnabod awdur
News imageGwerthu'n dda
News imageSôn amdanyntNews imagePwy di pwy?
News image
News imageY Talwrn
News image
News imageNewyddion
News imageChwaraeon
News imageY Tywydd
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeonadolygiadau a straeon
Rhoces Fowr
Dilyn camp gyda champ
  • Adolygiad Caron Wyn Edwards o Rhoces Fowr gan Marged Lloyd Jones. Gomer. £7.99


  • Mae'r disgwyliadau a ddaw yn sgil ail nofel yn ddigon dychrynllyd ar y gorau ac nid yw hynny fyth yn fwy gwir na phan fo'r nofel honno'n dilyn clamp o gyfrol gyntaf.

    Clawr y llyfr Wedi ei chyhoeddi yn 2002 cafodd Siabwcho, nofel gyntaf Marged Lloyd Jones, ei chymeradwyo ar hyd a lled Cymru oherwydd ei thriniaeth sensitif a deallus o bwnc cignoeth.

    Ymhellach, roedd hi'n un o'r ychydig gyfrolau hynny yn yr iaith Gymraeg a addaswyd i'r Saesneg a chafodd yr addasiad hwnnw, Shame, ganmoliaeth yr un mor wresog.

    Felly os dylai unrhyw gyfrol ddioddef o glwy'r 'ail nofeleitus' yna Rhoces Fowr gan Marged Lloyd Jones fyddai honno.

    Y gwirionedd yw mai siomi ar yr ochr orau y mae hi.

    Yn wir, os rhywbeth mae hi hyd yn oed yn fwy teimladwy ac yn fwy emosiynol na'r gyntaf.

    Yn Siabwcho ceir ymdriniaeth sensitif o ferch ifanc yn cael ei chamdrin gan ei thad, ond yn Rhoces Fowr, mae Jini John, neu Jane Lloyd-Williams i roi iddi ei henw newydd, wedi dianc o Lety'r Wennol a'r tad creulon fu'n ei mocha pan ddylai fod yn gofalu amdani.

    Bellach mae ganddi gartref anrhydeddus fel merch y plas - ond nid yw mor hawdd â hynny i ddianc rhag hualau'r gorffennol.

    Mwy beiddgar
    Yn hyn o beth mae Rhoces Fowr yn fwy beiddgar na'i holynydd ac yn hynny o beth mae'n bwnc y gall pob darllenydd i ryw raddau, uniaethu ag o.

    Mae ei hamgylchiadau wedi gwella, mae ei haelwyd wedi gwella ond yr hiraeth yn parhau.
    Egyr y gyfrol gyda'r datganiad syml:
    "Mae hiraeth arna i; 'hiraeth mawr a hiraeth creulon'. A fedra i ddim deall pam yn iawn. Hiraeth ar ôl Mamo? Wrth gwrs 'mod i'n hiraethu ar ôl Mamo, ond roeddwn i wedi dod i delerau â'i cholli, i raddau..."

    Dechreua bendroni os mai hiraeth ar ôl Llety'r Wennol, cartref ei phlentyndod ydyw:
    "Hofel o le oedd Llety'r Wennol, ond am y deuddeng mlynedd gyntaf o'm hoes, hwnnw oedd fy nghartref - yno roedd Mamo'n byw, a hwnnw oedd fy nghaer mewn llawenydd a chur.

    "Roedd Dyta'n byw yno hefyd, ond gwnaf fy ngore i anghofio'r llabwst hwnnw...Y drwg yw na fedra i ddim. Ac efallai mai hynny yw'r prif reswm am fy nghyflwr hiraethus a'r iseldra."

    Mae hiwmor . . .
    Serch hynny, mae hiwmor i'w ganfod yn y mynegiant, sydd drwyddi draw, yn llifo'n rhwydd ac yn huawdl.

    Wrth ddisgrifio'r ymweliad gyda'r cyfreithwyr Jones, Thomas & Thomas, Cyfreithwyr, ceir sôn am gyfarfod y ddau Thomas, cyn ychwanegu:
    "Ddaeth Jones ddim i'r golwg. Fe ddwedodd Dad-cu wrthyf ar y ffordd adre mai enw yn unig oedd 'Jones'; ei fod wedi marw ers blynyddoedd, ond eu bod yn cadw ei enw mlaen er parch iddo, ac er lles y busnes..."

    Mae'r gosodiad yma mor fendigedig o sinigaidd ag i argyhoeddi'r darllenydd yn llwyr o'r math o gymdeithas sydd yma.

    Geirfa odidog
    Mae gan yr awdur yn ei meddiant hefyd, eirfa gyfoethog, a thermau godidog megis:
  • cysgu chwinciad cath
  • chwys drabŵd
  • a'r disgrifiad o'r 'howsciper' newydd "yn eistedd yn gopa-dil ar ben y ford yn joio'i frecwast."

    Wna i ddim difetha'r stori na'r diweddglo, ond fe wna i'ch annog i ddarllen hon.

    Mae Rhoces Fowr yn berl o gyfrol, a does ond gobeithio bod llawer eto i ddod gan yr awdures.
  • Gweler Gwales Cliciwch



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewchi'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy