BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
News imageCymru'r Byd
News image
News imageLlais Llên
News imageAdolygiadau
News imageLlyfrau newydd
News imageAdnabod awdur
News imageGwerthu'n dda
News imageSôn amdanyntNews imagePwy di pwy?
News image
News imageY Talwrn
News image
News imageNewyddion
News imageChwaraeon
News imageY Tywydd
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeonadolygiadau a straeon
Glas
Cariad a thyndra yn Y Wladfa
  • Adolygiad Caron Wyn Edwards o Glas gan Hazel Charles Evans. Carreg Gwalch. £6.50.

    Dros y blynyddoedd diwethaf, mae ein diddordeb ni fel Cymry, ym Mhatagonia a'i phobl wedi cynyddu'n gyson, nes ei fod bellach bron yn ymylu ar fod yn rhyw fath o obsesiwn.

    Clawr y llyfr Gwyliau draw yn y Wladfa, cyfresi teledu a radio fel ei gilydd yn adrodd ac yn ail adrodd hanes y Mimosa a disgynyddion y rhai a hwyliodd arni - maent yn rhan o fywyd bob dydd bellach.

    Felly hefyd llenyddiaeth sy'n mynd i'r afael â'r pwnc, fel y gwelsom gyda nofel fuddugol Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri a'r Cyffiniau draw yn y Faenol y llynedd.

    Ffres a chyfoes
    Un o'r diweddaraf i'w hychwanegu at y rhestr yw'r nofel Glas gan Hazel Charles Evans ac, yn wahanol i lawer o'r cyfrolau eraill, mae'n olwg ffres a chyfoes ar gymdeithas Patagonia, a'r berthynas rhwng ei thrigolion ac unigolion o'r Hen Wlad.

    Yn ganolog i'r nofel ysgafn, hynod ddarllenadwy hon - sy'n ein hatgoffa fod rhamant yn dal yn fyw ac yn iach - mae taith garwriaethol y prif gymeriad, Paula, ac Emrys, yr Archentwr o Gymro.

    Dyma ddau gymeriad cwbl wahanol i'w gilydd, sy'n canfod rhyw dir cyffredin wrth droedio'r paith.

    Er yn hanu o'r 'Hen Wlad' y mae llawer o ddelfrydu amdani, mae Paula - sy'n ymchwilydd gyda Radio Cymru - yn brwydro gyda'i chefndir Seisnig, ei thad, a'i phartner cyfalafol, yn ogystal â'r ffaith ei bod yn ariannog.

    Ariannin heddiw
    Mae Emrys ar y llaw arall, sy'n un o ddisgynyddion y Cymry cynnar hynny a ymfudodd i'r Ariannin, yn brwydro gyda'r ffordd y mae'r wlad yn cael ei rheoli heddiw - y tlodi a'r posibilrwydd y bydd yr iaith Gymraeg yn diflannu o'i gynefin.

    Mae ganddo hefyd gefndir o ormes gwleidyddol a chlwyfau personol o ganlyniad i hyn.

    Mae Paula yn gweld teithio draw i Batagonia i recordio rhaglen newydd ar gyfer y radio yn gyfle i ddianc o'i bywyd yng Nghymru, yn ogystal ag yn gyfle i wreiddio'i hunan mewn diwylliant sydd wedi cael ei ddelfrydu droeon, ac sydd - yn wrthgyferbyniad llwyr i'w phlentyndod a'i magwraeth ei hun - yn gynhenid Gymreig.

    Hen a newydd
    Cawn gipolwg ar yr hen Gymry diolch i bortread Hazel Charles Evans o Nel, nain Emrys, yn ogystal â chael argraff o'r Cymry 'newydd' gyda chymeriadau diddorol fel Maxima, a'i hawydd i ddysgu Cymraeg.

    Ac wrth gwrs, yn ganolog i'r stori, cawn weld cyfyng-gyngor Paula yn dwysau wrth i'r amser iddi ddychwelyd i Gymru nesáu.

    Adnabod yn iawn
    Hawdd gweld o'i hysgrifennu, fod Hazel Charles Evans yn meddu ar adnabyddiaeth drwyadl o Batagonia a'i phobl.

    Mae disgrifiadau cyfoethog o'r wlad yn hydreiddio ei nofel, a llwydda'r awdur i blethu sawl thema bwysig i'r stori - o'r cariad-bron-yn-amhosib i sefyllfa'r iaith Gymraeg, ac o dlodi a chyfalafiaeth i wrthdaro rhwng y genhedlaeth hŷn a'r to ifanc.

    Stori garu
    Rhinwedd arall o'r nofel yw'r modd y mae'r awdur yn gwau'r Gymraeg a'r Sbaeneg gyda'i gilydd - a hynny mewn sgwrs sy'n swnio'n gwbl naturiolac sydd yn adlewyrchu'r sefyllfa wleidyddol ac ieithyddol.

    Wedi dweud hynny stori garu sydd yma yn ei hanfod sy'n atgoffa rhywun ar brydiau o nofelau Saesneg fel Evening Class Maeve Binchy.

    Mae'n hynod ddarllenadwy, yn hwyliog ac yn cynnwys holl rinweddau drama ysgafn neu opera sebon heb ddim o'r ffaeleddau.

    Dyma gyfrol i'w darllen dros wydriad bach o win gyda'r nos... mwynhewch.
  • Gweler Gwales Cliciwch

  • Cysylltiadau Perthnasol
    Straeon o Batagonia


    cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewchi'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy