BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
News imageCymru'r Byd
News image
News imageLlais Llên
News imageAdolygiadau
News imageLlyfrau newydd
News imageAdnabod awdur
News imageGwerthu'n dda
News imageSôn amdanyntNews imagePwy di pwy?
News image
News imageY Talwrn
News image
News imageNewyddion
News imageChwaraeon
News imageY Tywydd
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeonadolygiadau a straeon
Rhyfedd o Fyd
Yn y ras am Fedal Ryddiaith
  • Adolygiad Gwilym Owen o Rhyfedd o Fyd gan Gruff Roberts. Gomer. £6.99


  • Mae gen i barch mawr at y bobl hynny sydd bob blwyddyn yn penderfynu eu bod nhw yn rhoi pin ar bapur a pharatoi cynnyrch ar gyfer cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

    Mae gweithred o'r fath yn hawlio brwdfrydedd, disgyblaeth a dyfalbarhad - pethau yr ydw i'n sicr sy'n mynd yn brinnach o ddydd i ddydd.

    Clawr y llyfr A dyna pam, yn y lle cyntaf, yr ydw i yn codi fy nghap i Gruff Roberts am ei gyfrol, Rhyfedd o Fyd.

    Ac yn ôl y blyrb ar gloriau'r gyfrol o Wasg Gomer roedd gan feirniaid cystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Eryri bethau digon caredig i'w dweud am y gwaith.

    'Diddorol a dadlennol'
    Yn ôl un mae'r casgliad o ysgrifau yn "gofnod diddorol a dadlennol o flynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif ar hugain yng Nghymru".

    Cyhoedda arall fod gan yr awdur "drwyn newyddiadurwr am stori".

    Digon teg, efallai, ond mae'n fater arall a ddylai casgliad o'r fath gael ei gyhoeddi.
    A oes yma ddigon o arbenigedd yn y dweud a'r dadansoddi i gyfiawnhau troi yr ymdrech eisteddfodol yn gyfrol gyhoeddedig.

    Fe fyddwn i yn cael trafferth cyfiawnhau gweithred o'r fath.

    Oes, mae yma amrywiaeth o bynciau diwylliannol, gwyddonol a gwleidyddol ond o'm safbwynt i yr hyn sydd ar goll ydi triniaeth wreiddiol o ran syniadaeth ac iaith.

    Methu ysgogi
    Er bod y blyrb yn honni fod yna "gyfrol fyfyriol a thân yn ei bol" mae'n rhaid i mi gyfaddef na ddarllenais i ddim bron yn y cant a deg o dudalennau a'm hysgogodd.

    Rhyw sgrifennu linc di lonc sydd yma - digon cywir a difelf - ond prin iawn yw'r gwres â'r teimlad sy'n gwneud i rywun deimlo ei fod yng nghwmni awdur sy'n llawn tân a brwdfrydedd.

    Mae'n ddigon posib wrth gwrs mai arnaf i mae'r bai achos i fod yn gwbl onest alla i ddim gweld pynciau fel cynhesu byd eang, gorbysgota, sbwriel a globaleiddio yn fy ysgwyd hyd yn oed pe byddai'r awduron gorau posib yn mynd ati i geisio fy mherswadio i ddarllen amdanynt.

    Llwyr anghytuno
    Ac fe fyddwn i'n llwyr anghytuno a beirniad yn yr Eisteddfod a fentrodd awgrymu fod gan yr awdur "drwyn newyddiadurwr".

    Wn i ddim sut y byddai hi'n cyfiawnhau gosodiad o'r fath yng nghyswllt y gyfrol hon yn enwedig o gofio fod Medal Ryddiaith y Faenol wedi mynd yn gwbl haeddiannol i newyddiadurwr proffesiynol ym mherson Dylan Iorwerth.

    Ac mae codi'r sgwarnog yna yn gwneud i mi godi cwestiwn pwysig yn fy marn i. Beth yw newyddiaduraeth safonol?

    Mae'n ymddangos i mi nad oes gennym ni yn y Gymru Gymraeg y syniad lleiaf o beth yw'r ateb.

    Mae pwysigion academaidd yn trafod y proffesiwn fel pe bydden nhw'n deall hanfodion y gwaith.

    Ac yn waeth na hynny maen nhw'n credu fod ganddyn nhw'r hawl i ddoethinebu am safonau newyddiadurol.

    Ond y gwir plaen amdani yw mai'r hyn a wnânt ydi pedlera eu syniadau unllygeidiog a rhagfarnllyd a chael eu derbyn fel newyddiadurwyr oherwydd nad oes neb yn ddigon dewr i ddadlau â nhw.

    Pobl felly, mae gen i ofn, sy'n stryffaglio i geisio cychwyn papur dyddiol Cymraeg a nhw a'u tebyg fydd yn paratoi cynnwys Y Byd os byth y gwêl olau dydd - a'r papur hwn, yn anffodus, yw'r un y mae Gruff Roberts yn hiraethu amdano yn ei lyfr!

    Cael blas
    Ond i ddod yn ôl at Rhyfedd o Fyd mae'n deg fy mod innau'n cyfaddef imi gael blas ar rai o'r ysgrifau; Ambell i Lesson yn Welsh Chwarae Teg, Requiem i John a Colli'r Cof Colli'r Cyfan.

    Ond dim ond tair yw'r rhain allan o ddeunaw - sy'n brawf, efallai, o'r amheuaeth sydd gen i a ddylai'r gyfrol yma fod wedi gweld golau dydd.

    Ac i ofyn; A pheri imi ofyn; a oes yma duedd i gyhoeddi gormod y dwthwn hwn?

  • Adolygiad ar Gwales Cliciwch

  • Cysylltiadau Perthnasol
    Holi'r awdur


    cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewchi'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy