BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
News imageCymru'r Byd
News image
News imageLlais Llên
News imageAdolygiadau
News imageLlyfrau newydd
News imageAdnabod awdur
News imageGwerthu'n dda
News imageSôn amdanyntNews imagePwy di pwy?
News image
News imageY Talwrn
News image
News imageNewyddion
News imageChwaraeon
News imageY Tywydd
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeonadolygiadau a straeon
Y Ferch ym Myd y Faled

  • Sylwadau Rhodri Ll. Evans ar Y Ferch ym Myd y Faled: Delweddau o'r Ferch ym Maledi'r Ddeunawfed Ganrif gan Siwan M. Rosser. Gwasg Prifysgol Cymru. £35.


  • Mae cyfrol newydd Siwan M. Rosser, darlithydd yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, yn ymdrin â delweddau o'r ferch ym maledi'r ddeunawfed ganrif.

    Clawr y llyfrMae'n galonogol gweld cyfrol yn archwilio maes sy'n amddifad o astudiaethau manwl a threiddgar, sef maes astudiaethau menywod.

    Mae cyfuno'r maes hwn â hanes y faled yn creu cyfrol hynod wreiddiol a hynod ddifyr.

    Egyr y gyfrol gyda rhagymadrodd manwl ac ynddo fraslun o'r faled yn y ddeunawfed ganrif.

    Mae'r penodau a ddilynir yn elwa'n fawr o'r rhagymadrodd hwn - trwy ganiatáu'r trylwyredd angenrheidiol heb ddieithrio'r darllenydd.

    Yng nghanol y gyfrol, mae copïau o bamffledi a lluniau gwreiddiol o'r cyfnod ac maent yn fodd o ddod a'r hanes yn fyw i ni'r gynulleidfa fodern.

    Dan ffugenwau
    Rhwng ei chloriau, ceir penodau swmpus ar wahanol ddelweddau o'r ferch - delweddau traddodiadol 'fenywaidd' megis y forwyn a'r fam ond yn ogystal, cawn hanes rhai merched a fu'n brwydro dan ffugenwau dynion yn y llynges Brydeinig!

    Dyma agweddau sy'n mynd yn groes i'r delweddau 'clasurol' o'r ferch ac mae eu cynnwys yn y gyfrol yn tanlinellu nid yn unig ymchwil arloesol yr awdur ond yn tanlinellu hefyd pa mor anadnabyddus yw'r maes hwn mewn gwirionedd a chyn lleied a wyddom amdano.

    Testun gwawd
    Bu'r faled yn destun gwawd am amser maith a llawer yn amau ei gwerth llenyddol ond mae Siwan M. Rosser yn cynnig safbwyntiau newydd ar yr hen ragdybiaeth hon.

    Mae'r gyfrol hon yn llwyddo ar sawl lefel, ond yn bennaf, mae'n llwyddo yn sgil manylder y gwaith ymchwil ar faes sy'n parhau i fod yn un cymharol dywyll a thrwy hynny, gyflwyno hanes cymdeithasol menywod yn y ddeunawfed ganrif.

    Mae'n cynnig safbwynt newydd ar hanes y faled ac, yn bennaf oll efallai, mae'n llwydo am iddi gynnig herio'r delweddau 'clasurol' o'r ferch ac ateb y delweddau hynny â phenodau trylwyr ar agweddau a fu, hyd yn hyn, yn dir nas troediwyd gan lawer.

  • Adolygiad ar Gwales Cliciwch



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewchi'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy