BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
News imageCymru'r Byd
News image
News imageLlais Llên
News imageAdolygiadau
News imageLlyfrau newydd
News imageAdnabod awdur
News imageGwerthu'n dda
News imageSôn amdanyntNews imagePwy di pwy?
News image
News imageY Talwrn
News image
News imageNewyddion
News imageChwaraeon
News imageY Tywydd
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeonadolygiadau a straeon
Wil Sam
Cyhoeddi tair cyfrol
Adolygiad Glyn Evans o:
  • Mân Bethau Hwylus, Gwasg Gwynedd, £4.95;
  • Newyddion Ffoltia Mawr, Carreg Gwalch, £6.50; a
  • Rhigymau Wil Sam, Cyfres Barddoniaeth Boced-din. Carreg Gwalch. £5.
    Y tri gan Wil Sam.


  • Ddiwedd 2005 a dechrau 2006 gwelwyd cyhoeddi tri llyfr gan un awduron ffraethaf Cymru - Wil Sam.

    Clawr y llyfr Casgliad o atgofion am gymeriadau ei filltir sgwâr yn Eifionydd yw cynnwys Mân Bethau Hwylus lle mae'r awdur yn rhoi rhwydd hynt i'w feddwl grwydro a chaniatáu i sawl sgwarnog godi sgwarnogod eraill gyda'r awdur yn gofod cyfaddef; "Dyna fi'n crwydro eto" gan ychwanegu, "Ond crwydro yw trefn ddifyr y moddion ar aelwyd Bryn Efail bob amsar" gan gyfeirio at yr ymddiddan ar un o'r aelwydydd y mae'n sôn amdanynt

    Mewn ysgrif am feics mae'n lled geryddu ei hun eto: "Dyna fi'n crwydro yma ac acw, ond dacia, crwydro yma ac acw ydi diban beics."

    Mae'r cyfan yn rhoi naws sgwrs wrth y tân neu dros beint i'r llyfr.

    Y canlyniad yw clytwaith o anectodau lliwgar am bobl digon brith. Ie, pobl a'u hynodrwydd yw mân bethau y gyfrol hon.

    "Y petha bychan bach," ys dywed Wil Sam ei hun, "sy'n galw yn eu tro wrth i ni hel meddylia 'mewn penstiff mediteshion', chadal yr hen gyfaill, John Elwyn Hughes o Borthmadog erstalwm."

    Mae yma lobsgows blasus o gymeriadau hynod yn amrywio o grydd yn magu pryf copyn o'r enw Jiorj i ddynes a beintiodd ei ffon yn wyn ar ôl colli ei golwg ""rhag ofn i mi fynd ar draws rhywun".

    Er yn byrlymu o ddoniolwch a hwnnw'n ddoniolwch yn ymwneud â phobl hyfrydwch arbennig y gyfrol yw nad gwneud hwyl am ben pobl ydi steil Wil Sam ond chwerthin gyda nhw ac y mae tynerwch a dyneiddiwch bob amser yn yr hwyl.

    Gweld tylwyth teg
    Mae'n wybyddus hefyd bod Wil Sam yn un o'r rhai hynny sy'n credu mewn tylwyth teg - a hynny ar sail bod wedi gweld rhai - fel y dywed yma:
    "Yno'r o'n i, yn naw neu ddeg oed yn smocio Wdbein ac yn cymryd pum munud, pan welis i Dylwyth Teg, os teg hefyd. Un eithaf hyll welis i'n dŵad i'r golwg o'r brwgaij, un o dylwyth y rhai drwg decini. Mae 'na rai da a rhai drwg.

    "Tylwyth teg da oedd rhai Ystumcegid. Gawson nhw fenthyg radall at neud torth geirch gan y teulu, a phawb yn deud 'welwch chi mo'ch radall.' Ond yn ei hôl y daeth hi, a thorth dlysa rioed i'w cha'lyn hi," meddai.

    Cymeriad hynod
    Gyda'r hynotaf o gymeriadau'r gyfrol ydi John Preis.
    "Os od ydi hynod, a hynod ydi od, yna ma hwn yn haeddu lle yn yr oriel," meddai Wil Sam.

    "Dyn bychan, sionc, yn mynd yn fân ac yn fuan a'i ben o'i flaen, a'i lygad o'n deud ei fod o'n cael ei gorddi. Top-côt soldiar amdano fo a chap ysgol am 'i ben. Hen ffaga am 'i draed o yn y tywydd mawr a sgidia cryfion am 'i draed o yn ystod gwres mawr yr ha.

    "Chlywais i rioed ei fod o'n or-hoff o molchi, ond eto bydda'i wynab o'n sgleinio fel petai o newydd ei sgwrio efo sebon coch."

    Newyddion lleol
  • Cymeriadau, hefyd, ydi hanfod yr ail gyfrol a gyhoeddwyd gan Wil Sam dros ddiwedd blwyddyn, Newyddion Ffoltia Mawr ond cymeriadau dychmygol y tro.
    Clawr y llyfr Ond y rheini'n gymeriadau dychmygol go iawn!

    Dynwarediad o straeon colofnau papurau lleol ydi Newyddion Ffoltia Mawr ac wedi eu cyhoeddi yn wreiddiol yn Y Cymro ddechrau'r Saithdegau.

    Yr oedd hwnnw yn gyfnod pan oedd 'gohebydd lleol' papurau fel yr Herald Cymraeg a Herald Môn yn berson o bwys yn ei gymuned.

    Hwy fyddai'n anfon at y papurau hyn wybodaeth am briodasau, genedigaethau, marwolaethau ac amryfal gampau a gwrhydri trigolion y fro.

    Mewn pentref gyda gohebydd lleol da ni fyddai hyd yn oed bry glaw yn cyrraedd heb gael ei grybwyll yn y golofn leol.

    Un o'r gohebwyr trylwyr hyn oedd Confal Tomos, Drepars and Grosars, a'i glust bob amser yn agored i lwyddiannau bach a mawr mewn arholiadau a holl fân weithgareddau Merched y Wawr a'r WI - heb sôn am wrhydri aelodau o'i deulu ei hun yn Ffoltia Mawr - y pentref dychmygol a grëwyd mor wyrthiol o real gan Wil Sam.

    "Mor ddoniol a gwreiddiol ag Ifas y Tryc," yw'r frôl ar glawr y gyfrol ac yn ei ffordd mae'n fwy os rhywbeth o gamp ond y mae'r elfen o chwarae ar eiriau sydd mor hanfodol i'r gyfrol yn mynd i roi'r un mwynhad fan hyn ag a wnai o enau dyn y tryc ei hun.

    Rwy'n cofio'n iawn y wefr o baratoi y cyfraniadau hyn ar gyfer yr argraffwyr pan yn gweithio ar Y Cymro yr adeg honno.

    Cyfrol i fynd a dod iddi yw hon ac un a fydd yn goddef ei darllen drosodd a throsodd - er y mae rhywun yn sylwi mwy ar elfen o ailadrodd o gael y casgliad cyfan rhwng dau glawr o gymharu ag ymddangos fesul wythnos fel y gwnaeth y cyfraniadau yn Y Cymro.

    Rhigymau
  • Disgrifwyd Rhigymau Wil Sam fel, "Cymysgedd cyfareddol o waith awdur arbennig iawn" gan Tegwyn Jones wrth adolygu'r gyfrol ar wefan Gwales ac nid oes amheuaeth fod y gyfrol fach hon yn ychwanegiad gwerth chweil i gyfres Barddoniaeth Boced Din Gwasg Carreg Gwalch.

    Clawr y llyfr Heb amheuaeth bydd ei hawduraeth yn synnu y rhai hynny sydd wedi meddwl am Wil Sam fel dramodydd a storïwr yn unig ond fel y gwelir yma mae'n rhigymwr deheuig a ffraeth hefyd.

    Ac, wrth gwrs, mae'r dafodiaith hyfryd a'r hiwmor heintus yn trosglwyddo'n llwyddiannus i fydr ac odl.

    Crwydra weithiau y tu draw i ffiniau Eifionydd i chwilio am destun megis y beddargraff hwn i Mary Whitehouse yr ymgyrchydd yn erbyn aflendid ar y teledu:
    Meri wen wiwlan sydd dan y llechan,
    Treuliodd hon oes heb na rhegi na rhechan.

    Ond, fel ag yn y dramâu a'r straeon mae tinc o ddifrifoldeb hefyd yn rhan o'r goglais.

    Cyfrol fach hyfryd a bargen am £5.

  • Gweler Gwales Mân Bethau Hwylus
  • Gweler Gwales Newyddion Ffoltia Mawr
  • Gweler Gwales Rhigymau Wil Sam

  • Cysylltiadau Perthnasol
    Tair cyfrol yr un noson!


    cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewchi'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy