BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
News imageCymru'r Byd
News image
News imageLlais Llên
News imageAdolygiadau
News imageLlyfrau newydd
News imageAdnabod awdur
News imageGwerthu'n dda
News imageSôn amdanyntNews imagePwy di pwy?
News image
News imageY Talwrn
News image
News imageNewyddion
News imageChwaraeon
News imageY Tywydd
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeonadolygiadau a straeon
Llên yr Uchelwyr
Llenyddiaeth Gymraeg 1300 - 1525
  • Adolygiad Rhodri Ll. Evans o o Llên yr Uchelwyr: Hanes Beirniadol Llenyddiaeth Gymraeg 1300 - 1525 gan Dafydd Johnston. Gwasg Prifysgol Cymru, £45.


  • Y gyfrol hon gan Dafydd Johnston yw'r gyntaf yng nghyfres newydd Hanes Beirniadol Llenyddiaeth Gymraeg ac mae'n canolbwyntio ar y cyfnod o 1300 hyd at 1525.

    Ynddi cawn astudiaeth hynod fanwl a threiddgar sy'n rhychwantu un o gyfnodau mwyaf llewyrchus ein traddodiad barddol.

    Clawr y llyfr Mae'r ôl ymchwil yn amlwg.
    Hynny gan un sydd eisoes wedi ymsefydlu fel awdurdod ar y maes ac sydd wedi cyfrannu'n helaeth ato, yn bennaf oll gyda'i olygiadau o waith rhai o feirdd mwyaf arwyddocaol y cyfnod ac, yn wir, yn hanes ein llên - Iolo Goch, Lewys Glyn Cothi a Llywelyn Goch ap Meurig Hen.

    Fel y disgwylir, ceir penodau wedi eu neilltuo'n arbennig i feirdd - Siôn Cent, Lewys Glyn Cothi, Tudur Aled a Dafydd Nanmor i enwi pedwar yn unig - ond yn ogystal ceir penodau sy'n ymdrin â'r gyfundrefn farddol, y themâu yn eu gwaith a'r cyd-destunau hanesyddol.

    Mae'r bennod gyntaf - rhyw fath o gefndir hanesyddol - yn bennod agoriadol wych gan ei bod yn llwybr croesawgar i unrhyw un sy'n dewis troedio'r gyfrol gyfan.

    Ffrwyth yr ymchwil yma yw i rai cerddi weld golau dydd am y tro cyntaf yn y gyfrol hon - hynny bron i hanner mileniwm wedi eu canu'n wreiddiol!

    Mae'r cyfraniad hwn yn llwyddo, efallai, i wneud iawn am rai o'r camau a geir ynddi.

    Soniaf am y rheini yn nes ymlaen.

    Gwerth arhosol
    Ceir penodau ar rai o ffigurau a ffactorau mwyaf adnabyddus y blynyddoedd rhwng 1300 a 1525 - y bobl a'r pethau yr ydym yn eu cysylltu â'r cyfnod.

    Neilltuir pennod gyfan i Dafydd ap Gwilym, pennod arall i'r cywydd a cheir penodau trylwyr iawn ar genres arbennig fel y canu mawl a'r canu crefyddol.

    Mae'r ffaith i'r gwaith gael ei rannu i benodau taclus yn ychwanegu at werth arhosol y gyfrol, yn fy marn i ac rwy'n rhagweld y bydd disgyblion a myfyrwyr y Gymraeg yn cael budd mawr o'r hyn sydd rhwng ei chloriau.

    I'r Saesneg
    Rwy'n mawr obeithio y bydd y gyfres Hanes Beirniadol Llenyddiaeth Gymraeg yn llwyddo i gynhyrchu cyfrolau eraill o ymchwil treiddgar oherwydd ar hyn o bryd, mae'n rhaid troi i'r Saesneg ac at gyfrolau fel A Guide to Welsh Literature am ymdriniaethau o safon gyffelyb.

    Gwir, ceir ymdriniaethau tebyg yng nghyfrolau Syr Thomas Parry a'r Athro Gwyn Thomas, Hanes Llenyddiaeth Gymraeg Hyd 1900 ac Y Traddodiad Barddol, ond penodau ar gyfnodau arbennig, megis cyfnod yr Uchelwyr, a geir ynddynt ac ni cheir yr un manylder a'r hyn sydd yn y gyfrol hon.

    Dewis doeth
    Un o'i llwyddiannau amlycaf - namyn yr ymchwil arbennig - yw'r ffaith i'r awdur lwyddo i ysgrifennu'r cyfan mewn dull cyfarwydd a chymharol syml.

    Er mai cyfrol ysgolheigaidd yw hi yn y bôn, dylid clodfori Dafydd Johnston am ei ddewis doeth i groesawu'r darllenydd cyffredin i'r maes difyr hwn yn hytrach na'i ynysu'n anfwriadol ag ysgolheictod cymhleth.

    Teg yw dweud felly, fel cyfanwaith, fod y gyfrol yn llwyddiant.
    Serch hynny, mae gwendidau.

    Yn gyntaf, ni chefais lawer o 'feirniadaeth lenyddol' ynddi ac mae fel pe byddai'n ei chael yn anodd canfod ei lliwiau ar brydiau - beirniadaeth lenyddol ynteu hanes llên y cyfnod?

    Mewn unrhyw gyfrol, ni fyddai hyn yn fater teilwng i'w drafod ond mewn cyfrol sy'n cynnwys is-deitl mor uniongyrchol a Hanes Beirniadol Llenyddiaeth Gymraeg, disgwyliais fwy o ymdriniaethau syniadol na'r hyn a geir.

    Rhyddiaith
    Gwendid amlwg arall yw'r ffaith na dderbyn rhyddiaith y cyfnod ond pennod - pennod yn unig (y bennod olaf) - o sylw.

    Mae'r ymdriniaeth ar y farddoniaeth yn wych - ydi - ond nid felly'r ymdriniaeth o ryddiaith y cyfnod.

    Mae'n amhosibl cynnal astudiaeth fanwl, treiddgar a theilwng o faes mor eang â 'rhyddiaith' mewn pennod o gwta 34 tudalen.

    Ceir esboniad (neu ymddiheuriad, efallai?) o ryw fath gan yr awdur yn ei ragymadrodd i'r perwyl yma, ond ni chredaf i hyn fod yn rheswm digonol - yn enwedig mewn cyfrol sy'n ymdrin â Llenyddiaeth ac nid barddoniaeth yn unig.

    Serch hyn, nid yw hyn yn ddigon i wadu'r ffaith fod y gyfrol hon yn ganlyniad gwaith ymchwil anhygoel ac y bydd lle parhaol iddi ar silff pob athro, myfyriwr neu unrhyw un sy'n ymddiddori yn y cyfnod arbennig hwn yn ein traddodiad barddol.

  • Adolygiad ar Gwales Cliciwch



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewchi'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy