BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
News imageCymru'r Byd
News image
News imageLlais Llên
News imageAdolygiadau
News imageLlyfrau newydd
News imageAdnabod awdur
News imageGwerthu'n dda
News imageSôn amdanyntNews imagePwy di pwy?
News image
News imageY Talwrn
News image
News imageNewyddion
News imageChwaraeon
News imageY Tywydd
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeonadolygiadau a straeon
carirhys@hotmail.com
Dirgelwch ar y we
  • Adolygiad Nia Alaw Owen o carirhys@hotmail.com gan Mari Stevens. Cyfres Pen Dafad. Y Lolfa.


  • Prif gymeriad y llyfr hwn yw Cari Rhys, fel mae'r teitl yn awgrymu.

    Yr awgrym arall yw ei bod yn stori yn ymwneud â'r rhyngrwyd.

    Cyfres o negeseuon e-bost rhwng ffrindiau yw'r cynnwys - Cari Rhys, Mags, Tomos, Spynci, Saffi a Katz.

    Clawr y llyfr Mae Katz yn wael mewn ysbyty ers bron i flwyddyn a'i ffrindiau yn ceisio meddwl am ffordd o gasglu arian er mwyn dangos eu gwerthfawrogiad o'r gofal ohoni gan y meddygon a'r nyrsys.

    Yr unig awgrym a geir o natur salwch Katz yw ei bod yn colli ei gwallt - felly galwn gasglu ei bod yn dioddef o ganser.

    Yn y diwedd mae Spynci yn cael y syniad o gynnal ocsiwn adduned ac fe welwn ni yr ocsiwn drwy lygaid Katz ei hun sy'n disgrifio popeth y mae hi'n ei gweld drwy gamera am ei bod yn rhy wael i fod yn bresennol.

    Digwyddiad arall yn y llyfr yw bod Cari Rhys yn derbyn neges e-bost gan rywun sy'n ei hedmygu ac yn galw ei hun yn Caru Cari ac yn defnyddio'r cyfeiriad carucari@sgwarnog.com.

    Mae Cari yn benderfynol o ddarganfod pwy yw caru cari gan ddyfalu mai un ai Gaz Tom, capten tîm rygbi blwyddyn 9, Rhys ap Seimllyd ap Siencyn neu Mr Gorjys Porjys yr athro Cymraeg, yw'r awdur ac mae Cari yn trio gwahanol ffyrdd o geisio darganfod pa un.

    Wna i ddim datgelu dim - os ydych chi am wybod pwy yw'r edmygydd rhaid ichi ddarllen y llyfr eich hun!

    Mae'n llyfr hynod o ddifyr y mwynheais ei ddarllen - ac ni chymerodd lawer i wneud hynny.

    At ferched y bydd yn apelio'n bennaf.

    Er mai tafodiaith y de a ddefnyddir nid yw hynny yn achosi unrhyw broblem o safbwynt deall.

  • Gweler Gwales Cliciwch

  • Cysylltiadau Perthnasol
    Cyfres Pen Dafad


    cyfannwch

    Gwenllian Rhys o Gaerfyrddin
    Mae'r llyfr hwn yn cwl

    hanzi-panzi
    darllenais i y llyfr hwn a rydw i yn meddwl ei fod e yn diddorol iawn! dylech chi gyd ei ddarllen mae'n brill!!!!!!

    Laura-Llambed
    Rydw i'n meddwl bod y llyfr yma'n gret.



    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewchi'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy