BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
News imageCymru'r Byd
News image
News imageLlais Llên
News imageAdolygiadau
News imageLlyfrau newydd
News imageAdnabod awdur
News imageGwerthu'n dda
News imageSôn amdanyntNews imagePwy di pwy?
News image
News imageY Talwrn
News image
News imageNewyddion
News imageChwaraeon
News imageY Tywydd
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeonadolygiadau a straeon
Capeli Cymru
Blychau a themlau
  • Sylwadau ar Capeli Cymru gan D Huw Owen. Lluniau gan Marian Delyth ac eraill. Lolfa. £14.95.


  • Mae'n ffaith drist ond arwyddocaol mai mewn amgueddfa y mae'r capel sy'n denu'r mwyaf o bobl yng Nghymru heddiw.

    "Saif capel Pen-rhiw bellach yn Amgueddfa Werin Cymru," meddai D Huw Owen yn ei lyfr difyr sy'n olrhain hanes dros gant o gapeli'n gwlad.

    Er mwyn cyfleu nerth a grym y twf crefyddol yng Nghymru ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif daeth yn beth poblogaidd i ddweud bod o leiaf un capel newydd yn cael ei agor bob wythnos.

    Yn awir, yr adeg honno - ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif yr oedd 75 y cant o bobl Cymru yn 'mynd i'r capel'!

    Clawr y llyfr Erbyn heddiw, daeth yr un mor ffasiynol i ddweud fod capel yn cau yn rhywle bob wythnos yng Nghymru a'r adeilad weithiau'n cael ei ddefnyddio i rhyw bwrpas arall.

    Erbyn hyn mae yna amryw o hen gapeli sydd bellach yn dai, yn ffatrïoedd, yn siopau, yn garej ac yn bethau eraill sy'n arwyddion o'r trai crefyddol a fu y pum mlynedd ar hugain ddiwethaf.

    Mae digonedd o gapeli yn mynd a'u pen iddynt hefyd.

    Ychwaneger at hynny y ffaith mai ond megis dyrnaid o bobl sy'n mynychu llawer o'r capeli sydd ar ôl.

    Newid yn aruthrol
    "Ers yr Ail Ryfel Byd, mae sefyllfa capeli anghydffurfiol yng Nghymru wedi newid yn aruthrol. Mae gostyngiad parhaus yn y nifer sy'n mynychu, a lleihad ym maint y cynulleidfaoedd yn sgil hynny," meddai CADW ar ei gwefan.

    "Gwerthir capeli ychwanegol i'r rheiny sy'n gallu ac sy'n barod i'w prynu, neu cefnir arnynt a chânt eu gadael i bydru a graddol chwalu nes eu bod yn troi'n adfeilion peryglus a diflas yr olwg," ychwanegir.

    Adlewyrchir llawer o hyn yng nghyfrol gampus a difyr D Huw Owen sy'n cyflwyno lluniau a hanes dros gant o gapeli diddorol Cymru - a rhyw ddyrnaid bach y tu allan i Gymru hefyd.

    Dan ugain
    Mae nifer aelodaeth ambell un dan ugain - dydw i ddim yn meddwl fod yna'r un dros 500.

    Yn wir, 458 o aelodau sydd gan eglwys Berea Newydd y Presbyteriad ym Mangor er ei bod yn gyfuniad o'r hyn a fu yn bum eglwys yn yr ardal.

    Dyma un o'r adeiladau mwyaf newydd yn y gyfrol a'r eglwys wedi'i ffurfio fis Ionawr 2003.

    "Penderfynwyd uno'n bennaf oherwydd sylweddoli manteision mwynhau cyfleusterau modern ac osgoi gwariant sylweddol ar adeiladau'r pum capel . . . Roedd hefyd ymwybyddiaeth o'r gostyngiad yn aelodaeth yr amrywiol eglwysi . . .," meddai D Huw Owen.

    Adeilad newydd arall sy'n cael sylw yn y gyfrol ydi Capel y Porth, Porthmadog, a godwyd yn 2001.

    "Ffurfiwyd Capel y Porth pan unwyd y Tabernacl a'r Garth," meddai.

    Mae yno 303 o aelodau sy'n nifer teilwng o gymharu ag aelodaeth rhai o gapeli eraill y gyfrol.

    Ond yr ydym, yn amlwg, yn byw mewn cyfnod gwahanol iawn i hwnnw a ddisgrifiwyd gan y diweddar Dr R Tudur Jones gydag adeilad yn tywyllu wrth i'r gynulleidfa godi ar ei thraed mewn oedfa y pregethai ynddi ym Mhen Llŷn!

    Dydi hi ddim yn gymylau ym mhobman fodd bynnag. Wrth sôn am gapel Salem yn Nhreganna, Caerdydd, dywed D Huw Owen:
    "Dyma un o'r ychydig eglwysi yng Nghymru heddiw y mae ei haelodaeth yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn," meddai.

    Ond wedi dweud hynny 174 o aelodau sydd yno.

    Lle anghysbell
    Ond does yr un o'r capeli hyn yn tynnu mwy o bobl na'r capel a gludwyd garreg wrth garreg i'r hyn arferid ei galw yn amgueddfa werin yn Sain Ffagan gan awgrymu fod gan bobl fwy o ddiddordeb yn hynodrwydd adeilad nag mewn addoliad.

    Yr un gynneddf, o bosib, sy'n tynnu pobl i gapel anghysbell Soar y Mynydd ac meddai D Huw Owen:

    "Un o agweddau rhyfeddaf y sefyllfa grefyddol yng Nghymru heddiw yw'r modd y denir niferoedd helaeth i'r capel hwn a saif tua deng milltir o Dregaron, yn un o ardaloedd mwyaf anghysbell Cymru, ac ardal sydd wedi dioddef yn enbyd o effeithiau diboblogi."

    Ychwanega: ". . . llwyddir i ddenu cynulleidfaoedd niferus, a sawl taith fws wedi'i threfnu gan eglwysi. Yn aml mae'r capel sy'n eistedd 120 yn orlawn a defnyddir uchelseinydd ar gyfer y rhai na fydd yn llwyddo i sicrhau mynediad."

    Hynny yng nghyswllt capel nad oes iddo ond 18 o aelodau a hynny'n arwydd o'r diboblogi yn yr ardal gan mai ond 48 aelod oedd yna yn nyddiau gwell 1944.

    Cynulleidfa o bum cant
    Tanlinellir troad y rhod yn hanes capel Bethania, Llwynypia, yn Y Rhondda. Pan agorwyd hwnnw ym 1876 yr oedd lle ynddo i gynulleidfa o 500. Heddiw, 14 yw'r aelodaeth a'r capel yn dibynnu ar ddefnydd cyrff fel y Mudiad Ysgolion Meithrin i'w gadw i fynd.

    Pensaerniaeth
    Wrth gwrs nid yr agweddau hyn yn unig yw maes llafur y gyfrol hon. Cynnwys sylwadau difyr am bensaernïaeth yr adeiladau hyn a'u cynllunwaith yn allanol ac yn fewnol ac y mae adeiladau yn cael eu darlunio sy'n amrywio'n fawr o ran pensaernïaeth o flychau gwylaidd a diaddurn T Rowland Hughes i demlau rhodresgar gyda thyrau a cholofnau mawrion.

    O ystyried y rhychwant amser nid yw hynny'n syndod:
    "O ran dyddiad, mae'r detholiad yn amrywio o'r capel cynharaf y parheir i'w ddefnyddio gan addolwyr, sef Maesyronnen a adeiladwyd tua 1696, hyd at Berea Newydd, Bangor, un o gapeli newydd Cymru agorwyd yn 2003," meddau D Huw Owen.

    Gwaith trylwyr
    Un peth sy'n amlwg yw nad gwaith i'r gwangalon fu cywain cyfrol fel hon.

    Bu cryn waith casglu gwybodaeth - anfon holiadur at swyddog ym mhob un o'r eglwysi - a bu'n rhaid trefnu i dynnu lluniau ar hyd a lled Cymru a da o beth i hynny ddigwydd gyda'r adeiladau - heb sôn am yr achosion - dan gymaint o warchae.
    Un peth a fyddai wedi bod yn ychwanegiad gwerthfawr i'r gyfrol fyddai map yn dangos lleoliadau - er mae yna gyfeiriad ordnans i bob un a chyda phob capel mae gwybodaeth am yr aelodaeth, pwy yw'r gweinidog a threfn y moddion.
    Glyn Evans.

  • Gwybodaeth ar Gwales Cliciwch

    Capeli'r gyfrol
    Capeli sydd wedi eu cynnwys yn y gyfrol:
    1. ABER-CARN, Eglwys Gymraeg (P)
    2. ABERDÂR, Siloa (A)
    3. ABERGELE, Mynydd Seion (P)
    4. ABERGWAUN, Hermon (B)
    5. ABERHONDDU, Plough (A/R)
    6. ABERTEIFI, Bethania (B)
    7. ABERYSTWYTH, Capel y Morfa
    8. ABERYSTWYTH, Seion (A)
    9. ABERYSTWYTH, Sant Paul (M)
    10. ABERYSTWYTH, Y Tabernacl (P)
    11. BAE COLWYN, Y Tabernacl (B)
    12. Y BALA, Capel Tegid (P)
    13. BANGOR (Gwynedd), Berea Newydd (P)
    14. BANGOR (Gwynedd), Pendref (A)
    15. BETHESDA, Jerusalem, Eglwys Unedig (U)
    16. BLAENAU FFESTINIOG, Jerusalem (A)
    17. BLAENANNERCH (P)
    18. BLAEN-Y-COED (A)
    19. BOW STREET, Y Garn (P)
    20. CAERDYDD, Eglwys y Crwys (P)
    21. CAERDYDD, Salem Treganna/Canton (P)
    22. CAERDYDD, Y Tabernacl (B)
    23. CAERFYRDDIN, Heol Awst (A)
    24. CAERFYRDDIN, Heol Dwr (P)
    25. CAERFYRDDIN, Y Tabernacl (B)
    26. CAERNARFON, Ebenezer (W)
    27. CAERNARFON, Seilo (P)
    28. CAPEL HENDRE (P)
    29. CASLLWCHWR, Moreia (P)
    30. CILFOWYR (B)
    31. CEFNCYMERAU, Salem (B)
    32. CLYDACH, Calfaria (B)
    33. CRICIETH, Berea (B)
    34. DINBYCH, Capel Mawr (P)
    35. DINBYCH, Lôn Swan (A)
    36. DINBYCH, Pendref (W)
    37. DOLANOG, Capel Coffa Ann Griffiths (P)
    38. EFAILISAF, Tabernacl (A)
    39. EIFIONYDD, Capel y Beirdd (B)
    40. FFYNNONHENRI (B)
    41. Y GROES-WEN, Eglwysilan
    42. GWAELOD-Y-GARTH, Bethlehem (A)
    43. HENLLAN AMGOED (A)
    44. HWLFFORDD, Y Tabernacl (CO)
    45. LLANARMON-YN-IÂL, Bethel, Rhiw Iâl (P)
    46. LLANBERIS, Capel Coch (P)
    47. LLANBRYN-MAIR, Hen Gapel (A)
    48. LLANDEGLE, Y Pale (The Pales) (C)
    49. LLANDUDNO, Seilo (P)
    50. LLANDUDNO, Tabernacl (B)
    51. LLANELLI, Capel Als (A)
    52. LLANELLI, Seion (B)
    53. LLANFACHES (R)
    54. LLANFYLLIN, Pendref (A)
    55. LLANGEFNI, Capel Cildwrn (E)
    56. LLANGEFNI, Moreia (P)
    57. LLANGEITHO, Capel Gwynfil (P)
    58. LLANGENNECH, Salem (B)
    59. LLANRWST, Seion (A)
    60. LLANRHAEADR-YM-MOCHNANT (W)
    61. LLANSANNAN (P)
    62. LLANUWCHLLYN, Yr Hen Gapel (A)
    63. LLANWENARTH (B)
    64. LLANYMDDYFRI, Capel Coffa William Williams (P)
    65. LLANYSTUMDWY, Moriah (P)
    66. LLWYNHENDY, Soar (B)
    67. LLWYNRHYDOWEN (U)
    68. LLWYNYPIA, Bethania (P)
    69. MACHYNLLETH, Y Tabernacl
    70. MAESTEG, Bethania (B)
    71. MAESYRONNEN (R)
    72. MARGAM, Beulah (P)
    73. MARTLETWY, Burnett's Hill
    74. NANHORON, Capel Newydd (A)
    75. NEUADD-LWYD (A)
    76. PENRHYN-COCH, Horeb (B)
    77. PEN-Y-GROES (Sir Gaerfyrddin), Y Deml (AP)
    78. PONTARDDULAIS, Y Gopa (P)
    79. PONTROBERT, Hen Gapel John Hughes
    80. PORTHAETHWY, Eglwys Bresbyteraidd Saesneg (P)
    81. PORTHMADOG, Capel y Porth (P)
    82. RHOSLLANNERCHRUGOG, Bethlehem (A)
    83. RHOSLLANNERCHRUGOG, Jerusalem, (P)
    84. RHOS-MEIRCH, Ebenezer (A)
    85. RHUTHUN, Capel Coffa Edward Jones, Bathafarn (W)
    86. RHUTHUN, Y Tabernacl (P)
    87. RHYDAMAN, Bethany, (P)
    88. RHYDAMAN, Gellimanwydd, (A)
    89. RHYDLEWIS, Hawen (A)
    90. RHYDWILYM (A)
    91. Y RHYL, Clwyd Street (P)
    92. SAIN FFAGAN, Pen-rhiw
    93. SAIN TATHAN, Bethesda'r Fro (R)
    94. SOAR Y MYNYDD (P)
    95. TAL-Y-BONT, Bethel (A)
    96. TAN-Y-FRON (P)
    97. TRECYNON, Hen Dy Cwrdd (U)
    98. TREFORYS, Y Tabernacl (A)
    99. TREFRIW, Peniel (P)
    100 TRE-GARTH, Shiloh (W)
    101 TRELAWNYD (A)
    102 TRE-LECH, Capel-y-Graig (A)
    103 TREMADOG, Peniel (P)
    104 Y TYMBL, Bethania (A)
    105 YR WYDDDGRUG, Bethesda (P)
    106 WYSTOG [WOODSTOCK] (P)

    ATODIAD
    107 LERPWL, Bethel, (P)
    108 LLUNDAIN, Jewin (P)
    109 MELBOURNE, Eglwys Gymraeg (P)
    110 PHILADELPHIA, (York County), Rehoboth (Un)
    111 Y WLADFA, Bethel (Un)



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewchi'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy