BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
News imageCymru'r Byd
News image
News imageLlais Llên
News imageAdolygiadau
News imageLlyfrau newydd
News imageAdnabod awdur
News imageGwerthu'n dda
News imageSôn amdanyntNews imagePwy di pwy?
News image
News imageY Talwrn
News image
News imageNewyddion
News imageChwaraeon
News imageY Tywydd
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeonadolygiadau a straeon
Adar Brith
Pobl gwerth eu hadnabod
  • Adolygiad Lowri Rees o Adar Brith gan Lyn Ebenezer. Gwasg y Dref Wen.


  • Does dim yn waeth na rhywun yn cipio llyfr yr ydych ar ganol ei ddarllen ac yn ei fwynhau.

    Dyna'n union fu fy hanes i gydag Adar Brith sydd newydd ei gyhoeddi gan Wasg Dref Wen yn y gyfres Anfarwol.

    Dim ond ychydig benodau oeddwn i wedi'u darllen cyn i'r llyfr ddiflannu dim ond i ail ymddangos ar bwys y toiled, yn y tŷ bach, ar gwpwrdd yn y sied ac ar bwys gwely'r dyn acw!

    Clawr y llyfr O'r diwedd daeth cyfle i'w fachu'n ôl a gweld ar unwaith pam y diflannodd!

    Dyma lyfr gwerth chweil sydd yn cynnig cyfoeth o wybodaeth am adar brith Cymru.

    Ymhlith yr Adar Brith mae cymysgedd o Gymry enwog ac eraill nad ydyn nhw mor adnabyddus i lawer ohonom - neu o leiaf na wyddem gymaint ag y dylem amdanynt.

    Er enghraifft, fel un sy'n enedigol o'r Bala gwyddwn am fodolaeth Betsi Cadwaladr a Choch Bach y Bala ond ni wyddwn yr hanes i gyd.

    Wrth gwrs, gwyddwn mai nyrs oedd Betsi a bod drwgdeimlad rhyngddi hi a Florence Nightingale.

    Dysgu mwy
    Gwyddwn hefyd mai lleidr oedd Coch Bach Y Bala ond yr oedd cyfoeth o wybodaeth newydd i mi yn y llyfr hwn a'm galluogodd i ddysgu mwy am y Cymry hyn ac eraill.

    Penodau o rhyw dair tudalen sydd i bob deryn gan gynnwys rhai mor amrywiol ac anhebyg i'w gilydd â Catrin o Ferain, Gwylliaid Cochion Mawddwy, Dafydd ap Siencyn, Twm Sion Cati a Cayo Evans.

    Mae'n gasgliad gwiw o amrywiaeth o unigolion sydd wedi cydio yn nychymyg y genedl dros y blynyddoedd.

    Gwir fod amryw ohonynt yn 'ddefaid duon' ond mae'n bwysig ein bod yn ymwybodol o'u hanes hwythau hefyd.

    Llyfn ac yn syml
    Mae arddull Lyn Ebenezer yn llyfn, di-lol ac yn syml ac yn cyfleu'r cyffro sydd ynglŷn a'r hanesion megis ym mrawddeg gyntaf hanes Gwylliaid Cochion Mawddwy:

    "Wrth deithio yng nghyffiniau Mawddwy yn y cyfnos llwyd olau hawdd dychmygu herwyr yn cuddio tu ôl i bob llwyn a choeden a chlawdd yn disgwyl am ysbail. A dyna sut oedd pethe yn yr ardal yn dilyn gwrthryfel Owain Glyndŵr."

    Bu'n addysg ac yn bleser darllen Adar Brith sy'n drysorfa o wybodaeth yn ogystal â bod yn gyfle heb ei ail i gael cipolwg ar fywydau Cymry sy'n fwy brith na'r enwogion arferol!

  • Gweler Gwales Cliciwch


  • Llyfrau - gwefan newydd
    Ewchi'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy