BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
News imageCymru'r Byd
News image
News imageLlais Llên
News imageAdolygiadau
News imageLlyfrau newydd
News imageAdnabod awdur
News imageGwerthu'n dda
News imageSôn amdanyntNews imagePwy di pwy?
News image
News imageY Talwrn
News image
News imageNewyddion
News imageChwaraeon
News imageY Tywydd
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeonadolygiadau a straeon
Wedi'r Llanw
Blasu bro gyfoethog
  • Adolygiad Ioan Mai Evans o Wedi'r Llanw gan Gwilym Jones. Gwasg carreg Gwalch. £5.50.

    Wedi'r Llanw yw'r drydedd gyfrol a thrigain yng nghyfres Llafar Gwlad Gwasg Carreg Gwalch.

    Clawr y llyfr Yr awdur yw Gwilym Jones, un o hogia Llŷn sydd wedi treulio'i oes yn Nhudweiliog ac wedi ymserchu yn hanes a thraddodiadau y penrhyn.

    Mae'n golofnydd cyson i'r papur bro, Llanw Llŷn ac wedi cryn berswâd llwyddwyd i'w gael i lunio cyfrol y gellir yn hawdd ei chyfrif yn ben llanw - hynny oherwydd fod yma waith ymchwil llafurus a manylder am ddigwyddiadau ar dir a môr yn Llŷn.

    Hen ysgol
    Hawdd deall y rheswm dros gychwyn yn hen ysgol yr awdur ym Motwnnog.
    Dyma ysgol sydd a'i chefndir addysgol yn ymestyn dros bedwar can m1ynedd.

    Cawn gip ar rai o ragoriaethau 'r ysgol cyn newid cywair i flasu hen fwydydd trigolion Llyn , gan alw i gof flynyddoedd hapus plentyndod - dyddiau corddi , yn gymysg a chwarae ar y tywod crasboeth yn yr haf, a sglefrio ar ddŵr y llyn yn y gaeaf.

    Cofio'r parch oedd yn bod at bawb- "person y plwyf, y gweinidog, athrawon ac yn enwedig y plismon a ddeuai'n ddistaw ar ei feic i'r pentref rhyw ddwywaith yr wythnos.

    Yn dilyn mewn penodau niferus rhaid galw ym Mhwllheli cyn troi i drafod gwaith a diwydiant.

    Fe ddywedodd rhywun rywdro fod yr holl fwynau y cyfeirir atynt yn llyfr y Datguddiad i'w cael ar benrhyn Llŷn. Efallai'n wir, ac er rnwyn gwireddu rhywfaint ar y dybiaeth honedig cawn yma gyfeirio at y manganîs yn y Rhiw a mwynfeydd plwm y Penrhyn Du ger Abersoch.

    Ond pwy a glywodd am Chimney Hill ym mhlwyf LIanfaelrhys?

    Ceir hefyd wybodaeth cwbl wyddonol a thra diddorol yn seiliedig ar y gwahanol Gyfrifiadau .

    Ymysg y mwynwyr oedd yn y Rhiw yn 1861 roedd gwraig 35 oed a'i mab pedair ar ddeg oed yn ôl y Cyfrifiad.

    Chwareli a bwyd
    Troi wedyn at y chwareli ithfaen a fu'n gynhaliaeth i ugeiniau o deuluoedd am flynyddoedd meithion.

    Nesaf, yn ôl at y tir i flasu pennod am y Bwyd Llwy, Picws Mali, Bara Ceirch, a Sucan Gwyn.

    A faint bellach sy'n gyfarwydd ag enwau fel hopren, y Werhyd a sawl un arall a glywodd yr awdur gan ei fam?

    I ddilyn daw dros ugain o luniau prin cyn troi am Ynys Enlli.

    Difyr yw darllen am longau fel Y Monk a'r Stuart ac o'r môr a'i dreialon deuwn at Gyfraith a Threfn a digwyddiadau tra dyrys yn galw am deitlau fel Corff yn y Ffynnon, Helynt Tanrallt, Anfadwaith King's Head, Y Diafol ar y Traeth ac ymlaen at losgi'r ysgol Fomio ym Mhenyberth.

    Cyfeiria hefyd at helyntion cau y tiroedd Comin.

    Hen gymeriadau
    Hoffais yn fawr y portreadau o gymeriadu fel John Price, Doctor Mela, William Blore a Doctor Jones - pob un yn lliwgar ac unigryw.

    Wrth ddod i ben y dalar gyda theitlau fel Dathlu a Dagrau a hanes Ann Sorton cawn wybod pwy oedd yr Edward Hughes a fu farw yn 109 a chael pennawd "End of a remarkable character" yn y wasg.

    Ond cloch Pitar Sion Dafydd sydd yn canu i ddiweddu cyfrol werthfawr am benrhyn Llŷn.

    Clywir llawer o sôn a siarad am ein treftadaeth y dyddiau hyn ond awduron fel Gwilym Jones sydd yn ei diogelu a'i gwarchod.

    Mae'r gyfrol yn darllen yn rhwydd , a gwaith Gwasg Carreg Gwalch yn gymen fel arfer. Y pris yn dra rhesymol am £5.50.



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewchi'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy