BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
News imageCymru'r Byd
News image
News imageLlais Llên
News imageAdolygiadau
News imageLlyfrau newydd
News imageAdnabod awdur
News imageGwerthu'n dda
News imageSôn amdanyntNews imagePwy di pwy?
News image
News imageY Talwrn
News image
News imageNewyddion
News imageChwaraeon
News imageY Tywydd
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeonadolygiadau a straeon
Twm Morys - ofni'r dyfodol
Dydi'r Prifardd Twm Morys ddim yn obeithiol ynglŷn â dyfodol y Gymraeg ym mro ei febyd.
Nid yw o'r farn, meddai, y bydd yn cael ei hadfer yno.

Dychwelodd Twm Morys i ardal y Mynydd Du ger Y Fenni ar gyfer rhaglen deledu gyda Iolo Williams yn y gyfres Crwydro ar S4C.

Bu'r teulu yn byw ar lethrau Twyn y Gaer, ardal lle mae'r iaith Gymraeg wedi hen ddiflannu.

"Mewn lle fel hyn y mae llawer iawn o bobl sydd heb lawer o gysylltiad gyda'r ardal a'r hanes ac yn methu dweud enwau'r tai maent yn byw ynddynt," meddai Twm, bardd cadeiriol yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod, 2003.

"Mae'n anodd iawn meddwl sut y byddai rhywun yn dod â iaith gyfan a phopeth sydd ynghlwm â hi yn ôl i ardal fel hon," meddai.

Yn aelod o'r mudiad iaith Cymuned, ei ofn yw y gall yr un peth ddigwydd i ardaloedd eraill yng Nghymru.

"Fel hyn dwi'n gweld Cymru ymhen dim llawer iawn o amser os nad oes rhywbeth go fawr yn cael ei wneud," rhybuddiodd.

Ar gyfer y rhaglen, ymwelodd Twm a Iolo â chartref y melinwr John Williams, un o Gymry Cymraeg olaf y cwm yn nhridegau'r ganrif ddiwethaf.

Dywedodd Twm fod clywed llais yr hen felinydd a recordiwyd gan yr Athro TJ Morgan yn gyrru ias i lawr ei gefn.

Ond er bod yr iaith wedi diflannu o'r ardal mae'r enwau Cymraeg yn parhau.

Yn fab i'r awdur Jan Morris - James Morris cynt - bu Twm yn sôn hefyd am y newid mawr y bu'n rhaid i'r teulu ddygymod ag ef.

"Tydi o ddim wedi effeithio arna fi yn negyddol," meddai.

"Mae wedi dysgu i mi, hawl pawb i fod ei hun, yn ei ffordd ei hun yn ôl ei ddewis ei hun," meddai.

Crwydro: nos Fercher, Mehefin 29, 21.00. S4C a phob prynhawn Sul ar S4C digidol.



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewchi'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy