|  |
 |  |  |  |  | |  | Clybiau llyfrau yn llwyddiant Canmolwyd llwyddiant y clybiau llyfrau i blant, Sbri-di-ri a Sbondonics gan Gyngor Llyfrau Cymru.
Dywedodd fod y clybiau hyn "yn mynd o nerth i nerth", gyda mwy o lyfrau nag erioed wedi eu prynu yn ystod y tymor diwethaf.
"Diolch i frwdfrydedd athrawon ledled Cymru, fe sicrhawyd archebion gwerth £37,000 yn ystod tymor yr hydref 2004," meddai'r Cyngor Llyfrau mewn datganiad.
Mae'r clybiau, a weinyddir gan y Cyngor Llyfrau, yn cael eu trefnu drwy gylchoedd meithrin Cymru ac ysgolion cynradd gyda chyfle i bob plentyn brynu llyfrau o'u dewis.
"Oherwydd y dewis gwych o lyfrau oedd wedi eu cynnwys yn y taflenni a ddosbarthwyd, rydym wedi llwyddo'n rhyfeddol i gynyddu'r gwerthiant unwaith eto,' meddai Delyth Humphreys o'r Cyngor.
"Mae'n amlwg bod athrawon a rhieni yn gwerthfawrogi'r cyfle i sicrhau llyfrau i'r plant, ac y mae'r plant eu hunain hefyd yn mwynhau'r darllen," ychwanegodd.
Er mwyn sicrhau bod y cynnydd yn cael ei gynnal, mae'r Cyngor Llyfrau yn cynnig tocynnau llyfrau gwerth £5 yr un i'r 500 cyntaf sy'n prynu llyfrau y tymor hwn.
Cyfle gwych, felly, i'r plant fwynhau rhagor o lyfrau!Cysylltiadau Perthnasol Clybiau llyfrau y Cyngor Llyfrau 
 |
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|  |
|  | |  | |  | |  | |  |  |  | Sôn amdanynt Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
|  |  |
|  | |  |  |  | Gair am air: Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|  |  |
|
|
|