BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
News imageCymru'r Byd
News image
News imageLlais Llên
News imageAdolygiadau
News imageLlyfrau newydd
News imageAdnabod awdur
News imageGwerthu'n dda
News imageSôn amdanyntNews imagePwy di pwy?
News image
News imageY Talwrn
News image
News imageNewyddion
News imageChwaraeon
News imageY Tywydd
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeonadolygiadau a straeon
Trysorfa T Llew Jones
Rhamant y gorffennol
Adolygiad Eiry Miles o Trysorfa T Llew Jones Gol. Tudur Dylan. Lluniau Jac Jones. Gwasg Gomer. £12.99.

T Llew Jones oedd fy hoff awdur pan oeddwn yn blentyn.
Tra byddai'r rhan fwyaf o'm cyfoedion yn torri lluniau o Bros a Kylie allan o Smash Hits, byddwn i a'm ffrindiau pennaf yn darllen ac yn ail ddarllen llyfrau T Llew Jones, ac yn dysgu rhannau o'i nofelau ar ein cof wrth baratoi ar gyfer cystadlaethau y Cwis Llyfrau.

Clawr y llyfr Enillon ni'r gystadleuaeth un tro, a chael mynd ar drip ardderchog i Iwerddon yn wobr. Rwy'n ddiolchgar i T Llew am hynny, ac am sbarduno fy niddordeb mewn llyfrau o oedran cynnar.

Ond rwyf hefyd yn sicr mai T Llew sydd i'w feio am gyflwr truenus fy llygaid. Roedd ei storïau'n llawer rhy afaelgar i'w gadael tan y bore, felly byddai'n rhaid i mi eu darllen o dan fy nghwilt gyda torts.

Profiad emosiynol
Oherwydd hyn, roedd troi at waith T Llew unwaith eto yn brofiad emosiynol ac fe deimlwn braidd yn nerfus.

A fyddai'r hudoliaeth wedi diflannu? Wedi'r cyfan, roeddwn yn ffan o Ma Ifan 'Ma flynyddoedd yn ôl hefyd, ond buasai'n rhaid i mi gael fy nhalu'n reit hael i wylio'r rhaglen heddiw.

Nid oedd angen i mi boeni - rwyf nawr yn fwy o ffan T Llew nag erioed.

Amrywiaeth
Ceir yn y gyfrol amrywiaeth o ddeunydd - cerddi ysgafn, straeon byrion, hen chwedlau a phytiau o'i nofelau.

Yn plethu'r cyfan ynghyd, mae lluniau celfydd Jac Jones, sydd bob amser yn taro deuddeg. Maen nhw'n lliwgar a chartwnaidd ar gyfer straeon ysgafn fel Roced Doctor Nac, ond yn dywyll ac yn ddramatig wrth bortreadu cymeriadau fel Barti Ddu.

O droi at y cerddi, syndod oedd sylweddoli fy mod yn cofio cymaint ohonynt.

Gan fod y mwyafrif yn ddigri' ac wedi'u hysgrifennu o safbwynt plentyn, maen nhw'n ddarnau delfrydol i'w hadrodd mewn eisteddfodau, gyda digon o sgôp i blentyn wneud 'stumiau hurt. Ond mae ergyd galed gan ambell gerdd fel Aberfan, er bod eu harddull yn syml a storïol.

Storïwr penigamp
Dengys dehongliadau T Llew Jones o chwedlau poblogaidd ei fod yn storïwr penigamp.

Straeon o fro ei febyd yw rhai, fel Gwlad yr Enwau Rhyfedd a Cloch Eglwys Mwnt - straeon digri a glywodd gan ei fam-gu, mae'n debyg.

Mae tafodiaith Dyffryn Teifi yn atsain drwy'r cyfan, ond erys ei arddull bob amser yn glir a chynnil.

Wrth gwrs, mae fformwlâu T Llew Jones yn fwy amlwg i oedolyn nag i blentyn. Gellir rhagweld diweddglo rhai straeon o'r dechrau, ac mae bron pob pennod yn gorffen ar adeg argyfyngus.

Ond gydag ychydig eiriau, gall T Llew osod golygfa a chadw'r darllenydd ar bigau'r drain. Mae ei grefft ar ei gorau yn Un Noson Dywyll:

"Ar y foment honno fflachiodd mellten ar draws yr awyr, ac am eiliad gwelodd Tomos Wiliam y marchog dieithr yn glir. Gŵr ifanc ydoedd a'i wyneb fel y galchen o wyn o dan ei het ddu, a oedd yn dripian glaw. Yna roedd y tywyllwch wedi syrthio rhyngddyn nhw drachefn ..."

Y gorffennol yn fyw
Byddai'n rhaid i berson fod yn sinig llwyr i beidio a chael ei swyno gan gymeriadau mawr awdurdodol fel Barti Ddu a Harri Morgan. Llwydda T Llew Jones i roi cig a gwaed ar gymeriadau hanesyddol, gan ddod â'r gorffennol yn fyw.

Caiff y darllenydd ei gludo i fyd llawn cyffro a rhamant, i weld gwrthdaro ffyrnig rhwng tlodion gonest a thirfeddianwyr trachwantus, y sipsi a'r sgweier, ceidwad y tollborth a'r ffermwr gorthrymedig.

Does ryfedd i mi ddymuno cael teithio yn ôl mewn amser un tro - roedd y gorffennol i'w weld dipyn yn fwy cyffrous a rhamantus na'r 1980au.

Fodd bynnag, nid anturiaethau ysgafn a hwyliog yw'r cyfan. Cefais sioc o gofio mor dorcalonnus o drist yw Tân ar y Comin, er enghraifft.

Yng nghanol edmygwyr Mae'r darn sydd yn y gyfrol -disgrifiad o Tim Boswell yn canfod corff ei dad-cu - yn arbennig o drawiadol ac yn sicr o ysgogi unrhyw blentyn i ddarllen y nofel i gyd.

Ac nid rhyw gyfrol Boy's Own yw hi chwaith - mae digon o gymeriadau benywaidd cryf sydd yr un mor fentrus â'r bechgyn, megis Gwen a Nel yn y stori fer Y Wennol.

Dim llyfryddiaeth
Fy unig gŵyn am y llyfr yw y buaswn wedi hoffi cael llyfryddiaeth yn y cefn, i gael rhagor o fanylion am y gweithiau, ac i wybod a oedden nhw'n dal i fod mewn print.

Wedi darllen ambell i bwt o nofel, roeddwn yn ysu am gael y nofel gyfan o 'mlaen, er mwyn gallu gorffen y stori. Ond cwyn fach yw honno, ac nid amharodd ar fy mwynhad o'r gyfrol hardd hon.

Yn ogystal â chyflwyno gwaith y llenor pwysig hwn i genhedlaeth newydd, bydd Trysorfa T Llew Jones yn cloriannu ei gyfraniad mawr i lenyddiaeth Gymraeg. Braf yw gweld T Llew Jones yn derbyn cydnabyddiaeth haeddiannol o'r diwedd.



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewchi'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy