BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
News imageCymru'r Byd
News image
News imageLlais Llên
News imageAdolygiadau
News imageLlyfrau newydd
News imageAdnabod awdur
News imageGwerthu'n dda
News imageSôn amdanyntNews imagePwy di pwy?
News image
News imageY Talwrn
News image
News imageNewyddion
News imageChwaraeon
News imageY Tywydd
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeonadolygiadau a straeon
Idris y Cawr
Blas newydd ar hen chwedl
Yn ddiweddar bum yn eistedd yng Nghanolfan Hamdden Y Bala yn gwrando a'r Catherine Aran yn diddori llond neuadd o blant gyda stori am gawr.

Stori dda oedd hi hefyd gyda digon o symudiadau a'r plant wedi gwirioni a phob un yn gwrando yn astud.

Clawr y llyfr Dim rhyfedd, felly, fy mod i wrth fy modd pan ofynnwyd imi adolygu llyfr gan yr awdures a chael cyfle arall i ddianc i fywyd plentyn, a phori yn ei gwaith.

Stori wedi ei hysgrifennu'n gain yw Idris y Cawr ac yn sôn am gawr addfwyn yn byw ymhlith criw o gewri cas a milain.

Aiff pethau o ddrwg i waeth pan fo Idris yn syrthio mewn cariad!

Bwriedir y llyfr ar gyfer plant oddeutu saith oed a disgrifir y stori yn y rhagair fel un wreiddiol ond gyda naws chwedl iddi.

Taflu cerrig
Yn bendant, mae Meirionnydd yn gyforiog o chwedlau ac wrth ddarllen hon cefais fy atgoffa am hanes cawr ar ei ffordd i nôl diod o ddŵr yn Llyn Tegid yn gorfod stopio ar y ffordd o Drawsfynydd i Lanuwchllyn gan fod yna garreg yn ei esgid.
Mae'r garreg anferth honno i'w weld o hyd ar ochr y ffordd!

"Yhi !Ha!" sgrechiodd Idris gan neidio i fyny ac i lawr a thaflu creigiau i'r awyr fel conffeti.
"Glaniodd y cerrig ar hyd ac ar led Meirionnydd ac mnaen nhw'n dal i fod yno hyd heddiw."

Mae lluniau digri a thrawiadol Eric Heyman sydd blith draphlith drwy'r llyfr yn mynd i ychwanegu'n fawr at fwynhad plant.

Cawr Cader Idris yw Idris, yn byw yng nghanol mynyddoedd Meirionnydd a phan enillodd Rhita gawres ei galon ni feiddiai adael y tŷ gan fod ganddo gymaint o ofn y cewri eraill.

Ond pan fentra un noson gwel y peth prydferthaf a welodd - y lleuad - ac o dipyn i beth, wedi cyfres o ymweliadau, mae'n syrthio dros ei ben a'i glustiau mewn cariad â'r Lleuad!

"Ymhen y flwyddyn roedd Idris a Lleuad mewn cariad, a phen-ôl Idris wedi naddu set gyfforddus iddo'i hun ar ben y mynydd wrth iddo eistedd a sgwrsio am oriau. Cader Idris ydi'r enw ar y mynydd hyd heddiw."

Mae Idris yn dyheu am fod gyda'r lleuad ac felly dan gyfarwyddiadau'r lleuad mae'n mynd ar daith i chwilio am y Creadur Di-droed a'r Llwybr Arian - taith anturus a pheryglus y mae'r awdures yn disgrifio pob cam ohoni yn gelfydd ac yn effeithiol."Ia, bod yn ddewr ydi pan mae rhywun yn gorfod gwneud rhywbeth anodd iawn, a'r ofn yn gwneud i'w du mewn grynu fel jeli. Ond mae o'n dal i'w wneud o!" meddai.

Dawn arbennig
Disgrifir golygfeydd mewn manylder a hynny'n fodd i greu darluniau trawiadol ym meddyliau plant - mae'n ddawn arbennig.

Mae'n chwedl wych hefyd, yn ymgorffori byd natur, chwedlau a dywediadau.

Felly os yw plentyn yn holi beth yw'r wyneb a welir ar y lleuad cyfeiriwch o at Idris y Cawr gan Catherine Aran.

Cysylltiadau Perthnasol
Holi Catherine Aran


cyfannwch

caryl mynydd nefyn
Maer stori yn dda iawn rwyf wedi ddysgu mwy am idris y cawr nag on i o blaen.



Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewchi'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy