BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
News imageCymru'r Byd
News image
News imageLlais Llên
News imageAdolygiadau
News imageLlyfrau newydd
News imageAdnabod awdur
News imageGwerthu'n dda
News imageSôn amdanyntNews imagePwy di pwy?
News image
News imageY Talwrn
News image
News imageNewyddion
News imageChwaraeon
News imageY Tywydd
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeonadolygiadau a straeon
Mae Rhywun yn Gwybod
Chwythu fflamau ymgyrch losgi
Adolygiad Gwilym Owen o Mae Rhywun yn Gwybod gan Alwyn Gruffydd. Gwasg Carreg Gwalch.

Mae'n anodd credu fod chwarter canrif wedi mynd heibio ers y bore hwnnw ym mis Rhagfyr 1979 pan ganodd y ffôn yn swyddfa HTV Cymru ym Mangor gyda neges fod tân wedi bod dros nos mewn bwthyn o'r enw Tyddyn Gwêr ar Fynydd Nefyn.

Dywedodd y neges hefyd fod yna rywbeth tebyg wedi digwydd yn Sir Benfro.

Rhuthrodd Roger Richards, y gŵr camera, a minnau yno - a ni oedd y cyntaf i gyrraedd. Roeddem ni yno cyn i'r swyddogion o Heddlu Gogledd Cymru ddod o hyd i'r lle.

Roedd Roger wedi cael ei luniau cyn i'r swyddog roi gorchymyn inni adael gan ddweud nad oedd stori yno. Mellten oedd wedi taro Tyddyn Gwêr.

Neges arall
Ychydig yn ddiweddarach cafodd Roger a minnau neges arall a chawsom ein hunain yn Sŵn y Môr, Llanbedrog.

Unwaith eto roedden ni yno o flaen yr un swyddog â'i ddynion.

"Mae'r mellt wedi bod yn brysur neithiwr," meddwn i wrtho. Ond doedd o ddim yn gweld y jôc!

Ond yr oedd yntau erbyn hynny yn dechrau gweld fod rhywbeth ar droed.

Roedd yr ymgyrch losgi tai haf wedi cychwyn.

Ymchwil manwl
A chroniclo hanes yr ymgyrch honno y mae Alwyn Gruffydd yn ei gyfrol, Mae Rhywun yn Gwybod.
A does dim dadl nad yw'r awdur wedi cadw cofnod gofalus o'r hyn ddigwyddodd yn ystod y degawd, a mwy, o losgi ledled Cymru.

Clawr y llyfr Ac ar y lefel honno mae'r gyfrol hon yn ddogfen hanesyddol bwysig ac yn dangos ymchwil manwl gyda chofnod o bron bob tân a fu.

I rywun fyddai'n dymuno mynd at i ddadansoddi lle'r ymgyrch losgi yn hanes Cymru mae gwaith Alwyn Gruffydd yn mynd i fod yn amhrisiadwy.

Ond go brin y gallai'r awdur na'i gyhoeddwyr ddadlau eu bod nhw wedi cyflwyno gwaith gwrthrychol yn y gyfrol hon.

Yn wir, mae'r cyhoeddiad yn f'atgoffa i o'r dyddiau hynny pan oeddwn i'n mynd i'r pictiwrs yn Amlwch erstalwm ar bnawn Sadwrn i weld ffilmiau cowbois.

Roedd yna gowbois da a chowbois drwg - a dyna fel mae hi yn y gyfrol hon.

Y cowbois da drwy'r stori ydi'r llosgwyr a'u cefnogwyr. Y cowbois drwg, yr heddlu - Heddlu Gogledd Cymru a'r heddlu cudd, yn ogystal ag unrhyw un a godai lais yn erbyn yr ymgyrchwyr.

A chan fod yr awdur yn ei ddisgrifio ei hun fel newyddiadurwr i'r BBC yn ystod y cyfnod, tybed na ddylai fod yn ymagweddu ychydig yn fwy eang ei olygon wrth drafod y digwyddiadau?

Wrth gwrs, roedd yna gydymdeimlad ymhlith gwerin Cymru â gwaith y llosgwyr ond mi dybiwn i - fel un oedd yn newyddiadura yr un pryd ag Alwyn Gruffydd - fod mwyafrif pobl Cymru yn wrthwynebus ac yn ofni peryglon gweithredu o'r fath.

Fe garwn i fod wedi gweld peth o hynny yn y gyfrol hon.

Mae'r agwedd unllygeidiog yn cyrraedd penllanw pan yw'r awdur yn dychanu'r ddau fargyfreithiwr a oedd yn erlyn y triawd yn Llys y Goron yng Nghaernarfon.

Yr Arglwydd Martin Thomas yn cael swadan am ei fethiannau gwleidyddol ac nid yw Michael Farmer yn cael llawer gwell triniaeth tra bo'r tri oedd yn amddiffyn Sion Aubrey Roberts, Dewi Prysor Williams a David Gareth Davies, yn cael eu darlunio fel arwyr cyfreithiol.

Mae pethau fel hyn sy'n codi cwestiynau am hygrededd y dadansoddi yn y gyfrol hon.

Dau'n cyfarfod
Ac mae gen i ddau gwestiwn bach arall.
Yn gyntaf, mae'r gyfrol yn cychwyn gyda pharagraff sy'n ddirgelwch llwyr a'r awdur yn cyhoeddi fel ffaith ei fod o'n gwybod i ddau lanc gyfarfod ym Mhen Llŷn y noson cyn i'r ymgyrch gychwyn.

Bwriad y ddau oedd rhoi ystyriaeth ddwys i weithredu'n uniongyrchol yn erbyn tai haf. Teimlai'r ddau nad oedd dewis arall. Teimlai'r ddau mai digon oedd digon. A llosgi tai oedd eu bwriad - fe wneir hynny yn gwbl glir. Ditectifs yn ymchwilio - un o nifer o luniau yn y llyfr

Ond cawsant eu goddiweddyd gan yr ymgyrch arall a barhaodd am flynyddoedd.

Pwy oedd y ddau yma? Ydi'r awdur yn gwybod? Yn amlwg mae 'rhywun yn gwybod'.
Dirgelwch rhyfedd ydi hwn.

Digwyddiad rhyfedd arall
A rŵan, digwyddiad rhyfedd arall na chaiff ei esbonio'n llawn yn y gyfrol.

Mae'n amlwg fod Alwyn Gruffydd wedi penderfynu ymweld â Sion Aubrey Roberts yn y carchar yn Full Sutton yn Efrog.

Disgrifia hunllef y carchar mewn manylder; mae'n sôn am y trafferthion o gael ymweld â'r carcharor a'r gorchmynion oedd yn rhaid ufuddhau iddyn nhw.
Ond yna'n sydyn ynghanol sgwrs mae Sion Aubrey yn codi o'r gadair a gadael yr ymwelydd heb ddweud gair na ffarwelio - dim ond ymuno â'r swyddogion a mynd yn ôl i'w gell.

Nid yw'r awdur yn ceisio esbonio'r diflaniad swta.

Ond efallai fod Sion yn cofio'r bore hwnnw yng Nghaernarfon pan gafodd ei ddedfrydu ar ei ben ei hun i ddeuddeng mlynedd o garchar.

Fel y dywaid Alwyn Gruffydd yn ei gyfrol, bu degau o Gymry 'da' yn y Llys yn cefnogi'r triawd. Roedden nhw yno'n llawenhau pan ryddhawyd Dewi Prysor Williams a Gareth Davies.

Ond â Sion Aubrey wedi ei gael yn euog ac ar y ffordd i'w gosbi doedd yna'r un copa walltog o honedig gefnogwyr yno.

Roedd o ar ei ben ei hun a neb eisiau cael eu gweld yn ei gwmni.

Ai talu'r pwyth yn ôl a wnaeth yntau y bore hwnnw yn Full Sutton?

Darlun manwl
Y mae cyhoeddi Mae Rhywun yn Gwybod wedi rhoi darlun manwl iawn inni o fanion yr ymgyrch losgi tai haf yng Nghymru ac mae lle i ddiolch i Alwyn Gruffydd am hynny.

Ond mae'n ddrwg gen i, mae ei ddadansoddiad a'i ganfyddiad o'r digwyddiadau hynny yn creu amheuaeth fawr yn fy meddwl i.

A taswn i'n gwbl onest, doeddwn i ddim yn hoffi ffilmiau cowbois 'chwaith!



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewchi'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy